Assisi-frescoes-entry-into-jerusalem-pietro_lorenzetti

Iesu’n Ymdeithio I Jerwsalem A’r Tyrfaoedd Yn Ei Groesawu gan Pietro Lorenzetti, 1320

Cyhoeddwyd adolygiad bositif arall o Iddew yr wythnos ddiwetha – Aled Islwyn yn dweud yn Barn (Rhif 641, Mehefin 2016) ei bod yn nofel ‘sy’n cynnig sialens’.

Er hynny, mae’r adolygydd yn dweud ambell i beth ddaru fy ysu i ymateb.

Mae sylwadau ‘negatif’ Aled Islwyn yn deillio o’m mhortread i o Iesu ei hun, ac maent yn sylwadau anochel a rhagweladwy.

Sawl gwaith rydwi i wedi dweud, tra’n trafod Iddew, mai un o’r rhesymau y bu i mi sgwennu’r nofel oedd oherwydd bod gan pawb – Cristnogion yn enwedig – eu fersiwn nhw eu hunain o Iesu Grist.

Dalfan ydi o, fel dwi wedi datgan, i fyd-olwg unigolion, enwadau a sefydliadau.

Rydach chi wedi clywed fy sylw, siwr o fod, bod Iesu ymneilltuwr o Fôn yn gwbl wahanol i Iesu ffwndamentalydd o Alabama.

Dwn i ddim os yw Aled Islwyn yn Gristion ai peidio. I ddweud y gwir, tydi hynny ddim yn bwysig. Be sy’n bwysig ydi ei ddatganiadau. Dyma dwi am ddelio gyda nhw.

Un sylw mae’n wneud yn ei adolygiad yw dweud mai bychan yw ‘byd’ Iesu yn y nofel.

…ymddengys mai ei unig ‘gynulleidfa darged’ yw ei bobl ei hun.

Wel, ia. Nhw oedd ei gynulleidfa darged. Dwn i ddim os yw Aled Islwyn yn euog o hyn, ond mae hawlio bod Iesu rhywsut yn targedu’r byd i gyd yn gwbl hurt. Nid oedd Iesu na’i gyfoedion yn ymwybodol o’r byd i gyd, fel yr ydan ni’n ymwybodol ohono.

Dyma gamgymeriad difrifol a wneir wrth drafod Iesu: ei rwygo o’i gyd-destun, o’i ddaearyddiaeth, o’i ddiwylliant, o’i gyfnod.

A be sy’n digwydd wedyn? Wel, yr union beth yr ydw i’n ddweud: bod Iesu’n dod yn ddalfan i ddaliadau’r goddrych.

Dywed Aled Islwyn,

Bron nad yw nod wleidyddol ei genadwri llawn cyn bwysiced iddo â’r un ysbrydol

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod yna ‘nod wleidyddol’ i genadwri Iesu. Mae’r mwyafrif o ysgolheigion – gan gynnwys EP Sanders, a gysidrir fel y prif arbenigwr cyfoes ar Iesu Hanes – yn credu mai proffwyd apocalyptaidd yn nhraddodiad Ioan Fedyddiwr a ‘Daniel’ oedd Iesu. Nid oedd haen wleidyddol yw neges.

‘Ond ceisiwch yn gyntaf ei deyrnas a’i gyfiawnder,’ meddai Iesu yn Mathew. Yn gyntaf, sylwch. Yna mae’n mynd ymlaen i ddweud, ‘Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun.’

Ydach chi’n dychmygu yn byddai rhywun sy’n brwydro am newid gwleidyddol yn dweud wrth ei ddilynwyr am beidio poeni am yfory? Yfory fyddai’r union beth a fyddai’n pryderu rhywun sydd â ‘nod wleidyddol’ i’w genadwri.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod Iesu’n gwrthywnebu neu gwrthryfela’n erbyn Rhufain. Delwedd gyfleus yw honno i Gristnogion rhyddfrydol ac asgell chwith.

Magwyd Iesu yn Ngalilea. Yno treuliodd y mwyafrif helaeth o’i fywyd. Fan honno oedd ei le.

Nid oedd yna bresenoldeb Rhufeinig yn y dalaith. Yn Jwdea oedd Rhufain yn arglwyddiaethu, gyda praefectus – Pontius Peilat o 26OC – yn rheoli.

Os oedd Iesu’n wirioneddol herio Rhufain, nid oedd aros yng Ngalilea’n heriol iawn.

Ac os gofiwn ni Marc 12:17 a Mathew 22:21 (‘Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw’), mae’n amlwg iawn nad oedd Iesu, fel proffwyd apocalyptaidd oedd yn credu bod Teyrnas Duw’n dod i’r ddaear yn fuan, yn hidio dim a wleidyddiaeth.

Nodwn bortread sympathetig Pilat yn yr Efengylau fel tystiolaeth sy’n dilorni unrhyw honiad bod Iesu’n gwrthryfela yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol a grym Rhufain.

Daw Pilat drosodd fel dyn rhesymol, meddylgar a sensitif tra bod hanes yn dweud y gwrthwyneb. Mewn gwirionedd, Pilat oedd un o raglawiau mwya creulon Rhufain. Mor greuluon fel y bu i’r ymerawdwr ei alw’n ôl i Rufain oherwydd ei driniaeth frwnt o’r Iddewon – yr unig dro i raglaw gael ei adalw ar gownt ei ymddygiad.

