You are currently browsing the category archive for the ‘Crefydd’ category.

Meic Stevens yn dweud rhywbeth hiliol, bownd o fod,
yn Eisteddfod Wrecsam, 2011. Llun: Llywelyn2000

“Be ’di hwnna Charlie Chan / Ayatollas ym mhob man / Cyfathrach rywiol yn Iran / Dyna’r ffordd i fyw,” canodd Meic Stevens yn y gân Dyna’r Ffordd I Fyw oddi ar ei record hir Nos Du, Nos Da yn 1982.

Doedd Twitter ddim yn bod ’radeg honno. Ond hyd yn oed tasa fo’n blatfform poblogaidd i ffasgwyr, ffwndamentalwyr a ffyliaid, byddai’r garfan Gymraeg o’r Haid ddim wedi disgyn arno fel y gwnaethant yn dilyn y sylwadau wnaeth y canwr ar gownt Foslemiad ar fws ysgol ei wyres yng Nghaerdydd. Byddai neb wedi ei gyhuddo o fod yn “hiliol” tuag at Foslemiaid am gyfeirio at “Ayatollas ym mhob man” nac am wneud sylw am “Charlie Chan”, sydd yn ystrydeb hiliol os fuodd ’na un erioed.

Rydwi’n credu Stevens pan mae’n dweud nad yw’n hiliol. Gwneud sylw wnaeth ar y newid yn ei gymuned. “I’m not bloody racist,” dywedodd yn y Daily Post. “I’m just saying what I see with my eyes.”

Mae’r sain o’i gyngerdd wedi ei ryddhau bellach, ac mae’r hunan-gyfiawn yn tynnu’n grïau ei eiriau, “off-the-cuff”; yn dadansoddi ei lith.

Mae Cymru wedi bod yn gwneud sylwadau felly ers blynydoedd – a wedi cael cefnogaeth gan eu cyd-Gymry wrth wneud.

Dychwelwn at ganeuon yr 1980au:

“Mae’r bobl ’ma’n dŵad o bob rhan o Loegr,” canodd Y Ficar yn eu cân Byw Mewn Cwt Yng Ngwaelod Yr Ardd.

Canodd Chwarter I Un yn eu cân Pry Yn Y Pren: “Diwedd ein cymdeithas, / Diwedd, diwedd pob da; / Miloedd gormod o Saeson, / Miloedd o dai ha’.”

Dychmygwch y dilorni tasa Stevens wedi dweud “Miloedd gormod o Foslemiaid.”

Wrth gwrs, y ddadl fyddai mai ymateb (yn ormodiethol, a gyda bravado ieuenctid) i ddigwyddiadau’r cyfnod oedd y bandiau yma (Hei, roeddwn i yno fy hun: fi sgwennodd ’Di Cymru Ddim Ar Werth).

Ond mi daerwn i mai gwneud yr un peth oedd Stevens: gweld newid yn ei gymdeithas; ymateb iddo (er na gyfeiriodd o at hil neb yn benodol; er fod ei ymosodwyr yn cyd-asio Islam a hil – yn gwbwl, gwbwl ffals).

Newid tebyg mae cymunedau dosbarth gweithiol Gogledd a De-Ddwyrain Lloegr wedi eu profi. Maen nhw’n ymateb – fel y gwnaeth Stevens – efallai’n or-emosiynol – fel y gwnaeth Stevens – ac, fel Stevens, yn cael eu pardduo fel hilwyr.

Yn anffodus, trwy anwybyddu pryderon cymunedau fel rhein, a’u galw’n hiliol a thwp, rydan ni’n creu bwlch. Ac yn y bylchau rheini mae’ch Tommy Robinsons chi’n magu. Mewn bwlch o’r fath cafodd Brexit fodd i fyw.

Ond dyna fo: rheini sy’n cymryd arnynt mai nhw ydi’r werin ydi’r crach go iawn y dyddiau yma; nhw’n sy’n rheoli’r naratif. Ac yn anffodus, y naratif y dyddiau yma yw bod gwneud sylw negatif tuag at Islam, neu Foslemiaid, yn hiliol.

