You are currently browsing the tag archive for the ‘Chwith’ tag.

Ar ôl terfysgiaeth Islamaidd, daw’r pryfaid yma o’r pren: Y Dde ragfarnllyd, y Chwith apolegyddol.

Mae’r ddwy ochr cyn waethed a’i gilydd. Y ddwy ochr yn chwilio am fai. Y ddwy ochr wedi eu rhwymo gan edioleg. Methu’n lan a datglymu eu hunain. Gwrthod, i ddweud y gwir. Yn hapus yn ei rhaffau. Fel pob ffwndamentalwr. Ac fel pob ffwndamentalwr, mae’r ddwy ochor yn ddall.

O’r Dde daw: Bai’r Llywodraeth ydi hyn i gyd am iddyn nhw adael i’r mewnfudwyr yma i gyd i mewn. Be ydach chi’n ddisgwyl? O’r Chwith daw: Bai’r Llywodraeth ydi hyn i gyd am iddyn nhw fomio Irac a Syria. Be ydach chi’n ddisgwyl?

Dall, ylwch. Y Dde ragfarnllyd yn ddall i’r ffaith bod y terfysgwr Islamaidd fwrdrodd dri o bobl yn Llundain ddoe wedi ei eni a’i fagu ym Mhrydain. Y Chwith apolegyddol yn ddall i’r ffaith bod gwledydd nad ydynt wedi gollwng yr un bom wedi diodde ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd. Y Dde ragfarnllyd yn ddall i’r ffaith bod elfennau o fewn Mwslemiaeth yn brwydro’n erbyn eithafiaeth ac yn cefnogi democratiaeth, hawliau dynol a gwerthoedd rhyddfrydol tebyg. Y Chwith apolegyddol yn ddall i’r ffaith bod elfennau o fewn Mwslemiaeth am ddinistrio’n ffordd o fyw ac yn casáu democratiaeth, hawliau dynol a gwerthoedd rhyddfrydol tebyg.

Rhyfedd mai nid y rhai fu farw ac a anafwyd yn Westminster ddoe sydd gynta ar feddyliau’r rhagfarnllyd a’r apolegyddion. Y peth cynta ddaw i’w meddyliau nhw: eu naratif.

Naratif y Dde ragfarnllyd: Rhaid i ni feindio’n busnes. Naratif y Chwith apolegyddol: Rhaid i ni feindio’n busnes.

Ewadd, dyna i chi ryfedd: dwy asgell, un naratif. Nodwch hyn: Mae’r Chwith apolegyddol a’r Dde ragfarnllyd yn debycach i’w gilydd na fyddai unrhyw addolwr o’r naill eidioleg yn barod i gyfadde.

Edrychwch ar Trump a Corbyn. Maen nhw’n rhannu mêts. Un mynwesol: Putin. Ac un arall: Jiwlian Assange. Amddiffynodd Corbyn Assange am ddianc cyfiawnder yn Sweden. Llyfodd y Chwith ei dîn pan ryddhaodd ddogfennau’n ymwneud gyda’r rhyfeloedd yn Affganisitan ac Irac. Roedd hi’n embaras iddyn nhw pan ddechreuodd Assange fwytho Trump. Dywedodd y Jiwlian bod ethol y Donald yn “gyfle am newid” yn yr Unol Daleithiau. Cyn hynny bu Assange yn ganmoladwy tuag at Corbyn.

Mae Bill Clinton wedi cymharu Trump a Corbyn hefyd (yn fwy doniol; mewn recordiad ryddhawyd gan gyfeillion Assange, yn digwydd bod):

When people feel they’ve been shafted and they don’t expect anything to happen anyway, they just want the maddest person in the room to represent them.

Da iawn, Bill: disgrifiad addas o’r ddwy asgell.

Gofynnwch hyn: Pwy sy’n pleidleisio i Ukip yn ngogledd Lloegr? Hen sosialwyr? Nifer fawr iawn ohonynt. Nifer fawr iawn. Asgwrn cefn cefnogaeth y blaid. Mae Paul Nuttall, arweinydd Ukip, am dargedu seddi Llafur. Rhaid i Lafur obeithio y bydd Ukip yn gwneud siop siafins ohoni fel ddaru nhw yn Canolbarth Stoke fis Chwefror. Neu mi fydd hi’n siop siafins arnyn nhw. Wel, yn fwy o siop siafins nac ydi hi ar hyn o bryd, ac mae hi’n un go hegar fel y mae hi.

Mae bwriadau’r Chwith apolegyddol a’r Dde ragfarnllyd yr un peth: cymdeithas homogenaidd. O’r un lliw. O’r un grefydd. O’r un eidioleg. O’r un dosbarth cymdeithasol. Y gelyn: yr “elît” (dewisiwch chi gyfansoddiad yr “elît”: y cyfoethog, y rhyddfrydol, madfallod o’r Blaned Mawrth). Y gelyn: rhyddfrydiaeth (dewisiwch chi gyfansoddiad rhyddfrydiaeth: “neo-cons”, y BBC, Gary Lineker).

Ond dyma natur y Dde ragfarnllyd a’r Chwith apolegyddol: Maen nhw’n frodyr ac yn chwiorydd i’w gilydd. Mae’r naill yn adlewyrchiad o’r llall. Ac un gelyn sydd ganddyn nhw go iawn: nhw eu hunain. Mae geiriau Pogo yn strip cartŵn Walt Kelly yn cyfleu’r llais bach tawel sy’n tarfu ar y naill asgell pan mae hi’n syllu i fyw llygaid y llall:

We have met the enemy and he is us.

Fasa hidia i’r gweddill ohona ni ddatgelu hyn amdanyn nhw, pob cyfle.

"Nofel ysgubol ac eithriadol iawn... gwaith o athrlylith" - Dewi Prysor

Clawr Dynion Dieflig

"Hynod ddarllenadwy" - gwales.com

Prynwch Y Moch A Straeon Eraill drwy glicio yma

"Dychryn a gwae – bendigedig" - Llinos Dafydd

RSS Newyddion Cymraeg o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Golwg 360

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Gwynedd

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Môn a Bangor

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Conwy

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Ddinbych

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Wrecsam a’r Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Chwareon o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

Categorϊau