Screen Shot 2017-07-30 at 10.51.08OS NA glywsoch chi am “whataboutery?” a beio dioddefwyr (“victim-blaming”), darllenwch erthygl Guto Prys ap Gwynfor yn y rhifyn Gorffennaf/Awst o’r cylchgrawn Cristion.

Teitl yr erthygl yw “Terroristiaeth”. Dwi ddim yn amau bod yr awdur yn ddiffuant. Ond nid yw ei lid wedi ei anelu tuag at y Wladwriaeth Islamaidd gyflawnodd yr ymosodiadau ym Maenceinion a Llundain, a sy’n dal i fwriadu mwrdro o gwmpas y byd — bu ymosodiad ychydig dyddiau’n ôl yn Hambwrg a datgelwyd plot yn Awstralia dros y benwythnos i ffrwydro awyrennau o’r awyr. Yn hytrach, mae Mr ap Gwynfor yn targedu’r targedi, y Gorllewin yn gyffredinnol.

Nhw — ni — sydd ar fai, mae’n debyg.

Mae’r erthygl fwy neu lai’n awgrymu ein bod ni’n gofyn amdani. Dyma’r un agwedd erchyll sy’n beio merch am gael ei threisio oherwydd ei bod hi wedi meddwi’n dwll, ei bod hi braidd yn anwaraidd, a’i bod hi’n gwisgo sgert fer: “Roedd hi’n gofyn amdani”.

Nid bai y treisiwr, felly. Nid bai’r terfysgwr.

Nid yw Mr ap Gwynfor yn enwi’r ymosodwyr go iawn. Nid oes hanes o’r geiriau “Islam” nac “Islamaidd” na “jihadi” yn unlle.

(Gyda llaw: cyn i neb hefru bod beirnadu Islam yn hiliol neu’n “Islamoffobig”, nid hil yw Islam nac Islamiaeth, ond syniadaeth. Does yna neb yma’n targedu Moslemiaid unigol — oni bai am y Wladwriaeth Islamaidd, yn digwydd bod.)

Beth maen nhw eisiau

O DDARLLEN erthygl Mr ap Gwynfor, gellir taeru ei fod yn rhannu daliadau’r chwith apolegyddol, y chwith atchweliadol.

Asgell adweithiol yw honno sydd â’i phen yn y tywod tra’n corganu, “Does gan hyn ddim byd i’w wneud gyda Islam, does gan hyn ddim byd i’w wneud gyda Islam…” ac yna’n mynd ati i feio’r anffodusion am ymosodiadau gan derfysgwyr sy’n gweiddi “Allahu akbar” cyn mynd ati i fwrdro plant.

Yn yr erthygl, mae yna rhyw ymdrech, nid i gyfiawnhau, yn sicr, ond i esgusodi’r ymosodiadau — a phob ymosodiad terfysgol yn erbyn targed gorllewinol.

Rydan ni’n syrthio i drap y terfysgwyr, honnir, trwy arfogi mwy o heddlu “a’u cael i fannau cyhoeddus fel Maes Eisteddfod yr Urdd”.

Ai nid synnwyrol yw arfogi heddlu os oes bygythiad, er mwyn arbed mwy o fywydau mewn ymosodiad tebyg?

Gwneud dim fyddai’n “dangos i’r darpar derrorist eu bod wedi ennill”.

Byddai mwy o derroristiaeth ar ein strydoedd tasa’r ffanatigs crefyddol yn sylwi bod ganddynt rwydd hynt i ddifa hynny fedrant ohonom cyn cael eu lladd eu hunain.

Na, nid oes ofn marw arnyn nhw. Ond daerwn i bod hynny’n wir am Mr ap Gwynfor hefyd. Cristion ydi o. Mae bywyd gwell i ddod, haleliwia, a ballu.

Ond tasa fo’n gwneud mymryn o ymchwil, mi fydda fo wedi darganfod beth mae’r Wladwriaeth Islamaidd eisiau — a’r hyn maen nhw eisiau yw ein lladd ni yn ein niferoedd.

