You are currently browsing the tag archive for the ‘Crefydd’ tag.

BYDD fy nofel “Apostol” yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn y mis nesa.

Nofel am yr apostol Paul ydi hi – neu Paulos Shaul Tarsos fel mae o’n cael ei alw yn fy nofel.

Ar ôl cyhoeddi “Iddew” yn 2016, a derbyn ymateb positif dros ben, roeddwn i’n meddwl y buaswn i’n hoffi mynd ati i ysgrifennu am Paul, sefydlydd Cristnogaeth.

Credais y byddai’n haws na mynd i’r afael â Iesu. Roedd Paul, o leia, wedi ysgrifennu llythyrau, ac roedd ei gredoau’n fwy concrit na rhai Iesu. Mae Iesu’n reit amwys ac yn ddim ond adlewyrchiad o’r Cristion sydd yn ei addoli.

Ond y peth ydi, mae stori Iesu’n gyfleus. Mae hi bron fel ei bod hi wedi cael ei dyfeisio. Ffitir y stori i batrwm traddodiadol yr oes: iachawdwr wedi ei eni i dduw ac gwraig feidriol; mae’n herio’r status quo; mae’n cael ei ladd; mae’n atgyfodi. Dim ond llenwi’r bylchau sydd raid.

Mae Paul yn fwy o broblem. Arwahân i Actau’r Apostolion, nid oes fawr o sôn ar yr hyn a wnaeth Paul. Y broblem yw, ni ellid trystio’r Actau. Mae haneswyr yn ama geirwiredd y dogfennau. Ac mae’n gwrth-ddweud adroddiadau Paul ei hun.

Beth sy’n rhyfedd yw nad oes unrhyw ffynonellau eraill am rhai o’r straeon amlycaf am Paul, fel, er enghraifft, ei droedigaeth ar y ffordd i  Ddamascus. Nid yw Paul yn cyfeirio at y digwyddiad ysgytwol yma yn ei lythyrau, hyd yn oed.

Hefyd, nid oes farw o strwythur i hanes Paul. “Ac yna, ac yna, ac yna” yw llîf y naratif. Mewn stori sydd wedi ei hadeiladu, mae un digwyddiad yn llifo i’r llall: “Oherwydd hyn, fe aeth Iesu i Jerwsalem, ond roedd…”

Felly roedd yn rhaid cael y llif hynny yn “Apostol”. Rhaid i chi aros tan mis nesa i weld os ydw i wedi llwyddo ai pheidio. Bydd y lansiad yng Nghanolfan Telford, Porthaethwy ar Fehefin 14.

Screen Shot 2017-07-30 at 10.51.08OS NA glywsoch chi am “whataboutery?” a beio dioddefwyr (“victim-blaming”), darllenwch erthygl Guto Prys ap Gwynfor yn y rhifyn Gorffennaf/Awst o’r cylchgrawn Cristion.

Teitl yr erthygl yw “Terroristiaeth”. Dwi ddim yn amau bod yr awdur yn ddiffuant. Ond nid yw ei lid wedi ei anelu tuag at y Wladwriaeth Islamaidd gyflawnodd yr ymosodiadau ym Maenceinion a Llundain, a sy’n dal i fwriadu mwrdro o gwmpas y byd — bu ymosodiad ychydig dyddiau’n ôl yn Hambwrg a datgelwyd plot yn Awstralia dros y benwythnos i ffrwydro awyrennau o’r awyr. Yn hytrach, mae Mr ap Gwynfor yn targedu’r targedi, y Gorllewin yn gyffredinnol.

Nhw — ni — sydd ar fai, mae’n debyg.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

Ar ôl terfysgiaeth Islamaidd, daw’r pryfaid yma o’r pren: Y Dde ragfarnllyd, y Chwith apolegyddol.

Mae’r ddwy ochr cyn waethed a’i gilydd. Y ddwy ochr yn chwilio am fai. Y ddwy ochr wedi eu rhwymo gan edioleg. Methu’n lan a datglymu eu hunain. Gwrthod, i ddweud y gwir. Yn hapus yn ei rhaffau. Fel pob ffwndamentalwr. Ac fel pob ffwndamentalwr, mae’r ddwy ochor yn ddall.

O’r Dde daw: Bai’r Llywodraeth ydi hyn i gyd am iddyn nhw adael i’r mewnfudwyr yma i gyd i mewn. Be ydach chi’n ddisgwyl? O’r Chwith daw: Bai’r Llywodraeth ydi hyn i gyd am iddyn nhw fomio Irac a Syria. Be ydach chi’n ddisgwyl?

