APOSTOL (Gwasg y Bwthyn, 2019) Nofel rymus am un o gymeriadau mawr Cristnogaeth, yr Apostol Paul. Dyma ddehongliad heriol o fywyd a gwaith Paul ac yn gorfodi’r darllenydd i ail edrych ar y dyn cymhleth hwn. Unwaith eto, fel yn ei nofel Iddew, mae Dyfed Edwards yn gwthio’r ffiniau. Barn yr adolygwyr… “Nofel ysgytwol. Doeddwn i ddim yr un un ar ôl ei darllen hi” Manon Steffan Ros

IDDEW (Gwasg y Bwthyn, 2016) Credinwr tanllyd o bentre di-nod Natz’rat yw Yeshua. Mae’n dilyn y proffwyd Yohannan Mamdana sy’n pregethu dyfodiad y Deyrnas ac yn mynnu bod y Yehu’dim yn edifarhau. Ond pan mae Yohannan Mamdana’n cael ei arestio mae Yeshua’n cymryd yr awennau ac yn mynd a neges y proffwyd o’r anialwch i’r trefi. Ond mae ei ymgyrch yn arwain yn anochel at ddiwedd arswydus ar fryn tu allan i’r brifddinas. Taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth yw Iddew. Dyma nofel sy’n adrodd stori gyfarwydd mewn modd anghonfensiynol.
Barn yr adolygwyr… “Nofel uchelgeisiol a heriol gan awdur dewr” Llwyd Owen, awdur Taffia; “Dyma nofel eithriadol ac ysgbugol iawn… gwaith o athrylith…” Dewi Prysor, awdur Rifiera Reu

DYNIDynion_dieflig_clawrON DIEFLIG (Y Lolfa, 2008) Hanesion rhai o droseddau mwyaf dychrynllyd Cymru. Mae’n cynnwys achos Peter Moore, y perchennog sinema o Sir Ddinbych laddodd bedwar dyn yn y 1990au. Hefyd, mae pennod am achos Emyr Owen, y gweinidog gafodd ei garcharu yn yr 1980au am ymyrryd efo cyrff meirw.
Barn yr adolygwyr . . .
“Mae Dyfed Edwards yn rhoi darlun cyflawn, heb ein diflasu gyda gormod o fanylion a dadansoddi. Nid yw’r darllenydd byth yn cael ei lethu gan ormod o wybodaeth gefndir . . . does dim dwywaith fod yr awdur yn llwyddo i gyflwyno’r hanesion yma mewn modd effeithiol dros ben. “Siân Evans (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)


y_gwaethafPETER MOORE:  YGWAETHAF O’R GWAETHAF (Y Lolfa, 2009)
Llyfr yng nghyfres “Stori Sydyn” sydd yn olrhain hanes achos Peter Moore ac achos Lynette White, y butain o Gaerdydd gafodd ei llofruddio gan gleient. Arweiniodd yr achos at gamwedd cyfiawnder erchyll, lle’r carcharwyd tri dyn ar gam am ei lladd.
Barn yr adolygwyr . . .
“Fel sy’n nodweddiadol o’r gyfres Stori Sydyn, mae arddull y gyfrol yn hynod syml a darllenadwy. Ac er gwaethaf natur arswydus y ddwy stori, llwyddodd yr awdur i gadw’i emosiynau iddo’i hun. Mae’r cyfan yn ffeithiol a diragfarn ac mae hynny, mi gredaf, yn ychwanegu at yr arswyd.” Lyn Ebenezer (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)

Y_Moch_clawrY MOCH A STRAEON ERAILL (Carreg Gwalch, 2007) Un ar ddeg stori i oeri’r gwaed ac i rwygo’r nerfau . . .
Barn yr adolygwyr . . .
“Mae arddull (Dyfed Edwards) yn gynnil a diwastraff. Bwrw ymlaen gyda’r stori, dyna’r nod – magu amheuon a phlannu hadau ym meddwl y darllenydd, a’i gamarwain weithiau hefyd. Mae’n feistr ar y technegau hyn.” Dafydd Andrews (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
“Dychryn a gwae – bendigedig . . .  Byddwn yn annog pawb i ddarllen y gyfrol hon . . .” Llinos Dafydd, bbc.co.uk

