You are currently browsing the monthly archive for Medi 2013.

MAE hi’n dros fis bellach ers i mi gymryd rhan yn Sherman Swingers. Noson ddifyr ond flinedig yng Nghaerdydd. 20 awdur, 20 cyfarwyddwr, 40 actor. Didolwyd ni yn dimau, danfonwyd ni i safle o fewn y Sherman. Fy actor i oedd Siw Hughes; fy nghyfarwyddwr oedd Beca Lewis Jones; fy safle, y gweithdy. Gadawyd fi – a’r 19 awdur arall – yn y Sherman dros nos i gynhyrchu monolog 5 munud (i gychwyn, ond bu’n rhaid hacio i lawr i 3). Perfformiwyd yr 20 monolog ar y Nos Sul. Beth bynnag, dyma fu’n i, ER EI LOSGI, a gyda llaw, cyn i chi ddarllen ymlaen, mae yna ddelweddau styrblyd yma, felly os oes gas ganddoch chi bethau anghynnes, peidiwch â darllen ymlaen.

ER EI LOSGI

(Gwyther, crefftwraig mewn creulondeb, wedi ei gwisgo heb flewyn o’i le. Mae hi’n cymryd ei gwaith o ddifri, ac yn berffeithwraig)
GWYTHER:       Persawr. Persawr, medda fo.
 Trwy ei ddiodde… TRWY EI DDIODDE
. Wedi ei raffu i’r sgaffald
… Persawr… 
Nid rhywbeth mae rhywun yn fy swydd i yn ddisgwyl i glywed
… NA, fel arfer…
(Fel pe bai’n diodde artaith)
NA—NA—NA—
(Saib)
Ond nid: persawr…
Ei lais… er ei…
Crebachlyd. 
Y syched wedi achosi hynny. 
A’r cortyn ro’n i’n dynhau am ei gorn gwddw, dow dow, yn ystod yr holi
(Yn grebachlyd, yn dynwared)
Mi da chi’n gwisgo persawr, medda fo, ac yna:
 Allwn i mo’i arogli o ar y cychwyn wrth i chi glipio’r electrodau i’m blagur bronnau; yn anffodus bryd hynny roedd rhenc fy nghroen yn rhostio a drewi sur fy mhiso yn hollbresennol
(Saib; dryswch ar ei hwyneb)
Ei ddweud mor ddi-lol
… Mi sgytiodd fi. Yn fa’ma
(Cyffwrdd ei stumog)
Lle dwi’n solat.  Prentisiaeth a choleg wedi haearnu’r perfedd.  Arferais yn fuan ag erchylltera…
Y torri a’r llosgi a’r mygu a’r tagu
Y boen sydd yn bwysig. 
O’r boen y daw’r gwir
. O’r boen y daw rhyddid
. O’r boen y daw — mae gen i brentis eleni ac mae o’n un diflas ar y naw.  Diog a chwit-chwat.  Ylwch mewn difri
(Edrych o’i chwmpas)
Mae prentis i fod i gadw’r gweithdy’n lan, llnau’r distryw oddi ar yr offer ac
(Yn syth, heb oedi o’r deialog uchod, mae hi yn gweiddi trwy’r drws)
YLI’R LLANAST MA’R LLO DWYT TI DDIM FFIT TYRD YMA I LYFU’R LLWCH O’R LLAWR LLE’R WYT TI MI’TH FLINGA I DI
(Saib; dod at ei hun)
Natur ffyslyd sydd yn ffitio artaith orau
Os mai fel hyn bydd o ddysgith o byth sut i fod y grefftiwr poen
(Saib)
Elizabeth Arden
(Rhwbio ei garddwrn ar ochor ei gwddw ac yna arogli ei garddwrn)
Persawr brynodd hen gariad i mi gynta chwarter canrif yn ôl a dim ond aelodau’r Blaid oedd yn medru fforddio’r ffashiwn…
Be ddaeth ohono fo, sgwn i? 
Ei ddifa yn Y Didoli Mawr?
 Neu lasa bod ei galon wedi newid cwrs a datgymalu o’n un i
(Codi ei ysgwyddau)
Dim ond… pen bys yn fa’ma
(Cyffwrdd ei gwddw)
Ac yn fa’ma
(Cyffwrdd ochor arall ei gwddw)
Ac e’lla…
(Cyffwrdd ei brest)
Dyna i gyd. Diferyn. Diferyn bach o —
(Saib)
Yma rydan ni’n cerfio’r dyddiau ddaw o gymalau ein gelynion
. Yma rydan ni’n tolcio yfory i’w hesgyrn
. Yma rydan ni’n serio’r byd newydd ar eu cnawd. 
Ond nid y dyfodol yn unig sy’n cael ei asio yma
. Na
. Y gorffennol hefyd
. Naddu ddoe newydd
. Ein hanes gwir
. O’r anafu y daw hynny
(Saib)
Arogli fy ngwddw ddaru o mae’n rhaid wrth i mi blygu a sibrwd yn ei glust mai dyma’r tro DWYTHA y baswn i’n gofyn am leoliad cuddfan ei gyd-fradwyr
(Sibrwd)
Dweud wrtha i lle mae nhw dweud ac mi gei di weld dy ferch fach mae hi’n ymbil am Dadi dweud wrtha i lle mae nhw —
(Saib)
Ac er ei losgi…
(Crebachlyd)
Mi da chi’n gwisgo persawr…
(Saib)
A dyna ni
. Dadmerais, do. 
Am foment
. Dadmerais drosto ei lygaid gwyrddlas ei anadl ar fy moch a’i lais yn treiddio trwydda i yn plethu fy nerfau a gweu tuag at fa’ma
(Cyffwrdd ei stumog.  Ochenaid awchus)
Y fo a fi?
(Chwerthiniad chwerw)
Mewn byd gwahanol, e’lla…
Byd sy’n arogli o ddiodde rhywun arall…
(Arogli ei garddwrn yn ddyfn)

DIWEDD

"Nofel ysgubol ac eithriadol iawn... gwaith o athrlylith" - Dewi Prysor

Clawr Dynion Dieflig

"Hynod ddarllenadwy" - gwales.com

Prynwch Y Moch A Straeon Eraill drwy glicio yma

"Dychryn a gwae – bendigedig" - Llinos Dafydd

RSS Newyddion Cymraeg o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Golwg 360

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Gwynedd

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Môn a Bangor

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Conwy

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Ddinbych

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Wrecsam a’r Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Chwareon o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

Categorϊau