You are currently browsing the monthly archive for Tachwedd 2009.

Beti George

ROEDDWN i’n westai ar raglen Beti A’i Phobol ar Radio Cymru ddoe. Os oes gan rhywun ddiddordeb mewn gwrando eto, dyma ail-ddarllediad. Mi gewch chi fy nghlywed i’n cyfadde mai blogiwr symol ar y naw yr ydw i, er mod i wedi gwella mymryn ers recordio’r sgwrs efo Beti George.

"Meddyginiaeth" homeopathig

MAE aelodau seneddol wedi bod yn ymchwilio i mewn i homeopathi’r wythnos yma. Rhwng 2005 a 2008, mi wariodd y gwasanaeth iechyd £12m ar homeopathi – gwastraff arian, meddai nifer o wyddonwyr a doctoriaid, gan nad oes tystiolaeth i ddangos bod y stwnsh yma’n effeithiol.

Mae Boots yn gwerthu “meddyginiaeth” homeopathig, ac yn gwneud andros o elw drwy wneud hynny. Roedd Paul Bennett, cyfarwyddwr safonnau Boots yn ymddangos o flaen A.S. y pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg fel rhan o’r ymchwiliad. Mae Boots wedi cael eu beirniadu am werthu “meddyginiaeth” fel hyn. Ond dal ar y silffoedd mae’r stwff.

Ac mi wyddwn ni pam.

Mi ddywedodd Mr Bennett wrth y pwyllgor nad oes ganddo ddim tystiolaeth bod homeopathi’n gweithio – ond be sy’n bwysig i Boots yw eu bod nhw’n gwerthu.

A dyna chi: rhywbeth sydd i fod yn gyflenwol, yn wrthyn i’r sefydliad meddygol, yn “naturiol” ac yn rhydd o gemegau, yn dibynnu, ar ddiwedd y dydd, ar yr hen ellyll hwnnw: Prynwriaeth. Difyr iawn.

DYMA stori fer i chi o’r enw “Dydd Yr Holl Saint”. Mae hi’n rhan o’r gyfrol Y Moch A Straeon Eraill, gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch yn 2007. Tydi hi ddim yn rhy frawychus, gobeithio.

Charles Darwin

CYHOEDDWYD “On The Origin Of Species” 150 mlynedd yn ôl i heddiw. Mi sgytiodd llyfr Charles Darwin y byd. Roedd ei ddamcaniaeth yn ddaeargryn drwy Gristnogaeth ar y pryd. Roedd pawb, radeg honno, yn credu mai yn oruchnaturiol y creuwyd y byd a popeth byw. Dangosodd Darwin bod yna esboniad arall, esboniad gwell – esboniad oedd yn dibynnu ar dystiolaeth yn hytrach na ffydd.

Mae nifer yn honni mai Theori Esblygiad Darwin yw un o’r darganfyddiad pwysicaf yng ngwyddoniaeth, darganfyddiad sy’n esbonio sut mae bywyd ar y ddaear wedi amrwyiaethu dros filiynau o flynyddoedd. Wrth gwrs, mae nifer fawr o Gristnogion wedi derbyn y theori. Ni ellir unigolyn gyda unrhyw resymeg a dealltwriaeth sylfaenol o wyddoniaeth ei gwrthod, i ddweud y gwir: mae’r dystiolaeth yn ddi-bendraw

Ond mae rhai, rheini i gyd yn grefyddwyr, yn honni mai syniad felltigedig yw Darwiniaeth – ac nid yn unig hynny: mae hi’n gelwydd hefyd meddai creadyddion. Mae’r bobol yma’n dal i gredu i’r bydysawd gael ei greu mewn chwe niwrnod gan Dduw, a hynny rhwng 6,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn wir, mae theori Darwin hyd heddiw yn ddadleuol.

Mae gwyddonwyr, wrth gwrs, yn ei derbyn. Ddowch chi ond ar draws llond llaw o wyddonwyr sydd yn amau’r theori, ac yn dilyn athroniaeth “Intelligent Design”, sydd yn ddim mwy na creadaeth mewn dillad crand. Nid yw’r gwyddonwyr rheini, fel arfer, yn gweithio yn y meusydd penodol fel bioleg, swoleg, geoleg, paleontoleg.

Ond er bod gwyddoniaeth yn derbyn Darwiniaeth, mae’r cyhoedd, mewn ambell i wlad, yn fwy cyndyn. Mae dros 50% o Brydeinwyr yn dweud y dylid dysgu creadaeth ochor yn ochor efo esblygiad mewn gwersi gwyddoniaeth. Dwn i’m pa fath o wersi fyddan nhw: rhai byr, debyg, gan nad oes yna iot o dystiolaeth yn dangos bod Genesis 1 yn llythrennol gywir, fel y taerai’r creadyddion.

