You are currently browsing the monthly archive for Mawrth 2010.
PAN benderfynodd Y Parch David Rhodes, ficer Eglwys yr Holl Saint, Totley, ger Sheffield, wahardd pensiynwyr rhag ymarefer Tai Chi yn neuadd ei eglwys, doedd o ‘mond yn dilyn y Beibl. Mae’r Hollalluog yn reit glir ar gownt ddilynwyr “crefyddau” eraill: “LLADDWCH NHW!” (Exodus 22:20). Yn wir, mae’r Duw’n blwmp ac yn blaen ar y mater yma: os oes yna UN person mewn tref yn addoli “duw” arall, mae Duw yn gorchymyn bod yr dref i gyd yn cael ei dinistrio (Deut. 13: 12-18).
Druan ar Totley.
Mae Cristnogion rhesymol (a dwi’n siwr bod Mr. Rhodes yn un o’r rheini) yn bownd o ddweud nad ydi Duw mor ffyrnig y dyddiau yma. Ond mae hi’n bryder i mi ei fod wedi bod gyda’r ffashiwn dymer yn y gorffennol: mi lasa’n hawdd wylltio yn yr un modd eto. Ond ar y llaw arall, mae’r Beibl yn glir nad ydi Duw yn newid ei feddwl (Malachi 3:6): gwyliwch eich hunain, bensiynwyr, Tai Chi!
Mae hyn yn ddryslyd, wrth gwrs. Ydi Duw wedi newid, a bellach ddim yn debygol o falurio dinasoedd a lladd poblogaethau sy’n meiddio mynd yn groes iddo? Neu, fel y dywed Malachi, ydi Duw’r un peth, ac mae hi wedi darfod ar Totley? Anodd gwybod. Un peth sy’n sicr, mi roedd Duw ar un adeg yn Dduw ffyrnig a chreulon dros ben. Gobeithio ei fod wedi newid, ynte!
Mae’r eglwys wedi dennu llawer iawn o sylw at ei hun drwy wahardd criw Tai Chi Totley. Biti garw na benderfynodd Mr. Rhodes gefnogi ymdrechion y pensiynwyr i gadw’n heini. Mae Tai Chi, wedi’r cwbwl, yn ffordd wych i gadw’n ystwyth, ac yn ddigon ysgafn i’r henoed.
Ond ffitrwydd gwahanol oedd yn pryderu Mr. Rhodes a’r eglwys: ffitrwydd ysbrydol. Ond dwn i’m pa mor iach, mewn gwirionedd, ydi’r ffashiwn ffitrwydd efo Duw brwnt yn cynnal y dosbarthiadau.
MI ddaru fi eistedd yn dawel pnawn ddoe (Sul) a gwrando ar gynhyrchiad y BBC o fy nrama “Cors Oer”. Ac mi ges i fy mhlesio. Cynhyrchiad gwych. Cast gwych. Os liciwch chi wrando, ewch yma. Dyma’r tro cynta i un o fy nramau fod ar y radio, ac roedd o’n brofiad cyffrous iawn. Diolch i bawb oedd efo cysylltiad gyda’r cynhyrchiad.
BYDD addasiad o fy nrama “Cors Oer,” a enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008, yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru, Dydd Sul (Mawrth 14) am 2 p.m. Dwi’n naturiol wrth fy modd. Mae hi wedi cymryd amser i “Cors Oer” ddod o hyd i gartre. Ond o’r diwedd, mae hi wedi cael hafan. Nid ar y llwyfan, efallai, fel yr ysgrifennwyd hi, ond bydd hi’n hynod ddifyr clywed sut y mae hi’n swnio ar y radio. Mae’r cast yn cynnwys John Ogwen.