Mae hyn, wrth gwrs, yn hurt: nid hil yw Islam (sawl gwaith…?). Mae “Sais” yn hil, gyda llaw, ond mi gaiff hynny ’i sgubo ’dan y carped, mae’n debyg. Mae “Iddew” hefyd yn hil. Ond nid yw gwrth-semitiaeth eu cymrodorion ar y chwith yn haeddu’r llîd a wynebodd Stevens oddi wrth yr Haid.

Wrth gwrs, does dim dwywaith bod Asiaid yn wynebu sarhad a hiliaeth. Mae’r ffeithiau’n glir ar hynny. A tueddiaid yr hiliwyr twp yw defnyddio “Mwslim” fel gair difrïol i ymosod ar bawb o’r un lliw croen.

Ond ni ddylai hyn achosi i ni anwybyddu ffeithiau eraill. Mae Mosleimiaid gwyn. Mae Mosleimiaid du. Mae Moslemiaid Twrkic fel yr Uyghurs, sy’n cael eu camdrin yn ddychrynllyd gan Tseina (dim smic gan yr Haid am hynny; sylwadau Taid 77 oed yn waeth o beth coblyn).

Mae hi’n allweddol bwysig ein bod ni’n gwahaniaethu rhwng sylwadau am y grefydd, a beirniadaeth ohoni, a’r hiliaeth tuag at unigolion.

Yn anffodus, nid yw hynny’n digwydd.

Sylwch ar ymdrech y chwith i ddilorni’r Blaid Dorïaidd gyda’r un hiliaeth sy’n staen ar y Blaid Lafur ar hyn o bryd, drwy ddefnyddio Islamoffobia.

Rwan, dwi ddim yn amau bod yna aelodau hiliol o’r Blaid Dorïaidd. Ond os edrychwch ar rai o’r pethau maent wedi ei ddweud, nid ydynt yn hiliol.

Er enghraiff, galwodd un cynghorydd Islam yn “gwlt gwaed”. Wel, ymosodiad ar gyfres o syniadau yw hynny; beirniadaeth o’r grefydd. Dim gwaeth na taswn i’n dilorni Cristnogaeth fel “cwlt gwaed”. (Ac i ddweud y gwir mae gan y crefyddau mawr haen o hyn ynddynt).

Felly mae’n allweddol gwahaniaethu, oherwydd mae cyfraith gabledd answyddogol yn cael ei chyflwyno’n llechwraidd – a dim ond un ffydd sydd yn cael ei hamddiffyn. Rhaid peidio gadael i’r paranoia ynglŷn â pechu fynd yn rhy bell, neu mi fydd pawb yn diodde.

Mae trin Meic Stevens fel parïa’n warthus. Roedd tôn rhai o’r ymosodiau arno’n sinistr dros ben. Cafodd ei gymharu efo Hitler, mewn difri calon. Cafodd ei fygwth, fwy neu lai, i ail-feddwl. Awgrymwyd y dylai “fyfyrio” ar ei sylwadau. Hynny yw, cael ei “ail-addysgu” yn y steil Sofietiadd; cydymffurfio, os liciwch chi, gyda’r naratif.

Ond a oedd sylw Meic Stevens yn waeth na’r cwpled yma o’r gân ffyrnig Mr Smith gan Yr Anhrefn?

“Beth am yrru’r Sais yn ôl / Gyda chic go dda i fyny ei ben ôl.”

Jest dychmygwch tasa ni’n rhoi’r gair “Mwslim” yn lle’r gair “Sais” yn fan hyn …

Advertisements

BYDD fy nofel “Apostol” yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn y mis nesa.

Nofel am yr apostol Paul ydi hi – neu Paulos Shaul Tarsos fel mae o’n cael ei alw yn fy nofel.

Ar ôl cyhoeddi “Iddew” yn 2016, a derbyn ymateb positif dros ben, roeddwn i’n meddwl y buaswn i’n hoffi mynd ati i ysgrifennu am Paul, sefydlydd Cristnogaeth.

