You are currently browsing the monthly archive for Mawrth 2016.
Mae hi’n wythnos i heddiw ers lansiad Iddew yn Nhafarn y Rhos, Llangefni. Doeddwn i ddim yn gallu cofnodi’r achlysur yn Sir Fôn ar gownt y ffaith nad oedd gin i Ryngrwyd yno.
Rhyfedd yw bod heb y Wê. Mae’r cwestiwn yn codi: “Beth oeddan ni’n wneud cyn medru ebostio a thecstio a blogio?” Wel, beth oeddan ni’n wneud cyn i ni ddarganfod tân? Gwneud y gorau, debyg iawn: ti byth yn colli be ti byth wedi gael. Ond dyna fo. A dyma fi, wythnos yn ddiweddarach yn cofnodi noson wych.
Mae yna fideo fer yn y Sasneg, fi’n cael fy holi gan Eryl Crump o’r Daily Post, yn fan yma. Mae’r stori’n dweud bo fi’n “chased by several publishers for the right to issue the story in print” (llond ceg). Mae hynny yn anghywir, gyda llaw: dim ond gyda dau gyhoeddwr y gwnes i drafod Iddew, a doedd yna ddim “chase” o gwbl; am wneud hynny’n glir. Hefyd, 49 ydw i nid 48, ond ta waeth: fasa hitia i mi beidio a cwyno os ydy rhywun yn dweud fy mod i’n fengach nac ydw i.
Cefais sgwrs ddifyr efo Dei Tomos ar ei raglen Nos Sul. Os na gawsoch chi gyfle i wrando, dyma’r recordiad. Fi ydi’r peth cynta ar y sioe, felly nid oes rhaid i chi aros yn rhy hir.
Mae Dei yn ddarlledydd deallus a doeth. Mae o gyda gwir ddiddordeb yn y bobl mae’n sgwrsio gyda nhw. Yn amlwg mae o wedi ymchwilio’n fanwl cyn cychwyn unrhyw sgwrs – a dyna ydi hi: sgwrs; mae hi’n teimlo’n naturiol ac nid fel cael eich holi gan rhywun sydd yn darllen cwestiwn ar ôl cwestiwn oddi ar eu darn papur heb adael i’r trafod lifo, ac heb ddeall yr ateb. Darllen gweddill y cofnod hwn »