Dyfed_Edwards_-034v2bw

Llun gan Tim Stubbings Photography

MAES Rhos Rhyfel yw’r hen enw ar bentre Rhosmeirch, Ynys Môn. Yno magwyd Dyfed Edwards. Mae Dyfed yn awdur, yn ddramodydd, ac yn newyddiadurwr. Roedd o’n arfer bod yn ganwr-gyfansoddwr flynyddoedd yn ôl, ond rhoddodd y gorau iddi a dechrau sgrifennu straeon a nofelau arswyd a dirgelwch.

Enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddofd Genedlaethol Caerdydd 2008 am ei ddrama hir, Cors Oer. Enillodd y wobr am eilwaith yn Esiteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009 gyda’r ddrama Tân Mewn Drain.

Cyhoeddwyd ei gyfrol ffeithiol gyntaf, Dynion Dieflig, gan Y Lolfa yn Hydref 2008. Mae’n sgwennu nofelau arswyd yn y Saesneg. Mae’n briod gyda’r rhithawdur, Marnie Summerfield Smith, ac yn byw bellach yn Swydd Caint.

Advertisements