Credais y byddai’n haws na mynd i’r afael â Iesu. Roedd Paul, o leia, wedi ysgrifennu llythyrau, ac roedd ei gredoau’n fwy concrit na rhai Iesu. Mae Iesu’n reit amwys ac yn ddim ond adlewyrchiad o’r Cristion sydd yn ei addoli.

Ond y peth ydi, mae stori Iesu’n gyfleus. Mae hi bron fel ei bod hi wedi cael ei dyfeisio. Ffitir y stori i batrwm traddodiadol yr oes: iachawdwr wedi ei eni i dduw ac gwraig feidriol; mae’n herio’r status quo; mae’n cael ei ladd; mae’n atgyfodi. Dim ond llenwi’r bylchau sydd raid.

Mae Paul yn fwy o broblem. Arwahân i Actau’r Apostolion, nid oes fawr o sôn ar yr hyn a wnaeth Paul. Y broblem yw, ni ellid trystio’r Actau. Mae haneswyr yn ama geirwiredd y dogfennau. Ac mae’n gwrth-ddweud adroddiadau Paul ei hun.

Beth sy’n rhyfedd yw nad oes unrhyw ffynonellau eraill am rhai o’r straeon amlycaf am Paul, fel, er enghraifft, ei droedigaeth ar y ffordd i  Ddamascus. Nid yw Paul yn cyfeirio at y digwyddiad ysgytwol yma yn ei lythyrau, hyd yn oed.

Hefyd, nid oes farw o strwythur i hanes Paul. “Ac yna, ac yna, ac yna” yw llîf y naratif. Mewn stori sydd wedi ei hadeiladu, mae un digwyddiad yn llifo i’r llall: “Oherwydd hyn, fe aeth Iesu i Jerwsalem, ond roedd…”

Felly roedd yn rhaid cael y llif hynny yn “Apostol”. Rhaid i chi aros tan mis nesa i weld os ydw i wedi llwyddo ai pheidio. Bydd y lansiad yng Nghanolfan Telford, Porthaethwy ar Fehefin 14.

Screen Shot 2017-07-30 at 10.51.08OS NA glywsoch chi am “whataboutery?” a beio dioddefwyr (“victim-blaming”), darllenwch erthygl Guto Prys ap Gwynfor yn y rhifyn Gorffennaf/Awst o’r cylchgrawn Cristion.

Teitl yr erthygl yw “Terroristiaeth”. Dwi ddim yn amau bod yr awdur yn ddiffuant. Ond nid yw ei lid wedi ei anelu tuag at y Wladwriaeth Islamaidd gyflawnodd yr ymosodiadau ym Maenceinion a Llundain, a sy’n dal i fwriadu mwrdro o gwmpas y byd — bu ymosodiad ychydig dyddiau’n ôl yn Hambwrg a datgelwyd plot yn Awstralia dros y benwythnos i ffrwydro awyrennau o’r awyr. Yn hytrach, mae Mr ap Gwynfor yn targedu’r targedi, y Gorllewin yn gyffredinnol.

Nhw — ni — sydd ar fai, mae’n debyg.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

DYB.php‘Mae’n amhosibl i mi,’ meddai Aled Jones Williams yn ei gyflwyniad ‘Anghredu’ i’r gyfrol Duw Yw’r Broblem (Carreg Gwalch, £8), ‘fod yn anffyddiwr. Fel y mae’n amhosibl i mi beidio â siarad Cymraeg.’

Mewn ymateb i’r datganiad yma o’r llyfr y mae’r prifardd a’r dramodydd wedi ei ysgrifennu gyda Cynog Dafis, dywedais wrtho yn ngŵyl Bedwen Lyfrau ychydig wythnosau’n ôl, ‘Byddai’n amhosibl i ti siarad Cymraeg pe bai ti’n fud.’

