You are currently browsing the category archive for the ‘Llyfrau’ category.
Mae hi’n wythnos i heddiw ers lansiad Iddew yn Nhafarn y Rhos, Llangefni. Doeddwn i ddim yn gallu cofnodi’r achlysur yn Sir Fôn ar gownt y ffaith nad oedd gin i Ryngrwyd yno.
Rhyfedd yw bod heb y Wê. Mae’r cwestiwn yn codi: “Beth oeddan ni’n wneud cyn medru ebostio a thecstio a blogio?” Wel, beth oeddan ni’n wneud cyn i ni ddarganfod tân? Gwneud y gorau, debyg iawn: ti byth yn colli be ti byth wedi gael. Ond dyna fo. A dyma fi, wythnos yn ddiweddarach yn cofnodi noson wych.
Mae yna fideo fer yn y Sasneg, fi’n cael fy holi gan Eryl Crump o’r Daily Post, yn fan yma. Mae’r stori’n dweud bo fi’n “chased by several publishers for the right to issue the story in print” (llond ceg). Mae hynny yn anghywir, gyda llaw: dim ond gyda dau gyhoeddwr y gwnes i drafod Iddew, a doedd yna ddim “chase” o gwbl; am wneud hynny’n glir. Hefyd, 49 ydw i nid 48, ond ta waeth: fasa hitia i mi beidio a cwyno os ydy rhywun yn dweud fy mod i’n fengach nac ydw i.
Bydd fy nofel am Iesu (neu Yeshua, fel dwi’n ei alw fo, i roi iddo ffurf cywir ei enw) yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn yn 2016.
Mae “Iddew” yn portreadu taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth, ac mi gafodd hi glod gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Roedd hi’n un o ddwy oedd yn ysgarmesu am y wobr. Mi fuo yna “lawer o drafod”, meddai’r beirniad, am “Iddew” gan Kata Markon(fi) a nofel Abernodwydd, “Veritas”.
Erbyn hyn, mi wyddwn ni mai Mari Lisa enillodd am ei “Da Vinci Code” Cymraeg, ac mae hi’n haeddu cael ei llongyfarch – hon oedd ei nofel hir gyntaf ac mi hitiodd hi’r jacpot!
Beth bynnag, roedd dau o’r beirniad wedi hoffi “Iddew” yn arw gyda un ohonyn nhw – Dewi Prysor – yn ei disgrifio fel “nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy’n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd”. Ewadd, dyna eiriau mae unrhyw nofelydd am eu clywed. Ro’n i ar i fyny.
DOEDDWN i’n fawr o Einstein yn yr ysgol. Ddaru mi rioed glicio efo gwyddoniaeth. Roeddwn i wedi laru yn y gwersi. Dwi’m yn cofio bod efo diddordeb yn y pwnc o gwbwl – a’r unig beth diddorol dwi’n gofio ydi gweld un o fy mêts yn tanio darn o fagnesiwm a’i daflu ar draws y ddesg mewn gwers gemeg. Roedd o fel tân gwyllt – yn fflachio’n wyn, yn hisian. Oherwydd fy niffyg diddordeb – a fy niffyg deallusrwydd – methu cemeg a ffiseg ddaru fi.
Ond, rwan, a hitha’n rhyw hwyr bownd o fod i gael Lefel O, mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Dwi wedi sylweddoli mai dyna’r unig beth sy’n mynd i’n achub ni rhag lol, dwi’n meddwl – ac mae’r llyfr yma, “Bad Science”, yn rhoi lol yn ei le.
Mae’r llyfr wedi cael ei sgwennu gan Ben Goldacre, sy’n feddyg. Mae ganddo golofn yn y Guardian, ac hefyd gwefan ddifyr iawn. Mae o’n ramdamio maethegwyr, amheuwyr MMR, sgandal straeon MRSA mewn ysbytai, a faint fynnir o stwnsh arall mae pobl yn gredu heb ddim sail. Mae’r wasg o dan y lach: mae’n condemnio’r ffordd y maen nhw’n camddeall ymchwil gwyddonol, ac yn derbyn canlyniadau ymchwil annibynadwy er mwyn cael pennawd flasus.
Dwi’n meddwl bod hwn yn lyfr pwysig. Mae o’n mynnu mai synnwyr cyffredin a ddylid ennill y dydd. Wrth gwrs, tydi synnwyr cyffredin ddim yn ddeniadol pob tro. Dyna pan mae rhai maethegwyr fel Gillian McKeith (sy’n cael ei llarpio gan Goldacre) wedi gwneud eu ffortiwn. Fel y dywed Goldacre, mae’r ffaith syml bod bwyta’n llysiau’n dda i ni yn llipa; does na’m pennawd frathiog yn y ffaith honno. Ond mae ambell i faethegwr yn gorliwio’r ffaith yma, yn gwisgo’r cwbwl mewn plu ac aur, ac yn gwneud rigmarôl mawr. Ac maen nhw’n defnyddio “gwyddoniaeth” fregus iawn wrth geisio profi bod bwyta – dwn i’m – gwellt, efalla, yn mynd i’n helpu ni fyw am flynyddoedd maith.
Beth bynnag, dwi’n argymell pawb i ddarllen y llyfr yma. Hen dro nad oedd o ar gael tra roeddwn i’n laru yng ngwersi cemeg, dosbarth pedwar.
DWI’N trio sgwennu’n “llawn amser” y dyddiau yma. Dwi’n shifftio ar y Daily Mail yn Llundain dri diwrnod yr wythnos i dalu’r rhent a bwydo’r gath o’r enw Griff sydd yn y llun yma. Ond eistedd wrth y ddesg yma, lle mae Griff yn eistedd, fydda i gan fwyaf.
Dwi wrthi’n sgwennu llyfr “Stori Sydyn” i’r Lolfa ar hyn o bryd. Addasiad ydi o o fy llyfr Dynion Dieflig. Bydd hwn yn cynnwys dau achos llofruddiaeth. Dwn i’m yn union pryd y bydd o’n cael ei gyhoeddi, ond dwi’n bwriadu cwbwlhau’r gwaith cyn y Dolig.
Rydwi hefyd yn trio fy ngorau glas i sgwennu drama. Roeddwn i’n ffodus ddigon i ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Mi roddodd hynny andros o hwb i mi, a dwi wedi cael blas ar ddramodi. Dwi wrth fy modd yn creu deialog, a’r cymeriadau sy’n yngan y ddeialog. Ond yn fwy na dim, dwi’n hoff o ddweud stori.
Dwi’n cadw’n brysur, felly. Dwi’n trio sgwennu pob dydd. Wrthi’n ddygn, a dwi ddim yn cwyno – sgwennu sydd yn mynd a fy mryd i, a dwi’n ffodus iawn cael y cyfle. Wrth gwrs, mae’n rhaid perswadio Griff i symud o’r gadair cyn y medra i fynd ati efo’r gwaith.