Atgofion_Capel_a_Ty_Capel_Ebenezer,_Rhosmeirch_963462

Capel a Tŷ Capel Ebenezer, Rhosmeirch gan Eric Jones/Wikimedia Commons

Gofynnwyd i mi ddechrau’r flwyddyn gyfrannu erthygl i lyfr oedd yn cael ei gyhoeddi am Gapel Ebenezer, Rhosmeirch.  Capel yr Annibynnwyr ydi o, ac yr un hynaf ar Sir Fôn, yn deillio’n ôl ir 17eg Ganrif. Beth bynnag, hwn oedd fy nghapel i pan oeddwn i’n blentyn. A dyma be sgwennis i ac be gafodd ei gyhoeddi…

Cymdeithasol ydi capel. Lle i gymuned gyfarfod. Lle i gyfeillion gyfannu.

Mae’r elfen grefyddol yn bwysig i sawl un, bownd o fod. Ond ein greddfau cymunedol sy’n ein gyrru ni, heb i ni wybod, i fynychu addoldai, does gen i ddim dowt am hynny.

Mae’r ddynol ryw’n anifail cymdeithasol, wedi’r cwbwl. Mae dod at ein gilydd yn ddefod, ac wedi bod yn hanfod o’n hil ers ein geni ar y safana 200,000 o flynyddoedd yn ôl.

Gwelwn dystiolaeth o hyn ymysg anffyddwyr. Mae’r mudiad byd eang ‘Sunday Assembly’ yn dynwared defodau crefyddol drwy ganu, darllen, sgwrsio (fel mewn seiat) a synfyfyrio. Mae’r mudiad yn cynnig y profiad cymydol a geir mewn capeli, eglwysi, synagogau a mosgiau, gan osgoi’r addoli. Eisiau ‘gwneud rhywbeth fel eglwys ond heb Dduw’ oedd bwriad y sefydlwyr. Natur gymdeithasol ein hil oedd yn sibrwd iddyn nhw ar draws filoedd o flynyddoedd o esblygiad.

A dyna oedd yn sibrwd i mi pan oeddwn i’n mynd i’r Ysgol Sul yn Ebeneser yn yr 1970au. Edrych ymlaen i weld ffrindiau oeddwn i. Byddai Rhys, fy mrawd, a finnau’n mynd i’r Ysgol Sul bron pob wythnos, ac yn aros amdana ni yno roedd dau bâr o frodyr – Dewi ac Elfed o Pengraig, Rhosmeirch ac Andrew a Tony o bentre Cefniwrch.

Mi arferwn i fynd yn gynnar weithiau, er mwyn gyboli, hel clecs, malu awyr cyn i’r ‘wers’ gychwyn yn nosbarth Mrs Roberts, Tŷ Capel.

Un pnawn roedd Dewi a fi wedi landio’n y capel yn gynt na pawb arall. Dw’n i’m pam. Ond beth bynnag, dyna lle’r oeddan ni’n loitran yn y maes parcio, neb arall ar gyfyl y lle. Neb oni bai am yr ysbryd.

Mi oedd yna hen goeden wrth giat y fynwent, ’radeg honno. Hen beth noeth, y brigau’n frau, y rhisgl yn grebachlyd.

Roedd Dewi a fi’n llusgo’n traed, a dyma fi’n digwydd gweld homar o gysgod mawr du yn ymwthio o’r goeden, fel bod rhywbeth yn llechu tu ôl iddi, rhywsut. Wnes i’m cymryd arnaf. Wedi drysu ro’n i, bownd o fod. Ac mi oedd y cysgod wedi diflannu, bellach. Ond yna, dyma Dewi’n cripian at y goeden.

‘Be sy?’ medda fi.

‘Mi welis i rhywbeth tu ôl i’r goedan,’ medda fo.

Ewadd. Mi aeth yna iâs trwydda fi, ac ar fy llw, do’n i erioed wedi bod mor awyddus i fod tu mewn i’r capel chwadal na tu allan.

Doedd yna ddim byd tu ôl i’r goeden, wrth gwrs. A dwi ddim yn gwybod be welodd Dewi a fi. Wna i ddim honni mai ysbryd oedd o heddiw. Cysgod, efallai. Dw’n i’m. Ac os nad oes ateb, fasa hidia i ni beidio a dyfeisio un.

