ClawrIddew

Clawr Iddew gan Siôn Ilar

Iddewon oedd y Cristnogion cynta. Efallai bod hyn yn llithro meddyliau sawl un y dyddiau yma ond roedd y Cristnogion cynnar yn hadu eu cred mewn pridd cyfarwydd. Gwreiddiau Iddewig oedd yn fwya ffrwythlon iddyn nhw. O fewn fframwaith Iddewig yr oeddan nhw’n gweithredu a thrafod ac addoli. Y mae ysgaru Iesu, felly, o’i gyd-destun Iddewig yn gwneud cam â hanes ― ac hefyd gyda’r Iesu gwreiddiol, pwy bynnag oedd o.

Dwi wedi dadlau hyn o’r blaen: dalfan i ddaliadau unigolion a sefydliadau Cristnogol ydi Iesu Grist erbyn hyn. Fel ddywedodd Albert Schweitzer yn ei lyfr enwog “The Quest For The Historical Jesus”, roedd pob ymchwilydd i’r Iesu Hanesyddol o’i flaen ― Reimarus, Strauss, ac eraill ― wedi llunio Iesu yn eu delwedd nhw eu hunain. Greda i ei bod hi’n anodd peidio, a chithau’n Gristion. Efallai bod rhai anffyddwyr sydd yn rhoi Iesu ar bedestal yn gwneud yr un peth. Mae Richard Dawkins, y gwyddonydd a’r arch-anffyddiwr, wedi disgrifio Iesu fel “athro moesol mawr”. Mae’n gwneud datganiadau na ellid eu cadarnhau, ac efallai bod Dawkins eisiau i Iesu fod fel hyn, fel bod John Dominic Crossan, y diwynydd o draddodiad gweriniaethol Gwyddelig, am weld ei hun ― ac Iesu o’r herwydd ― fel gwrthryfelwr yn erbyn imperialaeth. Gwêl rhai’r Iesu fel Rhyfelwr Dwyfol, a gwae chi sy’n ei gellwair. Gwêl nifer fo fel Marcsydd. Ac roedd Hitler, gelyn brwd Marcsiaeth, yn edmygydd o’r Crist.

Dwi’n eitha sicr na fedar Iesu fod yn Farcsydd ac yn Ffasgydd ― er mewn gwirionedd, llinnell frau iawn sy’n gwahaniaethu’r Chwith Eithafol a’r Dde Eithafol. Ond mae Iesu gymaint o eicon yn niwylliant o Gorllewin fel ei bod hi’n anodd peidio nadu i syniad amdano lifeirio i’ch cydwybod. Efallai fy mod i wedi gwneud yn “Iddew”. Dwi’n datgan mai nofel yw hi. Ffuglen heb amheuaeth, ond mae hi’n ffuglen sydd wedi ei selio ar waith ymchwil. I ddweud y gwir ni ellir dweud llawer am Iesu: fe’i anwyd o, do, ond nid fel y dywed Luc na Mathew, debyg iawn; fe bregethodd o bod Teyrnas Duw yn dod, ac ei bod hi’n dod yn ‘no fuan, hefyd [Mathew 16: 27, 28; Mathew 24: 25-34; Marc 13:26-30; Luc 21:27-32], ac roedd ei ddilynwyr yn credu hynny hefyd [Hebreaid 1:1-2; 1 Corinthiaid 7:27,29-31; 1 Pedr 4:7; 1 Thessaloniaid 4:15-17; Iago 5:8, 9; Datguddiad 1:3; Datguddiad 22:6,7,10,12,20 ― “yn wir, yr wyf yn dod yn fuan…”]; fe ddienyddiwyd o am rhywbeth ― codi twrw, efallai; bygwth y Deml, ond dwi ddim yn credu ei fod o’n ddigon pwysig i gael achos o flaen Praefectus Rhufain. A dyna fo. Dyna’r ydan ni’n wybod. Mae hi’n bosib dyfalu, diolch i waith trylwyr ysgolheigion, beth a ddywedodd o, ond dyma’r manion yr ydan ni’n wybod. O, ac un peth arall. Un peth cwbl allweddol. Un peth mae’r mwyafrif yn anghofio pan ofynnir iddyn nhw “Be ‘dach chi’n wybod am Iesu?”. Iddew oedd o.

BYDD IDDEW YN CAEL EI GYHOEDDI FIS MAWRTH GAN WASG Y BWTHYN.
Advertisements