Mae gan y mudiad gylchgrawn o’r enw Dabiq. Lawrlwythwch rhifyn 15 ac ewch i dudalen 30. Darllenwch yr erthygl “Pam Rydan Ni’n Eich Casáu Chi & Pam Rydan Ni’n Eich Ymladd Chi”.

Mi gewch ddatguddiad os ydach chi’n credu, fel Mr ap Gwynfor, mai’r Gorllewin sydd ar fai am bob dim.

Ar ôl rhestru chwech rheswm pam eu bod am ein lladd ni (a dim ond yr olaf sy’n gwneud unrhyw fath o gyfeiriad at ryfeloedd), maen nhw’n datgan mai nid ein polisiau tramor sy’n cyfarwyddo eu casineb. Dyma’u datganiad:

“Y ffaith, yw hyd yn oed pe baech yn stopio’n bomio ni, ein carcharu ni, ein arteithio ni, ein sarhau ni, mi fyddwn ni’n dal yn eich casáu oherwydd ni fydd ein prif reswm dros eich casáu yn diflannu nes eich bod yn troi at Islam.”

Bydd y chwith apolegyddol yn dal i wadu mai dyma’r rheswm, oherwydd bod ganddynt gasineb afresymol tuag at y Gorllewin.

Ond hiliaeth tu chwith yw hyn: Tydi’r bobol bach frown yma ddim yn dallt. Tydyn nhw ddim yn gwybod go iawn be maen nhw’n feddwl. Ni sy’n gwybod be sydd orau. Ni sy’n gwybod be maen nhw’n feddwl go iawn. Dyna yw’r haen annweledig sy’n sylfaen credo’r chwith apolegyddol.

Maent wedi eu trwytho yn y naratif mai’r Gorllewin yw’r Satan Fawr: hi sydd ar fai.

Ar fai’r tro yma am ymosod ar Irac ac Affganistan.

O, felly.

Bai Ffrainc? (heb ymosod ar Irac nac Affganistan). Bai Sweden? (heb ymosod ar Irac nac Affganistan). Bai Gwlad Belg? (heb ymosod ar Irac nac Affganistan). Bai’r Almaen? (heb ymosod ar Irac nac Affganistan). Bai’r Yazidi? (heb ymosod ar Irac nac Affganistan).

Tlodi a Terroristiaeth: Dymchwel y myth

MAE Mr ap Gwynfor yn mynd ati i honni mai terroristiaeth yw “ffordd y tlawd o ryfela yn erbyn y cyfoethog”, heb gyflwyno iot o dystiolaeth i brofi hyn.

Mae’n datgan bod “llawer i arbenigwr yn y maes” yn dweud hyn, heb enwi’r un ohonynt.
Pwy ydyn nhw? Lle mae’r ymchwiliadau? Dim ots am farn bersonol un neu ddau, lle mae’r astudiaethau?

Y ffaith yw, mae’r arbenigwyr yn y maes yn tanseilio’i honiadau:

  • Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Erasmus yn Rotterdam, yr ieuenctid sydd wedi integreiddio orau i’r gymdeithas orllewinol yw’r mwyaf tebygol o gael eu radicaleiddio.
  • Dengys adroddiad gan Fanc y Byd bod aelodau’r Wladwriaeth Islamaidd sydd gyda’r addysg orau yn fwy tebygol o wirfoddoli fel hunan-fomwyr. Nhw hefyd yw gweinyddwyr y mudiad.
  • Roedd chwarter y 331 recriwt astudiwyd gan y banc yn raddedigion coleg, ac roedd gan y mwyafrif helaeth swyddi cyn iddynt ymuno gyda’r mudiad terfysgol.
  • Roedd llai na 2% o recriwts y Wladwriaeth Islamaidd yn anllythrennog, meddai’r ymchwilwyr.
  • Datgelodd MI5 bod dros 65% o Brydeinwyr sydd wedi ymuno gyda’r Wladwriaeth Islamaidd o gefndir dosbarth canol, ac mae’r mwyafrif ohonyn nhw sydd eisiau bod yn hunan-fomwyr efo’r addysg orau.
  • Astudiodd Dounia Bouzar, cyfarwyddwr y CPDSI, mudiad Ffrengig sy’n delio gyda radicaliaeth Islamaidd, 160 o deuluoedd plant aeth i ymladd gyda’r Wladwriaeth Islamaidd yn Syria. Roedd bron i 70% o’r teuluoedd o’r dosbarth canol ac nid o fysg y “tlawd”, fel yr hoffai Mr ap Gwynfor i ni gredu.
  • Darganfyddodd Bouzar hefyd bod llai na 2% o’r recriwts yn anllythrennog.