Y ffaith ydi, roedd o’n brofiad oeddan ni wedi ei rannu. Profiad cymydol sy’n allweddol i ni. Chwedl i’w hadrodd o gwmpas y tân, fel pe bai.

Un digwyddiad blynyddol oedd, heb os, yn bwydo’r awch cymunedol oedd y Trip Ysgol Sul. Rargian, diwrnod cyffrous. Edrych ymlaen am wythnosau, o’r adeg pryd yn cynhaliwyd cyfarfod i drafod pen y daith, i ddweud y gwir. Dyna’r unig dro ro’n i’n fodlon aros yn y capel ar ôl tri o’r gloch. Fel arfer ar ôl Ysgol Sul, byddai Mam yn mynd a Rhys a fi i Treflyn i weld Nain. Roeddwn i’n edrych ymlaen at hynny pob Sul. Ond byddai’n rhaid i’r ddefod honno aros pan oedd matar y trip ar yr agenda.

Ar ddiwrnod y trip, mi roeddan ni i gyd yn aros am y bws. Hel wrth Pen Bryn, criw ohona ni’r plant. Pawb drofun bod efo’n gilydd, wrth gwrs. Un haid. Un gymuned. A pan ddeuai’r goets fawr, ras wedyn am y sedd orau.

Byddai’r trip yn mynd a ni i Sŵ Bae Colwyn, Rhyl, Parc Eirias. Mae yna luniau o Rhys a fi mewn canŵ ar y llyn ym Mharc Eirias efo Andrew a Tony. Pryd oedd hynny, ’dwch? Oes o’r blaen.

Wrth gwrs, crefydd ydi busnes capel a matar o raid oedd cyfrannu at hynny. Yn reit amal, fi oedd y llefarydd yn Stori’r Nadolig, pawb arall yn Fair a Joseff ac yn fugeiliaid ac yn Dri Gŵr Doeth. Felly hefyd Gwasanaeth y Pasg, finnau’n darllen o’r Efengylau am groeshoelio dyn, heb feddwl, go iawn, am yr ystyr, neu os oedd yna ystyr, hyd yn oed.

Ro’n i’n mwynhau darllen. Mwynhau y perfformiad. Teimlo’n swil ond yn sgut am y sylw pan fyddai pawb yn dweud, ‘Digon o sioe, Dyfed’, a’r diweddar William Owen, Man Dela, yn darogan mai pregethwr fyddwn i.

Wel, dim cweit. Ac mae pethau’n dra gwahanol y dyddiau yma. Does dda gen i fod o flaen cynulleidfa. Dwi’n diodde’r un ias brofais i pan welodd Dewi a fi yr ‘ysbryd’ hwnnw.

Matar arall o raid oedd y dosbarth Ysgol Sul, wrth gwrs. Fel arfer, darllen stori o’r Beibl oeddan ni. Un o’r straeon poblogaidd, bownd o fod, fel Dafydd a Goliath, Samson, Bwydo’r Pum Mil, Jona a’r Morfil, Arch Noa. Eu darllen, eu dysgu. Ond wrth i mi fynd yn hŷn, dechreuais cwestiynnu’n fwy fwy. Dwi’n cofio gofyn pam nad oedd yna ddeinosoriaid yn y Beibl ac ar Arch Noa. Yr ateb oedd mai chwedlau oedd y straeon yma, nid hanes go iawn. Wel, mi fyddai 40% o Gristnogion America’n anghytuno. Mae nhw’n credu bod Genesis yn llythrennol. Ond dyna fo. Ar ôl hynny ro’n i’n cwestiynnu’n amal. Yn crafu pen. Yn herio’r hyn oeddwn i’n ddarllen. Yn rhoi’r testun ar brawf.

Drwy gwestiynnu mi ddatgymalodd fy ffydd. Ffydd plentyn, ffydd syml, ffydd ddi-gwestiwn; y ffydd oedd ddim hanner mor bwysig i mi a ffrindiau, cymuned, cyfannu, tripiau Ysgol Sul, partïon Nadolig, afal ac oren gan Sion Corn (y diweddar Alun Huws, Hafan, fel arfer, os dwi’n cofio’n iawn) a mynd i tŷ Nain Treflyn am de.

Dyna sy’n bwysig. Dyna ydi capel. Dyna oedd Ebeneser i mi.

Advertisements