800px-Francois_Dubois_001

Lladdfa Dydd Sant Bartholomew yn 1572; Cristnogion yn dwrdio, miloedd yn marw

Mae’r rheini sydd yn fy nilyn i ar Twitter yn gwybod fy mod i’n anffyddiwr di-flewyn-ar-dafod. Mi dwi’n taeru’n aml efo Cristnogion¹, y rhan fwyaf ohonyn nhw o enwadau Ffwndamentalaidd, a llawer greadigwyr – sef eu bod yn credu’n llythrenol  yn Genesis: y bydysawd wedi ei greu mewn chwe niwrnod tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl; esblygiad yn ddim ond y gelwydd Satanaidd.

Mae llawer iawn o bobol yn gofyn: pam wyt ti’n potsian? Wel, dwi’n potisan oherwydd bod y ffyddlon rai yma yn awyddus iawn i ymyrryd ym mywydau pobol. Mae mudiadau crefyddol wedi bod yn trio agor “ysgolion rhydd” lle mae nhw’n cael dysgu unrhyw fath o lol y mae nhw’n ddymuno. Yn ffodus, diolch i waith mudiadau fel y “British Humanist Association“, mae eu hymdrechion yn methu.

Er hynny, mae yna ysgolion crefyddol yn agor o hyd. Yn bersonol, dwi’n reit flin bod fy nhrethi i yn cynnal ysgolion sydd wedi eu selio ar y goruwchnaturiol; ar gredoau sydd heb dystiolaeth. Ond tra bod Gwladwriaeth yng nghlwm ym Mhrydain, felly y bydd hi (er bod ysgolion Mwslemaidd hefyd yn cael arian cyhoeddus, ond dwn i’m pryd y daeth Islam yn ffydd y wladwriaeth yma yng ngwledydd Prydain?)

Nid yw’r broblem cyn waethed yma ac ydi hi yn yr Unol Daleithiau, wrth gwrs. Ond mae gan yr U.D. un peth sydd yn amddiffyn y wlad rhag ymyrraeth crefyddol: Y Cyfansoddiad.

Oes, mae yna fwy o Gristnogion yno na sydd ym Mhrydain, ac mae nhw’n ffyrnicach hil o beth coblyn. Ond pan ddaw brwydr, mae seciwlariaeth yn trechu, diolch i’r drefn. Mae’r Cyfansoddiad yn darian gadarn yn erbyn llid y duwiol.

Ond nid yn unig ym myd addysg y mae’r ymyrraeth yma. Mae nhw hefyd yn bysnesu ym mywydau personol dinasyddion. Mi fuo nhw am hydoedd yn ceisio atal dau berson sydd yn caru ei gilydd rhag priodi. Mae nhw hefyd, fel yn yr America, yn gwneud eu gorau glas i fod yn eiddo ar gyrff merched drwy wadu iddynt yr hawl i reoli pryd y maent am atgynhyrchu.

Os na fydd cymdeithas seciwlar yn herio’r crefyddwyr, mi fyddan nhw yn ein tywys ni i lawr llwybrau tywyll iawn cyn i ni droi. Nid paranoia ydi hynny: ffaith. Mae nhw wedi eu trefnu yn effeithiol, mae nhw wedi eu hariannu yn sylweddol, ac mae ganddynt ddylanwad hefyd.

Bownd o fod bod nifer yn dweud: “Wel, dim ond lleiafrif ydi’r rhain; a tydyn nhw ddim yn cynrychioli crefydd gymhedrol y mwyafrif.”

Nac ydyn? Mae nhw’n addoli’r un Duw; yr un Crist; yr un Ysbryd Glan. Ac mae nhw’n darllen yr un Beibl. Yr unig wahaniaeth yw eu bod nhw’n ei ddadansoddi yn wahanol. A’r cwestiwn ydi: pwy ydi’r Cristion cymhedrol i ddweud bod y Cristion ffwndamentalaidd wedi cam-ddehongli’r ysgrythyr? Sut mae’r Cristion cymhedrol yn gwybod mai fo neu hi sydd wedi dadansoddi’r hen ddogfennau’n gywir? Mae’r ffaith bod y Cristion cymhedrol yn datgan ei fod o neu hi yn credu yn Iesu’r Efengylau hefyd yn caniatáu i’r Cristion ffwndamentalaidd ddweud yr union yr un peth.

I roi esiampl eithafol, dyma safbwynt Adolf Hitler ar Iesu Grist o araith yn Ebrill 1922 a’i lyfr My New Order:

My feelings as a Christian points me to my Lord and Savior as a fighter. It points me to the man who once in loneliness, surrounded by a few followers, recognized these Jews for what they were and summoned men to fight against them and who, God’s truth! was greatest not as a sufferer but as a fighter.

In boundless love as a Christian and as a man I read through the passage which tells us how the Lord at last rose in His might and seized the scourge to drive out of the Temple the brood of vipers and adders. How terrific was his fight against the Jewish poison. Today, after two thousand years, with deepest emotion I recognize more profoundly than ever before the fact that it was for this that He had to shed his blood upon the Cross.

Pwy bynnag oedd Iesu Grist a beth bynnag oedd ei safiad ar bynciau llosg y dydd, fe all Hitler ei hawlio fel iachawdwr a dylanwadwr yn union fel y gall Evan Roberts; ac mae’r ffaith bod Cristion cymhedrol yn hawlio’ Iesu, hefyd yn rhoi’r hawl i Gristion eithafol wneud yr un peth.

Mae yna ar draws 41,000 enwadau, grwpiau a sectau Cristnogol. Mae rhain o bob lliw a llun, y naill yn cytuno efo’r llall. Ar un adeg roeddan nhw yng ngyddfau ei gilydd. Mi daera i na all pob un o’r rhain fod yn gywir am Iesu a Duw; mi daera i mai dim ond un all fod yn gywir, os yw Duw yn bod. A dwn i’m p’run yw honno. Mae yna fwy o gyfle eu bod nhw i gyd yn anghywir.

Y canlyniad mae rhywun yn gyrraedd o edrych ar yr enwadau yma i gyd yw bod (1) Duw yn sal iawn am gyfleu ei neges; (2) bod dynion wedi camddallt neges (41,000 o weithiau), neu (3) nad oes Duw yn bodoli a dynion sydd wedi creu’r neges (41,000 o weithiau).

Ydi hynny’n sail i adael i’r bobol yma ymyrryd yn ein bywydau ni, deudwch?

¹ Gyda llaw, mae’n well gen i drafod yn waraidd. Gen i ddiddordeb mewn crefydd a’r Beibl. Ond yn anffodus mae’r ffwndamentalwyr yn gwrthod bod yn waraidd, ac mae hynny’n medru codi gwrychyn dyn.

Advertisements