Fy mhwynt oedd nad bod yn anffyddiwr yn amhosibl i Aled Jones Williams. Dangoswyd nad oedd hi’n amhosibl iddo beidio â siarad Cymraeg, felly, o reswm, nid oedd hi’n amhosibl iddo beidio credu mewn duwiau.

Mewn gwirionedd, wrth ddarllen Duw Yw’r Broblem, gellir taeru bod Cynog Dafis ac Aled Jones Williams yn anffyddwyr yn barod – bron.

Mae Dafis yn datgan ‘nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â’r Goruwchnaturiol’ ac mai ‘creadigaeth Dyn yw Duw’.

Mae’n dweud

mai’r cam cyntaf tuag at adfer hygrededd crefydd yw diosg y syniad o Dduw gorchuwchnaturiol yn llwyr ac yn gyfangwbl…

Darllen gweddill y cofnod hwn »

Assisi-frescoes-entry-into-jerusalem-pietro_lorenzetti

Iesu’n Ymdeithio I Jerwsalem A’r Tyrfaoedd Yn Ei Groesawu gan Pietro Lorenzetti, 1320

Cyhoeddwyd adolygiad bositif arall o Iddew yr wythnos ddiwetha – Aled Islwyn yn dweud yn Barn (Rhif 641, Mehefin 2016) ei bod yn nofel ‘sy’n cynnig sialens’.

Er hynny, mae’r adolygydd yn dweud ambell i beth ddaru fy ysu i ymateb.

Mae sylwadau ‘negatif’ Aled Islwyn yn deillio o’m mhortread i o Iesu ei hun, ac maent yn sylwadau anochel a rhagweladwy.

Sawl gwaith rydwi i wedi dweud, tra’n trafod Iddew, mai un o’r rhesymau y bu i mi sgwennu’r nofel oedd oherwydd bod gan pawb – Cristnogion yn enwedig – eu fersiwn nhw eu hunain o Iesu Grist.

Dalfan ydi o, fel dwi wedi datgan, i fyd-olwg unigolion, enwadau a sefydliadau.

Rydach chi wedi clywed fy sylw, siwr o fod, bod Iesu ymneilltuwr o Fôn yn gwbl wahanol i Iesu ffwndamentalydd o Alabama.

Dwn i ddim os yw Aled Islwyn yn Gristion ai peidio. I ddweud y gwir, tydi hynny ddim yn bwysig. Be sy’n bwysig ydi ei ddatganiadau. Dyma dwi am ddelio gyda nhw.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

mairajoseff

Stori wneud ydi Stori’r Geni

Cefais sgwrs ddifyr efo Dei Tomos ar ei raglen Nos Sul. Os na gawsoch chi gyfle i wrando, dyma’r recordiad. Fi ydi’r peth cynta ar y sioe, felly nid oes rhaid i chi aros yn rhy hir.

Mae Dei yn ddarlledydd deallus a doeth. Mae o gyda gwir ddiddordeb yn y bobl mae’n sgwrsio gyda nhw. Yn amlwg mae o wedi ymchwilio’n fanwl cyn cychwyn unrhyw sgwrs – a dyna ydi hi: sgwrs; mae hi’n teimlo’n naturiol ac nid fel cael eich holi gan rhywun sydd yn darllen cwestiwn ar ôl cwestiwn oddi ar eu darn papur heb adael i’r trafod lifo, ac heb ddeall yr ateb. Darllen gweddill y cofnod hwn »

ClawrIddew

Clawr Iddew gan Siôn Ilar

Iddewon oedd y Cristnogion cynta. Efallai bod hyn yn llithro meddyliau sawl un y dyddiau yma ond roedd y Cristnogion cynnar yn hadu eu cred mewn pridd cyfarwydd. Gwreiddiau Iddewig oedd yn fwya ffrwythlon iddyn nhw. O fewn fframwaith Iddewig yr oeddan nhw’n gweithredu a thrafod ac addoli. Y mae ysgaru Iesu, felly, o’i gyd-destun Iddewig yn gwneud cam â hanes ― ac hefyd gyda’r Iesu gwreiddiol, pwy bynnag oedd o. Darllen gweddill y cofnod hwn »

aaronburden

Tydi copi o ddogfen ddim yn brawf o wirionedd yr honiadau sy’n ymddangos yn y ddogfen honno / Llun: Unsplash/Aaron Burden

Cefais drafodaeth gyda Cristion ar-lein oedd yn honni fod y ffaith fod yna 5,000 o gopïau o ddogfennau o’r Testament Newydd yn bodoli yn profi pa mor ddibynadwy, ac i’w drystio, oedd y testun.