Mae yna dwmpath, felly, o dystiolaeth i ddangos nad oes gan dlodi ddim, yn ystadegol, i’w wneud gyda terfysgaeth.

Yn ychwanegol, yn ôl Y Mynegai Terfysgaeth Byd-Eang (The Global Terrorism Index), sy’n cael ei darparu gan Statista, y deg wlad effeithiwyd fwyaf gan derroristiaeth yn 2014 oedd Irac, Affganistan, Pacistan, Nigeria, Syria, India, Somalia, Yemen, Y Philippines a Thailand.

I gymharu, y ddeg wlad dlotaf yn y byd yn ôl The World Factbook yw Tokelau, Madagascar, Malawi, Niger, Liberia, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Burundi, Somalia, Zimbabwe a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Dim ond Somalia sydd ar y ddwy restr.

Dengys y ffeithiau’n glir mai geudyb yw’r honiad mai “ffordd y tlawd o ryfela yn erbyn y cyfoethog” yw terroristiaeth. Niwsans ydi ffeithiau, wyddoch chi.

“A u vas negrov linchuyut”

YN HYTRACH na llunio dadleuon sydd wedi eu selio ar dystiolaeth a rhesymeg, tueddiad Mr ap Gwynfor yw apelio at emosiynau a defnyddio geudybiadau.

Un ohonynt, a ffefryn y chwith apologetaidd, yw “whataboutery”.

Mae’r geiriau hyd yn oed yn ymddangos yn ei ysgrif: “Beth am?”

Ffurf ar y geudyb Tu Quoque yw “whataboutery”. Apêl at ragrith sy’n ceisio osgoi delio gyda dadl eich gwrthwynebydd trwy eu cyhuddo nhw.

Roedd yn dechneg bropaganda yn yr Undeb Sofietiadd. Un esiampl oedd “A u vas negrov linchuyut” neu’n Gymraeg, “Ond rydych chi’n crogi dynion duon.”

Pan fyddai’r Unol Daleithiau yn cwyno am ddiffyg hawliau dynol yn y gyfundrefn gomiwnyddol, dyma’r “whataboutery” ddeuai’n ôl o Moscow.

Mae’n dechneg sy’n para hyd heddiw yn Rwsia. Mae’r chwith atchweliadol wedi mabwysiadu’r camsyniad gyda brwdfrydedd, hefyd.

“Whataboutery” Mr ap Gwynfor yw diwylliant y Gorllewin, ac yn benodol ffilmiau a theledu sy’n “mawrygu trais”.

Mi daerwn i nad yw’n gwylio llawer o ffilmiau os yw’n credu eu bod yn “mawrygu trais”.

Dwi ddim yn gwadu nad yw trais a rhyfel yn themau yn ffilmiau’r diwylliant torfol.
Ond — gan gyfeirio at ddwy esiampl o ffilmiau poblogaidd diweddar, “Wonder Woman” a “War For The Planet Of The Apes” — nid ydynt yn mawrygu naill ai trais na rhyfel.

I’r gwrthwyneb. Eu neges eitha syml ac arwynebol yw: nid oes neb eisiau rhyfel, ond weithiau mae’n rhaid ymladd.

