You are currently browsing the monthly archive for Mehefin 2016.
Monthly Archive
Pendroni dros ‘Duw Yw’r Broblem’: Rhan 1
Mehefin 19, 2016 in Barn, Crefydd, Llyfrau, Lol yn ei le | Tags: Aled Jones Williams, anffyddiaeth, credu, Cristion, Cristnogaeth, Cynog Dafis, Duw Yw'r Broblem, Dylan Llyr, Iesu Grist, Richard Dawkins, Y Drindod Dewi Sant | 1 sylw
‘Mae’n amhosibl i mi,’ meddai Aled Jones Williams yn ei gyflwyniad ‘Anghredu’ i’r gyfrol Duw Yw’r Broblem (Carreg Gwalch, £8), ‘fod yn anffyddiwr. Fel y mae’n amhosibl i mi beidio â siarad Cymraeg.’
Mewn ymateb i’r datganiad yma o’r llyfr y mae’r prifardd a’r dramodydd wedi ei ysgrifennu gyda Cynog Dafis, dywedais wrtho yn ngŵyl Bedwen Lyfrau ychydig wythnosau’n ôl, ‘Byddai’n amhosibl i ti siarad Cymraeg pe bai ti’n fud.’
Fy mhwynt oedd nad bod yn anffyddiwr yn amhosibl i Aled Jones Williams. Dangoswyd nad oedd hi’n amhosibl iddo beidio â siarad Cymraeg, felly, o reswm, nid oedd hi’n amhosibl iddo beidio credu mewn duwiau.
Mewn gwirionedd, wrth ddarllen Duw Yw’r Broblem, gellir taeru bod Cynog Dafis ac Aled Jones Williams yn anffyddwyr yn barod – bron.
Mae Dafis yn datgan ‘nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â’r Goruwchnaturiol’ ac mai ‘creadigaeth Dyn yw Duw’.
Mae’n dweud
mai’r cam cyntaf tuag at adfer hygrededd crefydd yw diosg y syniad o Dduw gorchuwchnaturiol yn llwyr ac yn gyfangwbl…
Sawl Iesu sydd? Ymateb i adolygiad ‘Barn’
Mehefin 5, 2016 in Barn, Crefydd, Llyfrau | 2 comments
Cyhoeddwyd adolygiad bositif arall o Iddew yr wythnos ddiwetha – Aled Islwyn yn dweud yn Barn (Rhif 641, Mehefin 2016) ei bod yn nofel ‘sy’n cynnig sialens’.
Er hynny, mae’r adolygydd yn dweud ambell i beth ddaru fy ysu i ymateb.
Mae sylwadau ‘negatif’ Aled Islwyn yn deillio o’m mhortread i o Iesu ei hun, ac maent yn sylwadau anochel a rhagweladwy.
Sawl gwaith rydwi i wedi dweud, tra’n trafod Iddew, mai un o’r rhesymau y bu i mi sgwennu’r nofel oedd oherwydd bod gan pawb – Cristnogion yn enwedig – eu fersiwn nhw eu hunain o Iesu Grist.
Dalfan ydi o, fel dwi wedi datgan, i fyd-olwg unigolion, enwadau a sefydliadau.
Rydach chi wedi clywed fy sylw, siwr o fod, bod Iesu ymneilltuwr o Fôn yn gwbl wahanol i Iesu ffwndamentalydd o Alabama.
Dwn i ddim os yw Aled Islwyn yn Gristion ai peidio. I ddweud y gwir, tydi hynny ddim yn bwysig. Be sy’n bwysig ydi ei ddatganiadau. Dyma dwi am ddelio gyda nhw.
Darllen gweddill y cofnod hwn »