You are currently browsing the tag archive for the ‘novel’ tag.
Tag Archive
Apostol yn dod
Mai 8, 2019 in Crefydd, Llyfrau, Sgwennu, Uncategorized | Tags: atheism, author, awdur, Crefydd, Iesu, Jesus Christ, new book, novel, Paul, religion | Gadael sylw
BYDD fy nofel “Apostol” yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn y mis nesa.
Nofel am yr apostol Paul ydi hi – neu Paulos Shaul Tarsos fel mae o’n cael ei alw yn fy nofel.
Ar ôl cyhoeddi “Iddew” yn 2016, a derbyn ymateb positif dros ben, roeddwn i’n meddwl y buaswn i’n hoffi mynd ati i ysgrifennu am Paul, sefydlydd Cristnogaeth.
Credais y byddai’n haws na mynd i’r afael â Iesu. Roedd Paul, o leia, wedi ysgrifennu llythyrau, ac roedd ei gredoau’n fwy concrit na rhai Iesu. Mae Iesu’n reit amwys ac yn ddim ond adlewyrchiad o’r Cristion sydd yn ei addoli.
Ond y peth ydi, mae stori Iesu’n gyfleus. Mae hi bron fel ei bod hi wedi cael ei dyfeisio. Ffitir y stori i batrwm traddodiadol yr oes: iachawdwr wedi ei eni i dduw ac gwraig feidriol; mae’n herio’r status quo; mae’n cael ei ladd; mae’n atgyfodi. Dim ond llenwi’r bylchau sydd raid.
Mae Paul yn fwy o broblem. Arwahân i Actau’r Apostolion, nid oes fawr o sôn ar yr hyn a wnaeth Paul. Y broblem yw, ni ellid trystio’r Actau. Mae haneswyr yn ama geirwiredd y dogfennau. Ac mae’n gwrth-ddweud adroddiadau Paul ei hun.
Beth sy’n rhyfedd yw nad oes unrhyw ffynonellau eraill am rhai o’r straeon amlycaf am Paul, fel, er enghraifft, ei droedigaeth ar y ffordd i Ddamascus. Nid yw Paul yn cyfeirio at y digwyddiad ysgytwol yma yn ei lythyrau, hyd yn oed.
Hefyd, nid oes farw o strwythur i hanes Paul. “Ac yna, ac yna, ac yna” yw llîf y naratif. Mewn stori sydd wedi ei hadeiladu, mae un digwyddiad yn llifo i’r llall: “Oherwydd hyn, fe aeth Iesu i Jerwsalem, ond roedd…”
Felly roedd yn rhaid cael y llif hynny yn “Apostol”. Rhaid i chi aros tan mis nesa i weld os ydw i wedi llwyddo ai pheidio. Bydd y lansiad yng Nghanolfan Telford, Porthaethwy ar Fehefin 14.