ar gyfer blog Stefan Kunze unsplash

Chwilio am gwmni a chyfeillgarwch mae’r ffyddlon. Llun: Stefan Kunze/Unsplash

Gwyliais Cymru: Dal I Gredu ar S4C yn ddiweddar. Wn i, mae hi’n fisoedd ers i’r rhaglen gael ei darlledu. Ond dwi’n ara deg yn dal i fyny efo S4C, a Cymru, finnau’n byw yn Ne Ddwyrain Lloegr. Maddeuwch i mi. Roedd y rhaglen wedi eistedd yn “Planner” fy Sky+ am oes pys.

Beth bynnag, yn y rhaglen roedd Gwion Hallam yn crwydro’r wlad yn holi os oedd y Cymry’n dal yn dduwiol. Roedd Gwion yn efengylwr unwaith. Mae o wedi colli ei ffydd bellach. Ond roedd o’n swnio’n hiraethus am ei hen gred drwy gydol y rhaglen.

Roedd Gwion yn ymdrin efo pwnc pwysig iawn yn yr oes sydd ohoni. Does yna’m llawer o drafod yng Nghymru, yn enwedig o safbwynt anffyddiaeth; ofn pechu, a rhyw lol felly, bownd o fod; y syniad bod yn rhaid parchu ffydd. Mae gan Dylan Llyr flog arbennig, ac mae o’n Trydar. Ond tydan ni ddim yn llith yn y Gymraeg, ni’r anffyddwyr.

Beth bynnag, yn y rhaglenni – tair i gyd – ymwelodd Gwion efo sawl sefydliad crefyddol, a cael blas ar eu traddodiadau.

Dwn i’m os yr achosodd hyn iddo fo ofyn y cwestiwn: os yw’r crefyddau yma i gyd yn honni eu bod nhw’n wir, sut mae penderfynu pa un – os oes unrhyw un – sydd?

Wedi’r cwbl, fedar Mwslim a Cristion ddim fod yn gywir am eu ffydd. Unai Iesu oedd Mab Duw a’r allwedd i fywyd tragwyddol, neu Muhammad oedd y proffwyd olaf. Neu mae’r ddwy honiad yn ffals, a’r Hindwiaid sydd yn gywir; neu efallai’r Sikhiaid. Neu hyd yn oed y pagan. Neu efallai un o’r miliynau o enwadau neu sectau sydd o fewn y crefyddau uchod. Neu, wrth gwrs, does na’r un ohonyn nhw’n gywir.

Fel anffyddiwr dwi’n tueddu tuag at y safbwynt ola. Ond fel anffyddiwr tydw i ddim yn datgan yn bendant nad oes duwiau. Ydi hynny’n glir?

Fel anffyddiwr, fy safbwynt i yw nad ydwi’n credu honiadau’r ffyddlon, nid fy mod i’n dweud eu bod nhw’n anghywir. Eto: clir?

Ond beth rydwi’n fynnu, cyn i mi gredu a derbyn datganiad, ydi tystiolaeth o blaid yr honiad. Hyd yn hyn, does yna’r un crediniwr wedi cyflwyno tystiolaeth fyddai’n werth ffadan mewn trafodaeth aeddfed.

Felly’r ffaith yw os nad wyt ti’n credu honiad crefyddwyr am eu duwiau, rwyt ti’n anffydiwr.

Dau osodiad sydd yna i gwestiwn ynglŷn â chred: wyt ti’n credu’r datganiad; wyt ti ddim yn credu’r datganiad.

Unwaith eto, tydi’r ffaith nad wyt ti’n credu’r datganiad ddim yn arwydd dy fod ti’n dweud bod yr honiad yn ffals. Dim ond un mater sydd yn y fantol: wyt ti’n credu, neu ddim yn credu?

Os wyt ti’n dweud, “Dwi ddim yn siwr”, felly dwyt ti ddim yn credu’r datganiad. Dyna fo; dau osodiad yn unig.

Rŵan, mae hynny’n dod a fi at y labl: agnostig.

Mae’r gair yn cael ei ddefnyddio’r dyddiau yma i ddisgirifio rhywun sydd ddim yn siwr; sydd yn eistedd ar y clawdd.

Na: tra bod anffyddiaeth yn delio gyda cred, mae agnosticiaeth yn delio gyda gwybodaeth. Felly ystyr cywir agnostig yw un sydd heb wybodaeth o dduw neu dduwiau. Byddai pob anffyddiwr, debyg iawn, yn cysidro eu hunain yn agnostig. Mi dw i, heb os. Ac hefyd y nifer fawr o anffyddwyr dwi’n ymwneud â nhw ar y Wê.

Ond yn ôl at y rhaglen: Roedd ymdriniaeth Cymru: Dal I Gredu yn berthynolaidd. Ceisiai Gwion ddangos parch tuag at y credinwyr oedd o’n eu holi. A does dim o’i le yn hynny; allweddol, mi ddeudwn i, i barchu’r person.

Beth sydd ddim mor allweddol yw parchu’r gred.

Mewn gwirionedd, mae hi’n gwbl hanfodol atal parch at gred – boed hi’n gred grefyddol neu’n gred wleidyddol. Cydnabod cred, efallai. Ond rhaid nadu’n hunain rhag parchu, a hynny er mwyn medru archwilio honiadau’r syniadaeth yn drylwyr. A dylid archwilio honiadau pob syniadaeth. Mae “rhaid i ni barchu eu ffydd nhw” yn amlach na pheidio yn gwadu’r hawl a’r awydd i holi unrhyw beth ar gownt elfennau amheus crefydd.

Ni wnaethpwyd hynny yn y rhaglen. Ond efallai mai nid dyna oedd bwriad Gwion. Digon teg, efallai. Taith bersonol oedd hon iddo fo. Gorymdaith Gymreig i geisio diosg yr hiraeth yr oedd o’n deimlo ar ôl gadael ei fydd, neu efallai’n fwy manwl, yr hiraeth am y gymuned yr oedd o’n rhan ohoni hi.

Dyna mae nifer sy’n diosg ffydd, ac yn anffyddwyr bellach, yn golli fwya, yn ôl y sôn. Hiraethai Korey Peters o Calgary, Canada, am yr agwedd gymdeithasol o’i hen eglwys efengylaidd gymaint fel y penderfynodd sefydlu “eglwys” fydol (“secular”) gyda defodau a cherddoriaeth a chyfeillgarwch – ond dim duwiau. Yma yn Ngwledydd Prydain mae ganddo ni’r “Sunday Assembly”, sydd yn fudiad lle caiff anffyddwyr ac agnostigs ymgasglu. (Dwi’n siwr bod croeso i bobl o ffydd hefyd – jest peidiwch a disgwyl lot o weddïo a ballu).

Rydan ni’n anifeiliad cymdeithasol. Does dim syndod, felly, bod Gwion yn colli’r hen gymuned. Mae o fel ei fod o’n erfyn credu am ei fod o’n methu ei fêts.

Ond nid oes rhaid iddo fo ail-afael mewn ffydd ddi-sail. Mae yna faint fynnir o lefydd bydol lle medrith o fynd i gael yr un ymdeimlad o gymuned a chyfeillgarwch.

A does yna neb yn debyg o’ch herio chi a’ch erlid chi tasa chi’n digwydd addoli duw gwahanol, neu, yn well fyth,  tasa chi’n dechrau amau bodolaeth duwiau.

Felly, Gwion, callach i ti ddal i beidio credu ar hyn o bryd. Dyna dwi’n fwriadu wneud. Yn sicr nes bod rhywun yn cyflwyno rheswm da i mi newid fy meddwl.

Advertisements