hen-friwiauHEN FRIWIAU (Carreg Gwalch, 2002) Mae hen stori mewn papur newydd yn yr archifdy’n bachu’r gohebydd Aleksa Jones. Ond wrth iddi dyrchio, mae hi’n datgelu byd o gyfrinachau a sgandal, mae hi’n codi nyth cacwn ac yn agor hen friwiau – a tydi hynny ddim yn plesio pawb . . .
Barn yr adolygwyr . . .
“Mae gan yr awdur dalent werthfawr, dychymyg hudolus a sbarc yn ei ysgrifennu.” Carys Mair Davies, bbc.co.uk
“Ei gryfder yw ei feistrolaeth ar y digwyddiadau a’r ffeithiau. Mae’n datgelu manylion yn grefftus – darn o’r jig-so yn fan hyn, y darlun yn ehangu  i’r cyfeiriad arall – yn raddol, yn gynnil, yn gyffrous.” Dafydd Andrews (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)

llwybrau_tywyllLLWYBRAU TYWYLL (Y Lolfa, 1999) Ar hyd llwybrau tywyll tref gyffredin mae yna lofrudd yn llercian, a phlismyn yw ei darged.
Agoriad y nofel . . .
“Pe bai o heb ffraeo hefo hi, byddai Robert heb gamu o’r glaw a ddrylliai’r strydoedd i’r swyddfa bost fechan. Pe bai o wedi gwrando ar ei wraig a honno’n dweud: ‘Mi ddaw’r hogan ati ei hun, ‘dach chi’ch dau cyn waethed â’ch gilydd,’ ni fyddai wedi mentro i’r pentre y diwrnod hwnnw. Pe bai o heb deimlo’r euogrwydd fel plwm yn ei stumog, mae’n debyg y byddai’r cwnstabl wyth a deugain oed wedi cyrraedd ei hanner cant a phump, wedi ymddeol yr adeg honno, ac erbyn heddiw’n tendio’r ardd yng nghefn ei dŷ pâr. Pe bai . . . Ond ddaru o ddim . . . ”

y_syrcasY SYRCAS (Y Lolfa, 1998) Mae haul gorffennaf yn gwenu ar dref Geregryn. Ond o dan yr wyneb mae diflastod, ac ar y cyrion mae dychryn. Ac fel y daw Nathan Stevens a Kim Davies i ddeall, gwir bwrpas y sioe liwgar yw dinistrio, nid diddanu. Nid doniolwch on galar y mae’r syrcas hon yn ei chynnig . . .
Barn yr adolygwyr . . .
“Fe ddaw, yn sicr, o law Dyfed Edwards, glasur o waith arswyd. A hynny yn y dyfodol agos. Prynwch Y Syrcas. Darllenwch hi. Ond ddim gyda’r nos. Cofiwch, fel y dywedodd rhyw awdur arswyd arall rywbryd, mae gan y tywyllwch ddannedd. “ Lyn Ebenezer (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)

cnawd_straeonCNAWD (Y Lolfa, 1997) Dyma gyfrol o straeon iasoer sy’n gwau bywyd bob dydd ag elfennau o isfyd arswydus. Mae’r straeon yn cynnwys un am drigolion hynafol pentre gwledig sy’n troi trip yfed criw o fechgyn yn uffern ar y ddaear, a tyfiant mewn ffrij sy’n bwydo ar bethau byw . . . dim ond dau o’r hanesion sy’n bownd o fferu’r gwaed.
Agoriad y stori “Arch Noa” . . .
“Gwyddai Noa Bailey-Hughes ei fod o’n mynd i farw unwaith eto – ond roedd hyn yn saith gwaith gwaeth na’r tro cyntaf . . .
Agoriad y stori “Bwrw Dy Hun I Lawr” . . . “Rex Edwards oedd y newyddiadurwr gorau yn holl hanes y proffesiwn parchus hwnnw.”

dant_at_waedDANT AT WAED (Y Lolfa, 1996) Dan gysgod yr oriau du, mae’n amser bwydo a does ond un ffordd i’r llwyth fodloni ei chwant am waed . . . ond daw Tanith a’i chriw yn ysglyfaeth yn eu tro, hefyd – i’r ellylles sy’n tra-arglwyddiaethu drostynt, a’r heliwr dialgar, Mort.
Agoriad y nofel . . .
“Eisteddai’r dyn yn y gell oer, ddiflas, a’i ben yn pwyso yng nghryd ei ddyrnau. Wrthi’n meddwl yr oedd o; chwilio am reswm y tu ôl i’r hyn fu’n digwydd dros y dyddiau diwethaf, dyddiau’n fu’n baradwys ar y naill law ond yn uffern ar y llall. A fan hyn oedd gwaelodion y Tân oesol; man cysgu Jiwdas Iscariot, yn ôl Dante. Ond fyddai hyd yn oed bradwr Crist ddim am fod yng nghwmni’r dyn diawledig yma . . . ”

I brynu’r llyfrau, cliciwch ar y delweddau.