You are currently browsing the monthly archive for Gorffennaf 2009.
Monthly Archive
MAE yna gylchgrawn newydd wedi cael ei gyhoeddi’r wythnos yma gan Y Lolfa. “Sylw” ydi enw’r cylchgrawn, ac mae’n hi’n dda iawn gweld rhywun yn mentro yn y byd cyhoeddi papurau newydd/cylchgronau a hithau mor dynn ar nifer o gyhoeddwyr yn y maes.
Beth bynnag, mae yna gyfweliad efo fi yn y cylchgrawn. Cyfweliad am Y Fedal Ddrama ydi o. Fi enillodd y llynedd. Mae’r cylchgrawn, a’r newyddiadurwr gynhaliodd y cyfweliad efo fi, Gareth Jones, yn mynd am wddw’r Theatr Genedlaethol dwi’n meddwl (dwi heb weld y cylchgrawn, na darllen yr erthygl).
Rhag ofn bod rhywun gyda diddordeb, dyma’r cwestiynau gefais i gan Gareth, a’r atebion a roddais iddo fo. Dros ebost gynhaliwyd y cyfweliad, gyda llaw. Dwi’m ond am i chi gael gweld cyd-destun y cwestiynnau, dyna i gyd.
I wneud pethau’n glir, dwi yn siomedig, wrth gwrs, nad oes yna neb, ar hyn o bryd, yn awyddus perfformio “Cors Oer”, fy nrama enillodd y wobr yng Nghaerdydd. Ond dwi’m yn bersonol yn beirniadu neb am hyn. Mae gan y Theatr Genedlaethol, a’r Eisteddfod, debyg, resymau dilys dros fod yn amheus o fentro llwyfannu dramau newydd – a dramau buddugol. Ond, fel dwi’n dweud yn fy ateb, isod, dwi yn credu y dylid cysidro llwyfannu golygfeydd, o leia, o’r ddrama fuddugol y flwyddyn ganlynol.
1. Beth sydd wedi digwydd i’ch drama Cors Oer ers ichi ennill y llynedd?
Mi holodd pobl yn ei chylch hi ac mi wnes i ei danfon hi at y rheini oedd wedi holi – ond tydw i heb glywed gan ambell un. Cefais gyfarfod gyda Sherman Cymru, ac roeddan nhw’n gefnogol iawn. Hefyd, mae’r cynhyrchydd/cyfarwyddwr Eurwyn Williams wedi bod yn gefnogol, gan gynnig y ddrama i’r BBC.
2. Oes bwriad i’w llwyfannu ac os oes, gan bwy?
Dim bwriad, cyn belled a dwi’n gwybod. Mae hynny’n anfffodus. Mi fasa rhywun yn meddwl y byddai’r ddrama sy’n ennill y Fedal Drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei llwyfannu. Mae’r nofel fuddugol yn cael ei chyhoeddi, ac enillydd y Fedal Ryddiaeth. Dwn i’m pam na fedrir llwyfannu’r ddrama fuddugol, neu olygfeydd ohoni, efallai. Tydi drama ddim yn ddrama tan mae hi wedi cael ei llwyfannu.
3. A yw’r Theatr Genedlaethol neu unrhyw gwmni arall wedi cysylltu â chi yngly^n â’r ddrama?
Na, tydwi heb glywed gan y Theatr Genedlaethol er bod cynrychiolydd wedi cael copi. Fel y dywedais, mae Sherman Cymru wedi bod yn gefnogol ac wedi dangos diddordeb yn fy ngwaith.
4. A yw’r Eisteddfod wedi cysylltu â chi yngly^n â’r ddrama?
Nid ynglyn a’r ddrama, nac ydyn.
5. Beth yw’ch barn chi am y gystadleuaeth Drama Hir yn yr Eisteddfod Genedlaethol?
Rydwi’n gefnogol iawn o’r gystadleuaeth. Rhaid rhoi clod i’r Eisteddfod am iddynt ddod ar seremoni i’r prif lwyfan y llynedd. Roedd hi’n anrhydedd i mi gael bod y dramodydd cyntaf i dderbyn y Fedal Drama ar brif llwyfan yr Eisteddfod. Wrth gwrs, mi faswn i’n hoffi gweld enillydd y Ddrama Hir, y Ddrama Fer, a’r Fedal Ddrama’n cael eu perfformio mewn Eisteddfod olynnol.