aaronburden

Tydi copi o ddogfen ddim yn brawf o wirionedd yr honiadau sy’n ymddangos yn y ddogfen honno / Llun: Unsplash/Aaron Burden

Cefais drafodaeth gyda Cristion ar-lein oedd yn honni fod y ffaith fod yna 5,000 o gopïau o ddogfennau o’r Testament Newydd yn bodoli yn profi pa mor ddibynadwy, ac i’w drystio, oedd y testun.

Gofynnais iddo os oedd y ffaith fod yna 500,000 copi o The Protocols Of The Elders Of Zion yn bodoli yn yr 1920au yn yr Unol Daleithiau yn brawf bod y llyfr erchyll, gwrth-semitaidd, celwyddig a hiliol hwnnw yn ddibynadwy ac i’w drystio.

Ni chefais ateb.

Mae dadl y 5,000 copi (mae yna ar draws 25,000 i gyd; 5,000 sydd yn yr iaith Roegaidd) yn codi pen yn aml pan mae rhywun yn sgwrsio efo Cristnogion, ac yn trafod y Testament Newydd.

Dwn i ddim pam y byddai’r ffaith fod yna 5,000 copi yn unrhyw fath o reswm i gredu bod testun yn ddibynadwy ac yn ddigyfeiliorn yn y lle cynta.

Ond tydi’r ffaith mai copïau o gopïau o gopïau o gopïau yw’r 5,000 dogfen yma ddim yn ‘ffeithio ar benderfyniad y ffyddlon i ail-gylchu’r ddadl dila ‘ma.

Y gwir ydi bod y mwyafrif helaeth o’r dogfennau yma wedi cael eu cynhyrchu rhwng yr 11eg ganrif a’r 14eg ganrif OC.

Nid oes un llawysgrif gwreiddiol o’r Ganrif Gyntaf, sef cyfnod Iesu, yn bodoli. Mae dau bapurfrwyn o’r 2il Ganrif OC, sef dros 100 mlynedd ar ôl y digwyddiadau honedig. Erbyn y 10fed Ganrif mae rhyw 300 o bapurfrwynau a llawysgrifau eraill.

Dyna i gyd.

Beth bynnag, gofynnais i’r Cristion roeddwn i’n drafod efo fo am gysidro hyn:

Y mae digwyddiad honedig wedi cymryd lle yn 1850 lle mae dyn wedi ymddangos o’r enw Wil ac mae Wil a’i ddilynwyr yn honni ei fod o’n dduw. Mae Wil yn perfformio gwyrthiau, yn ymddangos fel tasa fo’n iachau pobol sydd ar eu gwely angau, ac yn allfwrw ysbrydion drwg. Yn 1970 mae papur yn cael ei sgwennu sy’n honni bod y pethau yma wedi digwydd. Mae’r papur, yn ôl yr honiad, wedi ei gopïo o ddogfen sgwennwyd rhwng 40 a 70 mlynedd yn dilyn marwoaeth – ac atgyfodiad honedig – Wil. Nid oes copi gwreiddiol o’r ddogfen honno; dim ond yr ychydig dudalennau sydd wedi eu cynhyrchu yn 1970.

Pa mor barod wyt ti, gofynnais i’r Cristion, i gredu, heb amheuaeth, yn ngwirionedd y digwyddiadau gwreiddiol honedig, a bod y sgrapyn papur o’r 1970au yn ddigyfeiliorn?

Atebodd trwy ddweud na fyddai’n barod i dderbyn hynny (ac roedd hwn yn credu bod y Testament Newydd yn ddigyfeiliorn, cofiwch), ac mi ofynnodd y cwestiynnau canlynol:

Ai’r tudalennau yma o’r 70au oedd y dystiolaeth gyntaf o’r ddogfen yma?
A oes tudalennau eraill?
A oes tystiolaeth faterol o’r hyn sydd wedi ei sgwennu yn y tudalennau?
Ai un person sgwennodd y ddogfen?
A oes adroddiadau gan dystion yn y ddogfen?
A gofnododd y tystion ddigwyddiadau a welsant yn y ddogfen?
Os oedd yna awduron eraill, ac oeddynt yn gyfeillion personol i’r tystion?
A oes tystiolaeth allannol?
A oedd rhai o’r tystion yn barod i farw yn hytrach na gwadu eu cred?

Atebais fel hyn:

Ai’r tudalennau yma o’r 70au oedd y dystiolaeth gyntaf o’r ddogfen yma? Cafwyd cyfeiriaid at y ddogfen mewn llawysgrifau eraill, ond dyma’r dystiolaeth ysgrifenedig gynta – 120 mlynedd ar ôl y digwyddiadau honedig am Wil.