Mae rheswm a gwyddoniaeth yn brwydro’n ôl, ond mae hi’n mynd yn anodd ar sawl cownt. Mae llyfray gwych wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar: “The Greatest Show On Earth” gan Richard Dawkins, ac “Why Evolution Is True” gan Jerry Coyne – llyfr yr ydw i’n ddarllen ar hyn o bryd.

Ond pam bod pobl mor gyndyn i dderbyn esboniad Darwin? Does yna neb yn amau Theori Germau, sy’n esbonio sut y mae afiechydon yn lledaenu. does yna neb y amau theori Einstein am y bydysawd. Does yna neb yn gwrthod Theori Disgyrchiant. Pam? Maen nhw’n union fel Theori Esblygiad Darwin: esboniadau o sut mae pethau’n gweithio; esboniadau sydd yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth.

Wrth gwrs, mae Darwiniaeth yn wahanol mewn un ffordd: mae hi’n theori sy’n cyfeirio ata ni, at ein bodolaeth, at ein gwreiddiau – ac mae hi’n esboniad sy’n datgelu nad ydan ni ddim mor bwysig ac yr ydan ni’n hoffi meddwl ein bod ni.

Ond y gwir yw, rydan ni’n brimat, rydan ni’n famal, rydan ni’n fertebriad, rydan ni’n gordogion, rydan ni’n anifeilaid, rydan ni’n ewcarya … yn ewcarya fel pýs, yn anifail fel pry, yn gordogion fel “hagfish”, yn fertebriad fel crocodeil, yn famal fel morfil, yn brimat fel tsimpansî.

Dyna sy’n wefreiddiol i mi. Dyna sy’n fawreddog. Y ffaith ein bod ni’n perthyn i bob dim byw – a bob dim sydd erioed wedi byw – ar y ddaear. Ac yn hytrach na gorfod credu’r peth heb sail, dibynnu ar ffydd, mae ganddo ni brawf i ddangos hyn – mewn ffosiliaid, mewn DNA, mewn bio-daearyddiaeth ac yn y blaen.

Ond efallai mai dyna ydi’r broblem. Tydan ni – neu’r rheini yn ein mysg sy’n gwrthod derbyn bod theori Darwin yn ffaith – ddim yn barod i dderbyn nad ydan ni’n ddim mwy nac anifail – neu hyd yn oed ewcarya.

DWI’N teimlo’n ddigon anhyffyrddus pan fydd crefyddau neu’r crefyddol yn ymyrryd mewn bywyd pob dydd. Syniad difrifol, felly, sydd gan John Denham, yr ysgrifennydd cymunedau, i ffurfio panel o arweinwyr crefyddol fydd yn ymgynghori ar bolisiau cyhoeddus. Ewadd, be mae’r bobl yma’n wybod na tydan ni ddim yn wybod? Pa arbenigedd sydd ganddyn nhw, deudwch, i farnu ar bolisi, i bwyso a mesur deddf, efallai, heb gael eu dylanwadu gan ddogma? Mae’r athronydd A.C. Grayling yn dangos yn y “Guardian” pa mor hurt yw’r syniad.

BBC Arlein - Newyddion - Colli'r cawr Orig Williams_1258041540903MAE Cymru wedi colli cawr. Mae’r reslar, y colofnydd, y peldroediwr, a’r cymeriad gwych Orig Williams wedi marw’n 78 oed.

Roeddwn i’n nabod Orig rhyw fymryn. Mi roedd o’n sgwennu colofn i’r Daily Post, a pan oeddwn i’n olygydd nos yno, tan 2005, roeddwn i’n delio gyda’r golofn pob wythnos ac yn cael sgwrs efo Orig. Roedd o’n ddi-flewyn ar dafod, roedd yn onest , ac roedd ganddo brofiad helaeth o’r byd a’i thrigolion.

Mi deithiodd i wledydd lu fel reslar, ac roedd ganddo straeon difyr am bob gwlad – ac am y cymeriadau yr oedd yn eu cyfarfod. Mae reslo wedi newid llawer iawn ers dyddiau Orig, ers dyddiau reslo ar S4C.

Rydan ni’n cofio Orig ar y teledu yng Nghymru fel El Bandito, wrth gwrs. Roedd El Bandito’n ddyn drwg yn y cylch i gychwyn, pan oedd yn reslo led led y byd. Ond pan ddaeth reslo i S4C, daeth yn arwr i ni’r Cymry.

Beth bynnag oedd El Bandito’r cymeriad, roedd Orig Williams y dyn yn fonheddwr. Mae Cymru wedi colli cymeriad lliwgar a gwladgarwr brwdfrydig.