Dall, ylwch. Y Dde ragfarnllyd yn ddall i’r ffaith bod y terfysgwr Islamaidd fwrdrodd dri o bobl yn Llundain ddoe wedi ei eni a’i fagu ym Mhrydain. Y Chwith apolegyddol yn ddall i’r ffaith bod gwledydd nad ydynt wedi gollwng yr un bom wedi diodde ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd. Y Dde ragfarnllyd yn ddall i’r ffaith bod elfennau o fewn Mwslemiaeth yn brwydro’n erbyn eithafiaeth ac yn cefnogi democratiaeth, hawliau dynol a gwerthoedd rhyddfrydol tebyg. Y Chwith apolegyddol yn ddall i’r ffaith bod elfennau o fewn Mwslemiaeth am ddinistrio’n ffordd o fyw ac yn casáu democratiaeth, hawliau dynol a gwerthoedd rhyddfrydol tebyg.

Rhyfedd mai nid y rhai fu farw ac a anafwyd yn Westminster ddoe sydd gynta ar feddyliau’r rhagfarnllyd a’r apolegyddion. Y peth cynta ddaw i’w meddyliau nhw: eu naratif.

Naratif y Dde ragfarnllyd: Rhaid i ni feindio’n busnes. Naratif y Chwith apolegyddol: Rhaid i ni feindio’n busnes.

Ewadd, dyna i chi ryfedd: dwy asgell, un naratif. Nodwch hyn: Mae’r Chwith apolegyddol a’r Dde ragfarnllyd yn debycach i’w gilydd na fyddai unrhyw addolwr o’r naill eidioleg yn barod i gyfadde.

Edrychwch ar Trump a Corbyn. Maen nhw’n rhannu mêts. Un mynwesol: Putin. Ac un arall: Jiwlian Assange. Amddiffynodd Corbyn Assange am ddianc cyfiawnder yn Sweden. Llyfodd y Chwith ei dîn pan ryddhaodd ddogfennau’n ymwneud gyda’r rhyfeloedd yn Affganisitan ac Irac. Roedd hi’n embaras iddyn nhw pan ddechreuodd Assange fwytho Trump. Dywedodd y Jiwlian bod ethol y Donald yn “gyfle am newid” yn yr Unol Daleithiau. Cyn hynny bu Assange yn ganmoladwy tuag at Corbyn.

Mae Bill Clinton wedi cymharu Trump a Corbyn hefyd (yn fwy doniol; mewn recordiad ryddhawyd gan gyfeillion Assange, yn digwydd bod):

When people feel they’ve been shafted and they don’t expect anything to happen anyway, they just want the maddest person in the room to represent them.

Da iawn, Bill: disgrifiad addas o’r ddwy asgell.

Gofynnwch hyn: Pwy sy’n pleidleisio i Ukip yn ngogledd Lloegr? Hen sosialwyr? Nifer fawr iawn ohonynt. Nifer fawr iawn. Asgwrn cefn cefnogaeth y blaid. Mae Paul Nuttall, arweinydd Ukip, am dargedu seddi Llafur. Rhaid i Lafur obeithio y bydd Ukip yn gwneud siop siafins ohoni fel ddaru nhw yn Canolbarth Stoke fis Chwefror. Neu mi fydd hi’n siop siafins arnyn nhw. Wel, yn fwy o siop siafins nac ydi hi ar hyn o bryd, ac mae hi’n un go hegar fel y mae hi.

Mae bwriadau’r Chwith apolegyddol a’r Dde ragfarnllyd yr un peth: cymdeithas homogenaidd. O’r un lliw. O’r un grefydd. O’r un eidioleg. O’r un dosbarth cymdeithasol. Y gelyn: yr “elît” (dewisiwch chi gyfansoddiad yr “elît”: y cyfoethog, y rhyddfrydol, madfallod o’r Blaned Mawrth). Y gelyn: rhyddfrydiaeth (dewisiwch chi gyfansoddiad rhyddfrydiaeth: “neo-cons”, y BBC, Gary Lineker).

Ond dyma natur y Dde ragfarnllyd a’r Chwith apolegyddol: Maen nhw’n frodyr ac yn chwiorydd i’w gilydd. Mae’r naill yn adlewyrchiad o’r llall. Ac un gelyn sydd ganddyn nhw go iawn: nhw eu hunain. Mae geiriau Pogo yn strip cartŵn Walt Kelly yn cyfleu’r llais bach tawel sy’n tarfu ar y naill asgell pan mae hi’n syllu i fyw llygaid y llall:

We have met the enemy and he is us.

Fasa hidia i’r gweddill ohona ni ddatgelu hyn amdanyn nhw, pob cyfle.

