You are currently browsing the monthly archive for Hydref 2009.

File-Zodiac woodcut.png - Wikipedia, the free encyclopedia_1256865884140WELSOCH chi’r stori sy’n honni bod y rhai sy’n cael eu geni o dan arwydd Y Saethwr yn y Sidydd yn ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus ac yn enwog na’r rhai gafodd eu geni o dan yr arwyddion eraill.

Lle mae’r prawf? Wel, beth am Britney Spears, Christina Aguilera, a Scarlett Johansson. Hefyd, Donny Osmond, Jenny Agutter, a Jermaine Jackson, brawd Michael.

Wrth gwrs, mae’r stori’n honni bod “ymchwil yn dangos” mai hyn yw’r achos. Mae’r geiriau yma’n fêl i newyddiadurwyr. Maen nhw’n rhoi sylwedd i’r stori. Wedi’r cwbwl, dyma i chi ymchwilwyr gwyddonol yn cyflwyno tystiolaeth.

Wel, dim cweit . . .

Mae’r stori am lwyddiant Y Saethwyr yn dweud mai dim ond 100 o enwogion oedd yr ymchwilwyr wedi eu astudio. Fawr o sampl. A dim ond mymryn llai nac un allan o bob pump oedd wedi eu geni o dan arwydd Y Saethwr.

Ond yn fwy arwyddocaol, roedd yr ymchwil wedi ei gwblhau gan y sefydliad gwyddonol uchel-ei-barch hwnnw, y “Cartoon Network”. Wel, dyna chi: prawf digonol, bownd o fod!

Mae straeon fel hyn (straeon: “mae ymchwil yn dangos”) yn abwyd i bapurau newydd a chylchgronnau. Ddiwrnod wedi cyhoeddi’r stori yma, fe gyhoeddwyd erthygl nodwedd ar yr un pwnc.

Unwaith eto, defnyddiwyd y ffaith bod “ymchwil yn dangos”, ac “ymchwilwyr wedi darganfod” i roi bôn braich i’r stori, i’w pharchuso.

Ond dyw’r ffaith mai sianel deledu i blant gyhoeddodd yr “ymchwil” ddim yn cael ei grybwyll o gwbwl yn yr ail stori.

Felly, beth sydd wedi digwydd ydi bod yn datganiad hwn – mae’r rhai sy’n cael eu geni o dan arwydd Y Saethwr yn fwy tebygol o lwyddo – wedi dod yn ffaith, yn dystiolaeth, yn ganlyniad “ymchwil”.

Mymryn o hwyl, medda chi? Wel, ella. Ond yn anffodus, mae yna neges go ddifrifol yma. Mae’n dangos sut mae tystiolaeth yn cael ei gamdrin. Bydd yr “ymchwil” yma o hyn allan yn cael ei fesur ochor yn ochor ag ymchwil go iawn. Ac os ydi ymchwil sy’n profi, er enghraifft, bod rhyw feddyginiaeth yn gwella salwch yn cael ei dderbyn, pam ddim ymchwil sy’n dangos bod Y Sidydd yn gallu mesur llwyddiant?

Dwn i’m pam dwi’n cwyno, cofiwch. Dwi wedi fy ngeni o dan arwydd Y Saethwr. Taswn i’n aros rhyw fymryn, ewadd, ella y bydda innau’n ymuno efo Bruce Lee, Noel Coward, Ronnie O’Sullivan, a gweddill Y Saethwyr, yn ffurfafen y llwyddiannus. Wedi’r cwbwl, mae o yn y sêr, yn tydi . . .

Rahema

Plant o un o'r ysgolion gyda nwyddau sydd wedi eu prynu gyda arian gasglwyd gan Trust Sulha

MAE fy ngwraig Marnie braidd yn anhygoel. (“Wyt ti’n bownd o ddeud hynny,” medda chi) Yn ogystal a bod yn awdur, mae hi hefyd yn newyddiadurwraig, sydd wedi cyhoeddi mewn sawl papur newydd a chylchgrawn.

Mae Marnie, yn ogystal, yn wraig fusnes, newydd sefydlu cwmni o’r enw Spotted Bikini gyda cyfaill iddi. Mae’r cwmni’n cynhyrchu cardiau cyfarch, a chyn bo hir, mygiau, gyda themau glan môr iddynt. Hefyd, ac o bosib mai dyma yw un o’r pethau mwya pwysig y mae hi’n wneud, mae Marnie’n gyfrifol am ymddiriedolaeth elusennol fechan sydd yn cynnal ysgolion i blant o Affganistan sydd wedi gorfod ffoi i Pacistan.

Pan gyrhaeddodd y plant a’u teuluoedd Pacistan flynyddoedd yn ôl (dianc rhag y Taliban ddaru nhw), doedd yna ddim byd yn llwch a llanast yn y campiau truenus lle’r oeddan nhw’n byw. Ond erbyn hyn, mae dwy wraig hynod ddewr o’r enw Jamilla Abassy a Rahema Sherzhad wedi sefydlu ysgolion i’r plant. Mae’r gwragedd yma’n ddewr ofnadwy: mae’r ardal lle maen nhw’n addysgu’r plant yma – yn enethod a bechgyn – yn drewi o Daliban.

Wyddoch chi be, rydan ni’n cwyno am gyflwr addysg yng Ngwledydd Prydain, ond does ganddo ni ddim rheswm o gwbwl i swnian; ac mi ddylian ni fod yn ddiolchgar ein bod ni cael yr hawl i addysg.

Roedd Marnie wedi cyfarfod y ddwy wraig rai blynyddoedd yn ôl pan yr ymwelodd hi efo Pacistan. Ac yn anhygoel, pan agorodd Rahema ei ysgol hi, fe enwodd yr ysgol ar ôl Marnie.

TrustSulha_1256307662853

Penderfynodd Marnie, felly, sefydlu “Trust Sulha” i gynorthwyo’r gwragedd arbennig yma.  Ar Hydref 3 eleni, cynhaliwyd yr ail “Dawns Dros Heddwch”, noson o ddawnsio i godi arian tuag at yr ysgolion.

Cofiwch, mae’r Taliban yn gwahardd dawnsio. A cherddoriaeth. A chwaraeon. Tasa’r Taliban yn rheoli Affganistan – neu Pacistan – ni fydda dawnsio’n bod yno; ni fyddai ysgolion Jamilla a Rahema’n bod, ychwaith, gan ei bod yn meiddio addysgu genod.

Roedd “Dawns Dros Heddwch” yn lwyddiant unwaith eto, y cwbwl wedi ei drefnu gan Marnie. Ewch i’r wefan i ddarllen am y noson, ac i ddysgu mwy am “Trust Sulha”, ac efallai y byddai rhai ohonoch yn barod i gynorthwyo’r athrawon dewr yma wrth iddyn nhw geisio addysgu’r plant, fydd, yn y dyfodol, yn dychwelyd i Affganistan fydd yn ddiogel (gobeithio) ac yn farus am genhedlaeth ifanc, ddeallus, addysgiedig fydd yn adeiladu’r wlad o’r newydd.

"Nofel ysgubol ac eithriadol iawn... gwaith o athrlylith" - Dewi Prysor

Clawr Dynion Dieflig

"Hynod ddarllenadwy" - gwales.com

Prynwch Y Moch A Straeon Eraill drwy glicio yma

"Dychryn a gwae – bendigedig" - Llinos Dafydd

RSS Newyddion Cymraeg o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Golwg 360

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Gwynedd

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Môn a Bangor

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Conwy

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Ddinbych

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Wrecsam a’r Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Chwareon o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

Categorϊau