Eto, mi hoffwn weld tystiolaeth gan Mr ap Gwynfor i brofi ei bwynt. Efallai y gall gyflwyno ffilm neu gyfres deledu sy’n datgan yn bositif bod rhyfel yn rhywbeth gwerth chweil a bod trais yn rhywbeth i’w fawrygu.

Mae Mr ap Gwynfor yn naïf ar gownt meddylfryd y Wladwriaeth Islamaidd os yw’n credu bod un o’i hunan-fomwyr yn barod i farw “dros well dyfodol i’w bobol”.

Marw mae o er mwyn ei dduw. Marw er mwyn bod yn ferthyr. Marw er mwyn 72 o forwynion. Marw er mwyn lledaenu ei ddehongliad o Islam. Marw er mwyn lladd yr inffidel.

Eto, darllenwch Dabiq!

Ac mewn gwirionedd, sut mae mwrdro plant mewn cyngerdd pop yn sicrhau dyfodol gwell i bobl y llofrudd?

Mae yna nifer wedi lladd eu hunain dros achosion, ond nid ydynt wedi mwrdro eraill trwy eu gweithredoedd.

Llosgodd y myfyriwr Jan Pallach ei hun i farwolaeth ym Mhrâg yn 1968 fel protest yn erbyn gormes yr Undeb Sofietaidd yn Siecoslofacia.

Llosgodd Alice Herz, 82, ei hun i farwolaeth yn 1965 fel protest yn erbyn y rhyfel yn Fietnam.

Ddaru Pallach na Herz ddim lladd neb arall yn eu hymdrechion marwol i wella bywydau.

A beth am Iesu’r Mr ap Gwynfor? Sawl plentyn laddodd o wrth ferthyru ei hun “dros well dyfodol i’w bobol”?

Nid oes gan fwriadau’r Wladwriaeth Islamaidd ddim i’w wneud gyda gwella bywydau.

Y Pry yn y Pren

CREFYDD sydd wrth wraidd hyn i gyd, wrth gwrs.

Tasa ni’n rhoi’r gorau i ddefnyddio hen ddogfennau fel llawlyfrau bywyd, byddai’r byd yn llai gwaedlyd a ni fyddai hanes wedi ei saernïo ar sgerbydau dynol.

Mae eidiolog — boed honno’n grefyddol neu’n wleidyddol, fel Marcsiaeth, Maoiaith, Ffasgiaeth — yn fygythiad i’r ddynol ryw.

Siwr iawn, mae dyn yn llipa. Anifeiliaid ydan ni ar ddiwedd y dydd. Mae pob anifail wedi brwydro dros dir a ffiniau a hawliau bridio ers i ni ymlusgo o’r moroedd.

Ac mae’r ddynol ryw yn tueddu i gredu lol a defnyddio’r lol hynny i gyfiawnhau ei gweithredoedd.

Ond mae’r byd yn well heddiw na pan oedd crefydd — Cristonogaeth yn benodol — yn arglwyddiaethu dros Ewrop.

Ffaith: Rydan ni’n byw mewn byd diogelach, er bod hynny’n anodd i’w gredu.

Sefydlwyd gwefan Our World In Data gan yr economydd Max Roser o Brifysgol Rydychen.

Mae ystadegau Roser yn dangos bod y ffeithiau’n tanseilio canfyddiadau, emosiynau a barn.

A’r ffaith yw bod rhyfeloedd, er mor fasweddus, wedi cyfrannu at ein byd diogelach.

Nid “mawrygu trais” oedd rhyfela yn erbyn Hitler. Nid “mawrygu trais”, chwaith, yw arfogi’r heddlu.

“Mawrygu trais” yw gadael i derfysgwyr ac unbeniaid wneud fel y mynnan nhw.

“Mawrygu trais” — heb fwriadu; ac yn waeth, ei alluogi — yw “whataboutery” a beio’r dioddefwyr.

Advertisements