Dyma ail ran fy adolygiad o Duw Yw’r Broblem gan Cynog
Dafis ac Aled Jones Williams. I ddarllen Rhan 1, ewch yma.

DYB.phpMae crefyddwyr cymedrol yn galluogi crefyddwyr eithafol. Yr un yw eu dadleuon. Mater o ddadansoddiad yw eu daliadau.

Dyma fu dadl Richard Dawkins a Sam Harris – dau o’r anffyddwyr newydd sy’n wynebu llid Cynog Dafis yn Duw Yw’r Broblem (Carreg Gwalch, £8) – ers tro byd.

Ond pwy sydd i ddweud mai’r cymedrol sydd gyda’r dadansoddiad cywir? Ni allent brofi mai nhw yw gwir ladmeryddion eu crefydd.

Dyma wendid dadl y rhai sy’n honni nad yw dadansoddiad Isis o’r Coran yn cynrychioli ‘gwir’ Islam, neu bod dadansoddiad Cristnogion asgell dde Americanaidd o’r Beibl yn cynrychioli ‘gwir’ Gristnogaeth.

Mae’r ddadl hon yn wallus. Nid oes unrhyw fwy o sail i ddadansoddiad John Hill (saethodd feddyg yn farw o flaen clinig erthylu yn Florida yn 1994) o’r Beibl na sydd i ddadansoddiad Dafis, oni bai bod dadansoddiad Dafis fymryn yn fwy derbyniol i ni.

Yn wir, fe glywson ddadl debyg ar ôl cyflafan Orlando: nad oedd gan ymosodiad Omar Mateen ar glwb nos hoyw yn Florida ddim i’w wneud gyda Islam.

Dyma yw craidd ymosodiad Dafis ar yr anffyddwyr newydd, Dawkins yn enwedig.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

aaronburden

Tydi copi o ddogfen ddim yn brawf o wirionedd yr honiadau sy’n ymddangos yn y ddogfen honno / Llun: Unsplash/Aaron Burden

Cefais drafodaeth gyda Cristion ar-lein oedd yn honni fod y ffaith fod yna 5,000 o gopïau o ddogfennau o’r Testament Newydd yn bodoli yn profi pa mor ddibynadwy, ac i’w drystio, oedd y testun.

Gofynnais iddo os oedd y ffaith fod yna 500,000 copi o The Protocols Of The Elders Of Zion yn bodoli yn yr 1920au yn yr Unol Daleithiau yn brawf bod y llyfr erchyll, gwrth-semitaidd, celwyddig a hiliol hwnnw yn ddibynadwy ac i’w drystio.

Ni chefais ateb.

Mae dadl y 5,000 copi (mae yna ar draws 25,000 i gyd; 5,000 sydd yn yr iaith Roegaidd) yn codi pen yn aml pan mae rhywun yn sgwrsio efo Cristnogion, ac yn trafod y Testament Newydd.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

ar gyfer blog Stefan Kunze unsplash

Chwilio am gwmni a chyfeillgarwch mae’r ffyddlon. Llun: Stefan Kunze/Unsplash

Gwyliais Cymru: Dal I Gredu ar S4C yn ddiweddar. Wn i, mae hi’n fisoedd ers i’r rhaglen gael ei darlledu. Ond dwi’n ara deg yn dal i fyny efo S4C, a Cymru, finnau’n byw yn Ne Ddwyrain Lloegr. Maddeuwch i mi. Roedd y rhaglen wedi eistedd yn “Planner” fy Sky+ am oes pys.

Beth bynnag, yn y rhaglen roedd Gwion Hallam yn crwydro’r wlad yn holi os oedd y Cymry’n dal yn dduwiol. Roedd Gwion yn efengylwr unwaith. Mae o wedi colli ei ffydd bellach. Ond roedd o’n swnio’n hiraethus am ei hen gred drwy gydol y rhaglen.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

Atgofion_Capel_a_Ty_Capel_Ebenezer,_Rhosmeirch_963462

Capel a Tŷ Capel Ebenezer, Rhosmeirch gan Eric Jones/Wikimedia Commons

Gofynnwyd i mi ddechrau’r flwyddyn gyfrannu erthygl i lyfr oedd yn cael ei gyhoeddi am Gapel Ebenezer, Rhosmeirch.  Capel yr Annibynnwyr ydi o, ac yr un hynaf ar Sir Fôn, yn deillio’n ôl ir 17eg Ganrif. Beth bynnag, hwn oedd fy nghapel i pan oeddwn i’n blentyn. A dyma be sgwennis i ac be gafodd ei gyhoeddi…

Cymdeithasol ydi capel. Lle i gymuned gyfarfod. Lle i gyfeillion gyfannu.

