Dyma ail ran fy adolygiad o Duw Yw’r Broblem gan Cynog
Dafis ac Aled Jones Williams. I ddarllen Rhan 1, ewch yma.

DYB.phpMae crefyddwyr cymedrol yn galluogi crefyddwyr eithafol. Yr un yw eu dadleuon. Mater o ddadansoddiad yw eu daliadau.

Dyma fu dadl Richard Dawkins a Sam Harris – dau o’r anffyddwyr newydd sy’n wynebu llid Cynog Dafis yn Duw Yw’r Broblem (Carreg Gwalch, £8) – ers tro byd.

Ond pwy sydd i ddweud mai’r cymedrol sydd gyda’r dadansoddiad cywir? Ni allent brofi mai nhw yw gwir ladmeryddion eu crefydd.

Dyma wendid dadl y rhai sy’n honni nad yw dadansoddiad Isis o’r Coran yn cynrychioli ‘gwir’ Islam, neu bod dadansoddiad Cristnogion asgell dde Americanaidd o’r Beibl yn cynrychioli ‘gwir’ Gristnogaeth.

Mae’r ddadl hon yn wallus. Nid oes unrhyw fwy o sail i ddadansoddiad John Hill (saethodd feddyg yn farw o flaen clinig erthylu yn Florida yn 1994) o’r Beibl na sydd i ddadansoddiad Dafis, oni bai bod dadansoddiad Dafis fymryn yn fwy derbyniol i ni.

Yn wir, fe glywson ddadl debyg ar ôl cyflafan Orlando: nad oedd gan ymosodiad Omar Mateen ar glwb nos hoyw yn Florida ddim i’w wneud gyda Islam.

Dyma yw craidd ymosodiad Dafis ar yr anffyddwyr newydd, Dawkins yn enwedig.

Mae awgrym bod Dawkins a’i gyd-anffyddwyr yn targedu elfennau eithafol crefydd yn unig, a byth yn delio gyda’r cymhedrol.

Ond nid yw hun yn wir. Mae Dawkins yn gwrthod trafod gyda creadyddion, er enghraifft, sy’n taeru mai 6,000 o flynyddoedd oed yw’r bydysawd, ac fe’i greuwyd mewn saith niwrnod gan Dduw (wel, chwech; mi ddaru o gael rest fach ar y seithfed – gwaith blinedig yw creu bydysawd, wyddoch chi). Trafod gyda esgobion ac academigs cymhedrol yw bwriad Dawkins. Dyma’i drafodaeth gyda Rowan Williams, er enghraifft.

Mae Dafis hefyd yn datgan bod ‘awgrym Dawkins mai crefydd oedd achos y “Trwblau” yng Ngogledd Iwerddon yn chwerthinllyd o arwynebol’.

Fel gweddill y Chwith Atchwelaidd sy’n beio’r Gorllewin am ddrwg y byd i gyd, mae Dafis yn honni mai ‘strategaeth ymerodrol llywodraeth Prydain’ 400 can mlynedd yn ôl sy’n gyfrifol.

Dwn i’m sut mae’n bosib taflu’r cyfrifoldeb i gyd ar sgwyddau Iago’r Cyntaf a’r ‘Ymerodraeth’, ond dyna esiampl o acrobatigs athronyddol y Chwith Atchwelaidd.

Y gwir yw mai crefydd oedd yn cyfarwyddo’r trais yng Ngogledd Iwerddon.

Arferai’r Parch Ian Paisley, un o brif ladmeryddion yr Undebwyr/Protestaniaid, ddisgrifio’r Pâb fel y Gwrth-Grist. Ac nid llais yn y diffeithwch oedd Paisley ond llais blaengar a phwysig.

Mae Dafis hefyd yn ceisio esgusodi treisgarwch a hunan-fomio ffwndamentalwyr Islamaidd trwy (dyna syrpreis!) feio ‘gwladlychiaeth a pholisi tramor gwledydd y Gorllewin yn y Dwyrain Canol’.

Mae’n honni’n wallus mai ‘ein syched anniwall ni oll am olew a’r wleidyddiaeth grym sy’n tarddu o hynny yw’r drwg yn y caws ac adwaith cwbl ddealladwy [fy mhwyslais i] yn erbyn hynny yw cenedlaetholdeb Arabaidd; hwnnw wedyn ynghlwm wrth Islam fel bathodyn hunaniaeth ethnig’.

Eto, esgus undonog y Chwith Atchwelaidd: beio’r Gorllewin am bob dim gan faddau (‘adwaith cwbl ddealladwy,’ meddai) ffanatics crefyddol eu bai. Mae gofyn datgymalu’r naratif yma, ond nid yw’n fwriad gen i wneud hynny fan hyn. Am y tro, fe arhoswn gyda’r geudeb mai olew oedd y rheswm am y rhyfel yn Irac. Mae sawl dadl gwbl ddilys yn erbyn y rhyfel, ond nid yw hon yn un ohonynt.