Rydwi, fel llawer un arall bownd o fod, am ymestyn fy nghydymdeimladau at ei deulu.

Isle_of_Angleseymap_1946MAE Cyngor Môn byth a beunydd mewn direidi. Dwn i’m be sydd haru nhw, i ddweud y gwir. Dwi’n ynyswr fy hun. Ac fedra i ddim dychmygu be sydd ym mhennau rhai o’r cynghorwyr rheini, na fedraf.

Maen nhw wedi cael eu dwrdio eto, y tro hwn gan Brian Gibbons, y Gweinidog Llywodraeth Leol. Mae Mr Gibbons wedi rhybuddio rhai o’r cynghorwyr y galla nhw golli eu cyfrifoldebau os na fyddan nhw’n bihafio.

Wir Dduw, maen nhw fatha plant. Ond wyddoch chi be? Maen nhw wedi bod felly erioed, wir ichi.

Roeddwn i’n ohebydd ar yr Holyhead and Anglesey Mail ar ddechrau 90au. Mi fyddwn i’n mynychu cyfarfodydd cynllunio’r cyngor. Dyna i chi syrcas. Mi roedd gan gynghorau – ac mae ganddyn nhw o hyd, mae’n debyg – beth oeddan nhw’n alw’n “gynllun lleol”. Roedd y cynllun hwn wedi ei gytuno gan y cynghorwyr, a’i fwriad oedd gosod rheolau ynglŷn â pa fath o aneddau oedd yn cael eu hadeiladu, ac yn lle. Roedd y rheolau reit dynn, a digon teg: doedd yna neb am i rhywun rhywun godi tai ym mhob twll a chornel o’r ynys.

Yn anffodus, doedd y cynllun yn golygu fawr ddim i’r annwyl bwyllgor cynllunio. Roedd y swyddogion cynllunio druan yn syrffedu gweld y cynllun – oedd wedi ei gytuno gan y cynghorwyr yma – yn cael ei anwybyddu’n gyson.

Dyma i chi esiampl o sut oedd pwyllgor cynllunio Môn yn benderfynu oes oeddan nhw am ganiatáu cais cynllunio ai peidio – a mae hon yn stori wir:

Roedd unigolyn wedi rhoi cais i mewn i godi tŷ ar dir perthynas. Roedd y swyddogion cynllunio wedi awgrymu y dylid gwrthod y cais. Doedd o ddim yn cyd-fynd efo’r cynllun lleol (ydach chi’n cofio’r cynllun lleol?). Os dwi’n cofio’n iawn – mae bron i 20 mlynedd wedi mynd heibio, cofiwch – roedd yr adeilad mewn cae, ac reit ar ochor y ffordd – lle anhwylus ar y naw.

Beth bynnag, dyma’r swyddogion cynllunio druan yn dweud pam na ddylid rhoi’r “go-ahead” i godi’r tŷ. Roedd yna dôn siomedig yn lleisiau’r swyddogion pob tro, fel tasa nhw’n gwybod y byddai’r awgrymiadau rhesymol yma’n cael eu gwrthod gan yr aelodau.

A hei gancar, dyma’r aelod lleol yn codi ei lais. Un hen oedd o. Wedi bod yn aelod am flynyddoedd. Dyn digon hawddgar, dymunol, cwrtais. Ta waeth. Dyma’i ddadl o dros ganiatáu’r cais, ac mynd yn erbyn y swyddogion cynllunio:

Roedd yr ymgeisydd yn berson meddygol, yn berson lleol, ac wedi bod yn gymorth i’r aelod gyda’i drafferthion . . .

Wir i chi. Dyna i chi ddadl. Mi holltodd hi fel llafn drwy ddadleuon cynllunio’r swyddogion. A dyma rhyw hymian yn mynd drwy weddill y pwyllgor, a dyma’r breichiau i gyd yn codi i ganiatáu’r cais, a dyma pennau’r swyddogion yn syrthio drachefn . . .

Dwn i’m os ydi pethau wedi newid. Tydyn nhw ddim o be mae rhywun yn ei ddarllen. Ond dyna sut y byddai pwyllgor cynllunio’r sir (bwrdeisdref oedd hi’r adeg honno, wrth gwrs) yn delio efo ceisiadau cynllunio.

"Nofel ysgubol ac eithriadol iawn... gwaith o athrlylith" - Dewi Prysor

Clawr Dynion Dieflig

"Hynod ddarllenadwy" - gwales.com

Prynwch Y Moch A Straeon Eraill drwy glicio yma

"Dychryn a gwae – bendigedig" - Llinos Dafydd

RSS Newyddion Cymraeg o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Golwg 360

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Gwynedd

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Môn a Bangor

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Conwy

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Ddinbych

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Wrecsam a’r Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Chwareon o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

Categorϊau