Pe bai gan Iesu ‘nod wleidyddol’ felly, byddai Pilat ar ei ‘hit list’ heb amheuaeth, a byddai hynny yn cael ei gyfleu yn yr Efenglyau.

Yr unig ‘wendid’ mae Aled Islwyn yn weld yn fy mhortread o Iesu

yw’r ffaith fod gwir natur ei garisma fel petai’n aros yn annewlig gydol y daith. Rhaid fod ganddo lond trol o’r hudoliaeth gyfrin honno i allu denu’r torfeydd a ddaw i’w ddilyn.

Goddrychol yw ‘carismatig’. Ac nid yw labelu rhywun yn ‘garismatig’ pob tro’n bositif. Gellir dadlau bod Hitler yn ‘garismatig’. A dweud y gwir, mae’n haws dadlau bod Hitler yn ‘garismatig’ os mai maint tyrfaoedd yw’r mesur.

Nid oes unrhyw iot o dystiolaeth – oni bai am y straeon yn yr Efengylau – bod Iesu wedi denu tyrfaoedd. Wedi’r cwbl, beth yw’r dadansoddiad o ‘dyrfa’? Mil, cant, hanner cant, dwsin?

Y gwir amdani yw nid oes unrhyw dystiolaeth bod Iesu’n garismatig. Mi daerwn i bod tystiolaeth i ddad-brofi’r honiad hwnnw.

Pe bai’n ‘garismatig’, byddai’r ‘tyrfaoedd’ a ddaeth i’w ddilyn wedi denu sylw. Ond nid oes smic amdanynt yn unlle tu allan i’r Efengylau. Yn wir, nid oes yr un gair – dim un gair – am Iesu na’i garisma na’i ymgyrchoedd na’i dyrfaoedd, yng ngwaith dim un o’r awduron (ac roedd nifer) oedd yn gyfoeswyr iddo.

Roedd Philo Judaeus o Alexandria, er enghraifft, yn ysgrifennu’n aml am ddigwyddiadau yn Jwdea a Jerwslaem.

Mae’n cyfeirio sawl gwaith at Pilat. Mae’n gwneud sylwadau (1,000 ohonynt) am Moses, a’r proffwydi mawr. Mae’n sôn am ddigwyddiadau gwleidyddol yn Jwdea yng nghyfnod Iesu.

Ond yn rhyfedd iawn nid oes unrhyw gyfeiriad at y gwrthryfelwr carismatig hwnnw oedd yn denu tyrfaoedd ac yn codi nyth cacwn ymysg yr awdurdodau…

Wrth gwrs, mae’r ffyddlon yn bownd eto o droi at yr Efengylau i gefnogi eu daliadau am Iesu.

Beth am yr Ymdaith i Jerwsalem? meddent. Tyrfaoedd, yn ôl yr Efengylau, yn rhuo ‘Hosanna’ Hosanna!’

Wel, darllenwch yr Efengylau. Mae’r adroddiadau’n wahanol. Yn Marc a Mathew, ‘y dyrfa’ sy’n croesawu Iesu. Ond yn Luc ‘holl dyrfa ei ddisgyblion’ sy’n llawenhau ‘â llais uchel’. Be? Deuddeg rafin yn codi twrw? Ynteu ‘tyrfa fawr’ Ioan? Ar gownt yr Ymdaith, fel sawl ‘digwyddiad’ arall, mae’r Efengylau’n gwrth-ddweud ei gilydd.

Mae haneswyr yn andros o ofalus wrth wneud datganiadau am Iesu. Yr unig ddwy ffaith maent yn gytuno arnynt yw bod Iesu wedi ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr a’i fod wedi ei groeshoelio dan raglawiaeth Pontius Pilat. (Mi ychwanegai i drydedd ffaith: Iddew oedd o).

Damcaniaethu yw’r gweddill.

Y gwir yw, prin iawn iawn yw’r ffeithiau am Iesu. Ni sgwenodd air pan yn fyw, ni sgwennod yr un cyfoeswr air amdano. Ugain mlynedd ar ôl ei farwolaeth yr ysgrifennwyd amdano am y tro cyntaf, a hynny gan Paul, na fu erioed gyfarfod Iesu.

Rhaid trin yr Efengylau a Llythyrau Paul fel yr ydan ni’n trin dogfennau hanesyddol eraill: gydag amheuaeth.

Cofiwch bod gan ‘Mathew’, ‘Marc’, ‘Luc’, ‘Ioan’ a Paul agendau penodol.

Nid awduron neu haneswyr gwrthrychol oeddynt ond dilynwyr brwd, credinwyr ffyddlon, ffwndamentalwyr sicr.

Iddyn nhw, fel ni, roedd Iesu’n ddalfan i’w daliadau personol ac yng ngoddrych ein credoau’n hunain, rydan ni wedi colli’r Iesu go iawn – ac mae’n debyg na ddaw o byth yn ôl.

Yn ei le, mae sawl Iesu, a prin bod yr un ohonyn nhw’n adlewyrchiad o’r dyn go iawn, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o’r rhai sy’n ei addoli hyd heddiw.

Advertisements