A oes tudalennau eraill? Darganfuwyd ambell un ym mlynyddoedd cynnar y 21eg Ganrif, 150 mlynedd ar ôl i’r dyn Wil honni ei fod yn fab i dduw, iachau, allfwrw, cyflawni gwyrthiau. Honnir bod gan gan Wil 12 Dirprwy. Roedd ganddo ddilynwyr, hefyd. Cafodd ei ddienyddio ac honnodd rhai o’i ddilynwyr ei fod wedi atgyfodi ac mai trwyddo fo’n unig oedd hi’n bosib mynd i Baradwys.

A oes tystiolaeth faterol o’r hyn sydd wedi ei sgrifennu yn y ddogfen? Mae’r digwyddiadau gofnodir yn digwydd mewn ardal ddaearyddol sy’n bodoli. Ond mae yna lawer iawn o straeon ffuglennol wedi eu gosod mewn llefydd go iawn. Er enghraifft, mae yna stori boblogaidd am ddewin ifanc sy’n cyfeirio at Orsaf Drenau King’s Cross yn Llundain. Hefyd, mae hen chwedlau am gewri a crochanau hud sy’n cyfeirio at ardaloedd o Gymru sy’n bodoli hyd heddiw. Ond straeon gwneud ydyn nhw i gyd. Nid oes tystiolaeth am fodolaeth cewri.

Ai un person sgwennod y ddogfen? Tydan ni ddim yn gwybod pwy sgwennodd y llawysgrif yma, mae’n ddi-enw. Ond tua 100 mlynedd wedi marwolaeth Wil dechreuodd un o Dadau ei Eglwys enwi awduron y straeon am Wil, er nad oes tystiolaeth i gefnogi ei honiadau.

A oes yna adroddiadau gan dystion yn y ddogfen? Na, sgwennwyd y cyntaf o’r dogfennau tua 50 mlynedd wedi’r digwyddiadau. Mae’r awdur yn anhysbys, er nid yw hynny’n golygu nad oedd yna dystion oedd yn honni eu bod wedi gweld pethau’n digwydd, ac yna mi adroddodd y tystion rheini eu profiadau wrth eraill, a’r rheini wedyn yn dweud wrth eraill, ac yn y blaen, hyd nes i’r awdur neu’r awduron glywed y straeon. Ond nid oes tystiolaeth i gefnogi gwirionedd y straeon sy’n cael eu hadrodd. Ac mae’n amhosib cadarnhau llawer o’r honiadau, ac pa gymaint y mae’r straeon wedi newid ers eu dweud am y tro cynta. Cynhyrchwyd tair dogfen ddiweddarach yn adrodd hanesion Wil. Mae yna hefyd lythyrau a sgwennwyd gan arweinydd cynnar o’r fudiad y Wilnogion cynnar. Mi ro’n ni’r enw Daf iddo fo am y tro. Nid oes llawysgrifau gwreiddiol o lythyrau Daf. Ond mae copïau yn ymddangos tua 150 mlynedd ar ôl iddo’u sgwennu nhw. Mae llythyrau Daf yn honni bod “500 tyst” wedi gweld Wil ar ôl ei atgyfodiad. Ond nid oes cyfeiriad at y 500 yn unlle arall, unai yn llythyrau Daf, yn y bedair dogfen, nac mewn llawysrifau eraill o’r cyfnod, er pa mor sylweddol yw’r rhif yma. Nid oes unrhyw awgrym pwy oedd y 500, beth oedd eu cyflwr meddwl ar y pryd, lle’r oeddan nhw pan welson nhw Wil, pwy oedd efo nhw, na dim fyddai’n ddefnyddiol i gadarnhau’r honiadau. Mewn gwirionedd, byddai unrhyw un sydd yn ymchwilio’n aeddfed ac yn onest i’r honiadau yma yn gorfod amau stori’r 500.

A gofnododd y tystion yr hyn a welsant yn y ddogfen? Nid oes unrhyw gofnod gydoesol o’r digwyddiadau am fywyd Wil. Er bod nifer fawr o haneswyr a gohebwyr yn yr un ardal ar y pryd a fo a’i Ddirprwyon, yn rhyfedd o beth nid oedd yr un ohonyn nhw wedi nodi unrhyw weithred sy’n cael ei phriodoli i Wil. Mae hi fel tasa nhw wedi llwyr anwybyddu’r digwyddiadau sylweddol yma – fel bwydo 5,000 o bobol efo un bagiad o tsips a dwy sosej; fel atgyfodi o farw yn fyw. Efallai nad oedd y cofnodwyr yn credu bod y digwyddiadau yma’n bwysig; efallai na ddigwyddodd y pethau yma o gwbl. Felly, na, ni sgwennodd yr un tyst air, cyn belled ac yr ydan ni’n gwybod.

