You are currently browsing the category archive for the ‘Uncategorized’ category.
DWI’N NEWYDD i’r busnes blogio yma. Yn enwedig yn y Gymraeg. Doeddwn i yn fy myw wedi meddwl gwneud y ffasiwn beth. Ond wedi dod o hyd i safleoedd fel Blogiadur.com a maes.e, dyma fi’n sylweddoli bod presenoldeb Cymraeg a Chymreig ar y Wê. Ac mi ges i’r ysfa i gyfrannu.
Dwi ddim yn byw yng Nghymru, bellach: yng Nghaint ydw i; wedi priodi ac yn hapus ar y naw. Ond dwi o hyd ac awydd i fyw yn y Gymraeg, er bod hynny’n ddigon anodd yn ne ddwyrain Lloegr. Dwi’n trio fy ngorau drwy sgrifennu’n yr iaith. Mae dwy gyfrol wedi eu cyhoeddi eleni, Y Moch A Straeon Eraill gan Carreg Gwalch a Dynion Dieflig gan Y Lolfa. Roeddwn i’n ddigon ffodus hefyd i ennill Y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol Yng Nghaerdydd, eleni. Hynny’n andros o hwb. Felly dwi’n yn trio fy ngorau, ylwch.
Ac ar ôl sylweddoli bod posib blogio yn Gymraeg, roeddwn i ar i fyny.
Cofiwch, dwn i’m faint sydd efo diddordeb yn fy nghlebran i. Ond nid dyna’r pwynt. Y pwynt ydi bod yna Gymraeg ar y Rhyngrwyd. Mae’r parablu sy’n bownd o bowlio o’r blog yma’n debyg o fod yn groes i farn sawl un, ac yn gytun efo barn eraill. Ac mae hynny’n bwysig, yn tydi: cael lleisau amrwyiol yn y Gymraeg ar y Wê, lleisiau sy’n cynnal sgwrs, trafodaeth, a dadl – cyn belled ac y bo’r ddadl yn un foesgar a chwrtais. Mi hoffwn i feddwl am y Gymraeg yn byrlymu drwy’r Rhyngrwyd, ac i ddweud y gwir, o be wela i hyd yn hyn, mae hi. Mae yna arloeswyr yn y byd blogio Cymraeg, a dros y misoedd nesa, dwi’n bwriadu dod yn gyfarwydd efo nhw ar-lein. Dwi’n bwriadu dilyn eu esiampl.
Dwi’n teimlo’n falch iawn, heno, blogio am y tro cynta yn y Gymraeg. Dwi’n edrych ymlaen bod yn rhan o’r gymuned Gymreig ar y Wê. Dwi’n edrych ymlaen cyfrannu mymryn bach i dwf yr iaith ar-lein.