You are currently browsing the monthly archive for Tachwedd 2015.
Bydd fy nofel am Iesu (neu Yeshua, fel dwi’n ei alw fo, i roi iddo ffurf cywir ei enw) yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn yn 2016.
Mae “Iddew” yn portreadu taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth, ac mi gafodd hi glod gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Roedd hi’n un o ddwy oedd yn ysgarmesu am y wobr. Mi fuo yna “lawer o drafod”, meddai’r beirniad, am “Iddew” gan Kata Markon(fi) a nofel Abernodwydd, “Veritas”.
Erbyn hyn, mi wyddwn ni mai Mari Lisa enillodd am ei “Da Vinci Code” Cymraeg, ac mae hi’n haeddu cael ei llongyfarch – hon oedd ei nofel hir gyntaf ac mi hitiodd hi’r jacpot!
Beth bynnag, roedd dau o’r beirniad wedi hoffi “Iddew” yn arw gyda un ohonyn nhw – Dewi Prysor – yn ei disgrifio fel “nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy’n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd”. Ewadd, dyna eiriau mae unrhyw nofelydd am eu clywed. Ro’n i ar i fyny.
Gofynnwyd i mi ddechrau’r flwyddyn gyfrannu erthygl i lyfr oedd yn cael ei gyhoeddi am Gapel Ebenezer, Rhosmeirch. Capel yr Annibynnwyr ydi o, ac yr un hynaf ar Sir Fôn, yn deillio’n ôl ir 17eg Ganrif. Beth bynnag, hwn oedd fy nghapel i pan oeddwn i’n blentyn. A dyma be sgwennis i ac be gafodd ei gyhoeddi…
Cymdeithasol ydi capel. Lle i gymuned gyfarfod. Lle i gyfeillion gyfannu.
Mae’r elfen grefyddol yn bwysig i sawl un, bownd o fod. Ond ein greddfau cymunedol sy’n ein gyrru ni, heb i ni wybod, i fynychu addoldai, does gen i ddim dowt am hynny. Darllen gweddill y cofnod hwn »