Os oedd yna awduron eraill, oeddan nhw’n gyfeillion personol i’r tystion? Nid oes tystiolaeth i gefnogi’r honiad yma, ond am ddatganiadau gan ddilynwyr Wil ganrif a mwy ar ôl ei farwolaeth. Honnir bod y bedair dogfen am ei fywyd (sydd heb ddod i’r fei eto, yn yr 21fed Ganrif, i ddweud y gwir!) wedi cael eu sgwennu gan gyfeillion agos i Wil; dilynwyr, mewn gwirionedd, oedd gyda fo ar y pryd. Ond yn rhyfedd, mae’r dogfennau yma’n gwrth-ddweud ei gilydd. Mae straeon am eni Wil yn cynnwys digwyddiadau fyddai’n cael eu cyfri’n anferthol o hanesyddol (fel unben yn difa miloedd o blant bach er mwyn cael madael ar Wil yn fuan ar ôl ei enedigaeth). Ond nid oes yr un hanesydd arall o’r cyfnod yn dweud gair amdanyn nhw, ac nid oes cyfeiriad atyn nhw yn unlle. Mae rhai Wilogion yn anwybyddu’r problemau yma efo’r dogfennau trwy ddweud bod yr awduron yn tystio i ddigwyddiadau gwahanol, ac y dylid eu cysidro fel gohebyddion papur newydd, os liciwch chi. Ond mae hyn yn cyfleu camddealltwriaeth sylfaenol o sut mae newyddiaduraeth yn gweithio. Mae hefyd yn awgrymu bod y dogfennau yma’n anorffenedig ac yn anghyflawn, er bod rhai Wilnogion yn hawlio eu bod nhw’n ddigyfeiliorn. Hefyd os yw Wilnogion yn honni bod angen y pedair dogfen i ddeall y stori gyflawn am Wil, ac i gael iachawdwriaeth, roedd hi’n ddu iawn ar y Wilnogion cynnar oedd dim ond yn gwybod am un, neu efallai dwy, o’r dogfennau.

A oes tystiolaeth allannol am fodolaeth Wil? Wel, roedd Wil yn bodoli, mae’n debyg – ond dim ond dyn oedd o. Nid oes tystiolaeth o gwbl tu allan i’r dogfennau ei fod o’n dduw, ac i ddweud y gwir tydi’r oll o’r bedair dogfen ddim yn honni hynny ‘chwaith, yn enwedig yn gynharaf. Mae yna anghytuno rhwng y bedair dogfen am ei ddwyfoldeb.

Oedd y tystion yn barod i farw yn hytrach na gwadu eu cred? Nid oes tystiolaeth bod y tystion – na’r dilynwyr agos, yn enwedig – wedi marw dros eu cred yn Wil. Mae chwedlau eu bod wedi merthyru eu hunain, ac does yna ddim amheuaeth bod nifer fawr wedi cael eu mwrdro. Ond nid oes tystiolaeth am y 12 Dirprwy, er enghraifft. Mae nifer o Wilnogion rhyddfrydol, erbyn hyn, yn credu mai arwyddluniol oedd y 12, ac nid oeddan nhw’n bodoli. Ond i wwedu y gwir, does yna ddim byd anghyffredin am rhywun yn marw dros eu cred. Mae’n digwydd i’r ffyddlon pa bynnag dduw mae nhw’n ddilyn. Tydi hynny ddim yn brawf o wirionedd y grefydd.

Wel, dyna fo. Felly yr atebais i. Chefais i ddim her gan y Cristion, wedyn. Daeth ein sgwrs i ben ar delerau da, o leia. Efallai ei fod o wedi sylweddoli gwendid ei ddadl. Ond mae’r dadleuon yma yn rhai dwi wedi glywed gant a mil o weithiau gan y ffyddlon. Ac er iddyn nhw gael eu tanseilio (fel yn yr achos yma), mae nhw’n dal i’w defnyddio nhw. A dwi ddim yn amau y bydd fy nghyfaill i yn dychwelyd rhywdro a dweud bod 5,000 llawysgrif o’r Testament Newydd yn brawf ei fod yn ddigyfeiliorn ac yn ddibynadwy. Be newch chi?

Advertisements