You are currently browsing the monthly archive for Gorffennaf 2013.
Lowri Haf Cooke ddisgrifiodd fi, neu efallai fy nrama Llwch O’r Pileri, fel “Saunders Lewis ar speed” yn ei adolygiad o Trwy’r Ddinas Hon ar ei blog. Dwi’n hapus iawn i dderbyn y disgrifiad yna ar ran fy nrama.
Dwi’n dallt be sydd gan Lowri: mae’r ffordd dwi’n sgwennu yn cymryd anodd i fynd i’r afael âg o, weithiau. Dwi’n cogio bod yn rhyw hanner bardd (neu ella chwarter un) wrth sgwennu drama. Wel, dyna sut y dyla drama fod. Sgen i ddim diddordeb yn y naturiolaidd. Mae hynny yn ddiflas i mi. I be dwi isio clywed pobol yn siarad fel maen nhw’n siarad ar y “stryd”?
“Roedd na rywbeth go amwys am bob un o’r cymeriadau, wnaeth atgyfnerthu’r olygfa olaf un i mi”, meddai Lowri. Dwi’n gobeithio. Tydw i ddim isio llunio cymeriadau “da” a “drwg”; mae hynny’n ddiflas i mi hefyd. Un peth dwi’n benderfynol o beidio wneud mewn drama ydi moesoli: dweud bod gweithred yn dda neu’n ddrwg. Fel hyn dwi’n gweithio: dwi’n gosod cymeriadau mewn sefyllfaoedd gormesol a gweld sut mae nhw’n ymateb. Dwi’m yn beirniadu o gwbl.
Hefyd dywedodd Lowri: “Daw’r ddrama rymus hon â’r noson i gloi gyda bang go iawn, a fersiwn wyrdroedig o Hen Wlad Fy Nhadau.” Oedd , mi oedd hi’n andros o ergyd, ac roedd nifer o’r gynulleidfa’n disgwyl amdani o’r cychwyn cynta ar ôl iddyn nhw ddarllen y rhybudd am “ergyd swnllyd” y tu allan Theatr 2.
“I fod yn hollol blaen,” meddai Lowri, “doedd gan Llwch o’r Pileri ddim byd i’w ddweud am Gaerdydd, ond digon i awgrymu hoffter yr awdur o’r ddrama Brad (1958) gan Saunders Lewis.”
Digon gwir: dim i’w ddweud am Caerdydd. Ond nid dyna oedd y comisiwn. Fel rhan o brosiect Canfod yn 2009, tywyswyd ni o gwmpas y Brifddinas, a’r bwriad oedd ein bod ni’n chwilio am ysbrydoliaeth am ddrama. Cefais i ysbrydoliaeth yn y Deml Heddwch. Dwi ddim yn meddwl y buaswn i wedi medru, wedyn, cael fy nghlymu i reol bod yn rhaid sgwennu am Gaerdydd. I fod yn onest, dwi ddim isio sgwennu am ddinasoedd; dwi isio sgwennu am bobl. Yn sicr dwi ddim isio “dweud” dim byd am ddinas na dim byd arall. Nid lle’r dramodydd i’w “dweud”, dwi ddim yn credu; lle dramodydd yw dyfeisio. Yn ogystal, damweiniol hollol yw’r gymhariaeth rhwng Llwch O’r Pileri a Brad, fedrai’ch sicrhau chi: dwi erioed wedi darllen drama Saunders Lewis, na’i gweld. Dwi’n meddwl i mi astudio Gymerwch Chi Sigaret? yn y coleg efo Brenda Wyn Jones o Fethesda, awdur llond trol o lyfrau plant. Ynteu Esther, dwch? Dwi ddim yn cofio’n iawn.
Cafodd Paul Griffiths ei ddychryn gan rai o ddelweddau fy nrama. Gwych. Dwi am i’r gynulleidfa gael ymateb visceral. Dyna ydi’r syniad. Roedd o hefyd yn ansicr o’r cyd-destun. Efallai nad oedd yr uchel-seinydd yn glir, ond efallai, heyfd, na ddylai fod. Be sydd o’i le efo sgytio cynulledifa, efo creu ansicrwydd ynddynt? Dwi ddim yn siwr bod theatr yn gyffrous os ydi’r gynulleidfa’n cael pob dim ar blât. Dwi’m isio mynd i’r theatr a gwybod a deall be dwi’n mynd i weld a’i glywed. Heriwch fi. Er hyn, dwi’n deall pwynt Paul, ac yn falch ein bod wedi cael sgwrs ar ôl y perfformiad, ac hefyd ar Twitter y diwrnod canlynol.
Mae pobl yn chwilio am ystyr mewn drama. Fel mamaliaid rydan ni’n chwilio am batrymau. Dyna yw ein natur. Ond dwi’n gwrthod cynnig hyn. Chewch chi’m ysytr gen i. Chwiliwch am un os liciwch chi, ond tydwi ddim am ddweud, o hyn allan, be dwi’n “ddweud” mewn drama oherwydd tydwi ddim yn dweud dim byd. Dylai’r gynulleidfa ddod o hyd i’r “dweud”, fel ddaru nifer ar ôl Llwch O’r Pileri; unigolion yn gweld rhywbeth gwahanol ynddi hi, a rhai, bownd o fod, yn gweld diawl o ddim byd. Mae hynny’n fwy cyffrous na bod y dramodydd yn “dweud” wrthyn nhw be i weld. Os dwi isio pregeth, mi â i’r capel (wel, dim mewn gwirionedd y dyddiau yma, ond wyddoch chi be dwi’n feddwl).
Beth bynnag, dwi isio diolch i Lowri a Paul am adolygu’r dramâu. Mae hi’n bwysig iawn cael beirniad, ac yn bwysig cael traethu efo nhw ar bwnc sy’n agos at ein calonnau. Diolch mawr i’r ddau, a daliwch i’n herio ni’r sgwennwyr, plîs.