Gofynnais iddo os oedd y ffaith fod yna 500,000 copi o The Protocols Of The Elders Of Zion yn bodoli yn yr 1920au yn yr Unol Daleithiau yn brawf bod y llyfr erchyll, gwrth-semitaidd, celwyddig a hiliol hwnnw yn ddibynadwy ac i’w drystio.

Ni chefais ateb.

Mae dadl y 5,000 copi (mae yna ar draws 25,000 i gyd; 5,000 sydd yn yr iaith Roegaidd) yn codi pen yn aml pan mae rhywun yn sgwrsio efo Cristnogion, ac yn trafod y Testament Newydd.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

ar gyfer blog Stefan Kunze unsplash

Chwilio am gwmni a chyfeillgarwch mae’r ffyddlon. Llun: Stefan Kunze/Unsplash

Gwyliais Cymru: Dal I Gredu ar S4C yn ddiweddar. Wn i, mae hi’n fisoedd ers i’r rhaglen gael ei darlledu. Ond dwi’n ara deg yn dal i fyny efo S4C, a Cymru, finnau’n byw yn Ne Ddwyrain Lloegr. Maddeuwch i mi. Roedd y rhaglen wedi eistedd yn “Planner” fy Sky+ am oes pys.

Beth bynnag, yn y rhaglen roedd Gwion Hallam yn crwydro’r wlad yn holi os oedd y Cymry’n dal yn dduwiol. Roedd Gwion yn efengylwr unwaith. Mae o wedi colli ei ffydd bellach. Ond roedd o’n swnio’n hiraethus am ei hen gred drwy gydol y rhaglen.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

200px-Daniel_Owen

Daniel Owen: Be fyddai awdur Enoc Huws and Gwen Tomos wedi feddwl am Iddew?

Bydd fy nofel am Iesu (neu Yeshua, fel dwi’n ei alw fo, i roi iddo ffurf cywir ei enw) yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn yn 2016.

Mae “Iddew” yn portreadu taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth, ac mi gafodd hi glod gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Roedd hi’n un o ddwy oedd yn ysgarmesu am y wobr. Mi fuo yna “lawer o drafod”, meddai’r beirniad, am “Iddew” gan Kata Markon(fi)  a nofel Abernodwydd, “Veritas”.

Erbyn hyn, mi wyddwn ni mai Mari Lisa enillodd am ei “Da Vinci Code” Cymraeg, ac mae hi’n haeddu cael ei llongyfarch – hon oedd ei nofel hir gyntaf ac mi hitiodd hi’r jacpot!

Beth bynnag, roedd dau o’r beirniad wedi hoffi “Iddew” yn arw gyda un ohonyn nhw – Dewi Prysor – yn ei disgrifio fel “nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy’n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd”. Ewadd, dyna eiriau mae unrhyw nofelydd am eu clywed. Ro’n i ar i fyny.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

"Nofel ysgubol ac eithriadol iawn... gwaith o athrlylith" - Dewi Prysor

Clawr Dynion Dieflig

"Hynod ddarllenadwy" - gwales.com

Prynwch Y Moch A Straeon Eraill drwy glicio yma

"Dychryn a gwae – bendigedig" - Llinos Dafydd

Trydar/Twitter

RSS Newyddion Cymraeg o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Gwynedd

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Môn a Bangor

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Conwy

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Ddinbych

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Wrecsam a’r Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

Categorϊau

Advertisements