Mae’r elfen grefyddol yn bwysig i sawl un, bownd o fod. Ond ein greddfau cymunedol sy’n ein gyrru ni, heb i ni wybod, i fynychu addoldai, does gen i ddim dowt am hynny. Darllen gweddill y cofnod hwn »

800px-Francois_Dubois_001

Lladdfa Dydd Sant Bartholomew yn 1572; Cristnogion yn dwrdio, miloedd yn marw

Mae’r rheini sydd yn fy nilyn i ar Twitter yn gwybod fy mod i’n anffyddiwr di-flewyn-ar-dafod. Mi dwi’n taeru’n aml efo Cristnogion¹, y rhan fwyaf ohonyn nhw o enwadau Ffwndamentalaidd, a llawer greadigwyr – sef eu bod yn credu’n llythrenol  yn Genesis: y bydysawd wedi ei greu mewn chwe niwrnod tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl; esblygiad yn ddim ond y gelwydd Satanaidd.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

DWI’N teimlo’n ddigon anhyffyrddus pan fydd crefyddau neu’r crefyddol yn ymyrryd mewn bywyd pob dydd. Syniad difrifol, felly, sydd gan John Denham, yr ysgrifennydd cymunedau, i ffurfio panel o arweinwyr crefyddol fydd yn ymgynghori ar bolisiau cyhoeddus. Ewadd, be mae’r bobl yma’n wybod na tydan ni ddim yn wybod? Pa arbenigedd sydd ganddyn nhw, deudwch, i farnu ar bolisi, i bwyso a mesur deddf, efallai, heb gael eu dylanwadu gan ddogma? Mae’r athronydd A.C. Grayling yn dangos yn y “Guardian” pa mor hurt yw’r syniad.

YDI hi’n deg bod Cristion sy’n gyrru bws yn cael gwrthod gweithio ar gownt y ffaith bod hysbyseb anffyddiol ar ei gerbyd? Dwi ddim yn meddwl. Byddai anffyddiwr yn gorfod gyrru ei fws pe bai yna hysbyseb crefyddol – boed hwnnw’n Gristnogol, yn Fwslemaidd, yn Hindwaidd – ar y cerbyd.

Dyma fymryn o gefndir yr hysbysebion anffyddiol. Mewn gwirionedd, be sydd o’i le ynddyn nhw? Tydyn nhw ddim yn ymosod ar Gristnogaeth. Tydyn nhw ddim yn ymosod ar ddim, mewn gwirionedd. Mae nhw’n bositif dros ben: Mwynhewch eich hun, yw’r neges

Does gan ddyneiddiaeth, na’r mwyafrif o anffyddwyr, fawr o ddannedd (Richard Dawkins, Sam Harris, Christopher Hitchens yw’r eithriadau, debyg). Mae dyneiddiaeth yn syniadaeth heddychlon. Rhywbeth na ellid ei ddweud am nifer fawr iawn o grefyddwyr (ond nid pob un, wrth gwrs).

A ddylwn ni barchu cred grefyddol yn fwy nac unrhyw gred arall? Cred mewn UFOs. Cred mewn seryddiaeth. Cred bod y rhif 13 yn anlwcus. Na, medd llawer un. Wrth gwrs, dylid parchu unigolion. Ond efallai y dylid cwestiynnu’r hun maen nhw’n gredu. Mae ymosod ar gred rhywun (boed honno’n gred grefyddol ai peidio) yn wahanol iawn i ymosodiad ad hominem, yn erbyn yr unigolyn.

Mewn gwirionedd, dwi’n teimlo y dylai’r gyrrwr bws yma ddychwelyd at ei waith. Mae ei reswm, i mi, dros beidio dreifio’i gerbyd yn afresymol. Mae ganddo hawl i’w grefydd – mae ganddo hawl credu beth bynnag mae o’n ddymuno ei gredu, hyd yn oed bod y byd yn fflat a bod y lleuad yn gaws – ond ni ddylai hynny effeithio ar bobol eraill, fel ei gyd-weithwyr a’r teithwyr.

Dwi’n disgwyl y bydd rhywun yn ymosod ar y gred hon. . .

"Nofel ysgubol ac eithriadol iawn... gwaith o athrlylith" - Dewi Prysor

Clawr Dynion Dieflig

"Hynod ddarllenadwy" - gwales.com

Prynwch Y Moch A Straeon Eraill drwy glicio yma

"Dychryn a gwae – bendigedig" - Llinos Dafydd

RSS Newyddion Cymraeg o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Golwg 360

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Gwynedd

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Môn a Bangor

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Conwy

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Ddinbych

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Wrecsam a’r Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Chwareon o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

Categorϊau