Yn ei lyfr The Road To Iraq: The Making Of A Neoconservative War, mae Muhammad Idrees Ahmad (sydd ddim yn ladmerydd ar ran y Gorllewin, rhag ofn i chi honni; i’r gwrthwyneb) yn datgan

‘If Iraq was invaded for oil, then the US was remarkably negligent in securing the prize.’

Mae Ahmad yn cyflwyno tystiolaeth i ddangos mai dim ond un allan o 11 cytundeb olew gytunwyd arnynt ar ôl y rhyfel arwyddwyd gyda chwmni Americanaidd.

Arwyddwyd y 10 arall gyda Norwy, Ffrainc, China a Rwsia.

Yn wir, cyn y rhyfel roedd cwmniau olew Americanaidd wedi bod yn taeru yn erbyn eu llywodraeth eu hunain y dylid codi’r sancsiynau oedd yn gwahardd Irac rhag gwerthu olew.

Nid eisiau tanio rhyfel oeddynt, eisiau sbarduno busnes: cyfalafiaeth nid cad oedd eu bwriad.

Mae esgusodi terfysgwyr yn eu babanaeiddio. Mae’n nawddoglyd ac yn ffurf ar imperialaeth.

Taerwn i nad yw Dafis yn deall natur crefydd eithafol, a gellid gweld pam.

Fel un fu’n ymdrochi mewn crefydd gymhedrol trwy gydol ei oes, mae’n palu am resymau pam y byddai ei gyd-grefyddwyr yn troi at drais a dinistr.

Duw rhadlon yw’r duw addolodd o, wedi’r cwbl. Ni all dderbyn y byddai ei Iesu Tirion o, nac unrhyw dirion Iôr arall, yn annog ygelerderau.

Ond dyna’n union mae crefydd yn ei wneud. Mae’r cyfiawnhad yr oedd Omar Mateen a John Hill angen i fwrdro i’w ddargnafod yn eu llyfrau sanctaidd.

Efallai bod digwyddiadau allanol (gwelodd Mateen ddau ddyn yn cusanu) yn sbardun. Ond o grefydd y daw’r annogaeth i weithredu, hynny yw, ‘y mae duw yn mynnu hyn’. O grefydd y daw’r atgasedd tuag at y sbardun, er enghraifft, ‘y mae gwrwgydiaeth yn aflan’.

Dyna pam bod crefydd yn wenwynig. Dyna pam y byddai’r byd yn well hebddo. Dyna pam y dylai Cynog Dafis ac Aled Jones Williams ymddihatru eu hunain o’u cred. Mae’r ddau bron yno. Maent wedi meddwl eu hunain at ffin rheswm; un cam fach arall sydd ei angen.

Mae Duw Yw’r Broblem yn lyfr gwerth chweil, ac yn fan cychwyn pwysig i’r drafodaeth am grefydd ac anffyddiaeth yng Nghymru. Rydwi’n annog pawb i’w ddarllen, i’w fwynhau ac i ddysgu ohono. Mae Dafis, yn enwedig, yn malurio’r dadleuon am dduw gystal a Dawkins. Rydwi’n edmygydd mawr o ysgrifennu Dafis. Mae ei ryddiaith yn glir ac yn gyhyrog.

Ond mae gwendidau i’r llyfr gan gynnwys y ddamcaniaeth am eithafiaeth grefyddol led led y byd, a’r rhesymau drosto. Hefyd, ar y diwedd, mae Dafis yn datgan mai

Duw yw un o greadigaethau gwychaf diwylliant dyn

I’r gwrthwyneb. Duw yw un o’r syniadau mwyaf brawychus a penwan mae dyn wedi gael erioed.

Galwai Dafis am greu rhyw fath o grefydd anghrefyddol. Mae’n taeru dros dynnu ar ‘wahanol draddodiadau crefyddol wrth ddechrau o’r newydd’.

Ond dyna mae crefyddau wedi wneud erioed. Tynnodd Gristnogaeth ar draddodiadau Iddewig a Phaganaidd. Y mae Iddewiaeth wedi tynnu ar draddodiadau hen grefyddau politheistaidd a monolatristaidd Canaan.

A does yna neb ddim gwell o wneud hynny. Lol newydd ar ben hen lol, dyna i gyd. ‘Mae fy nuw i yn well na dy dduw di’, ac o’r fan honno, cyflafan ar ôl cyflafan.

Y mae’r da mewn Cristnogaeth i’w gael hefyd mewn athroniaeth seciwlar tra bod y drwg yn unigryw i grefydd monotheistiadd.

Claddu crefydd sydd angen felly, nid ei hatgyfodi ar newydd wedd. Rhaid datgan bod dyddiau ffydd ar ben. Neu yn ôl i’n cychwyn cyntefig yr awn ni.

Advertisements