FullSizeRender

Fi a Marred o Bwthyn yn y lansiad

Mae hi’n wythnos i heddiw ers lansiad Iddew yn Nhafarn y Rhos, Llangefni. Doeddwn i ddim yn gallu cofnodi’r achlysur yn Sir Fôn ar gownt y ffaith nad oedd gin i Ryngrwyd yno.

Rhyfedd yw bod heb y Wê. Mae’r cwestiwn yn codi: “Beth oeddan ni’n wneud cyn medru ebostio a thecstio a blogio?” Wel, beth oeddan ni’n wneud cyn i ni ddarganfod tân? Gwneud y gorau, debyg iawn: ti byth yn colli be ti byth wedi gael. Ond dyna fo. A dyma fi, wythnos yn ddiweddarach yn cofnodi noson wych.

Mae yna fideo fer yn y Sasneg, fi’n cael fy holi gan Eryl Crump o’r Daily Post, yn fan yma. Mae’r stori’n dweud bo fi’n “chased by several publishers for the right to issue the story in print” (llond ceg). Mae hynny yn anghywir, gyda llaw: dim ond gyda dau gyhoeddwr y gwnes i drafod Iddew, a doedd yna ddim “chase” o gwbl; am wneud hynny’n glir. Hefyd, 49 ydw i nid 48, ond ta waeth: fasa hitia i mi beidio a cwyno os ydy rhywun yn dweud fy mod i’n fengach nac ydw i.

Roedd hi’n noson wych. Roeddwn i’n falch bod cymaint o bobl wedi mynd i’r drafferth i ddod draw i Dafarn y Rhos. Braf, wrth gwrs, oedd bod fy ngwraig Marnie Summerfield Smith yno. Andros o gefnogol a prowd iawn ohona fi. Roeddwn i’n falch bod Mam yno, ac fy modryb a’m cneither, ac fy Ewyrth Richard Huw, sy’n Gristion ac yn ddyn doeth a deallus iawn, ac mae o am ddarllen yn nofel ac mi gawn ni sgwrs amdani, dwi’n sicr. Fydd o ddim yn hoff iawn o’r rhegi, dwi ddim yn meddwl. Hyfryd hefyd gweld Derec Llwyd Morgan a Jane Edwards yno gyda’i merch Elin Llwyd Morgan, hen ffrind a chyd-ohebydd ar yr Herald ers talwm: teulu llenyddol ar y naw. Roedd llawer o fy hen gyd-weithwyr yno: Siôn a Carys Tecwyn; Anna-Marie Robinson a Tudur Huws Jones; Lloyd Jones; Arwyn Roberts; Ian Parri; yr uchod Mr Crump, wrth gwrs. Braf hefyd oedd gweld John Roberts, gynt o Gyngor Sir Gwynedd, yno fel cyfieithydd, ac fe wnaeth job wych yn trosi’r noson i’r Saesneg i Marnie. Mi eith hi’n lith os dwi’n cyfeirio at bawb oedd yno, ond dwi eisdiau diolch iddyn nhw i gyd, pob un wan jac, ddaeth i’r lansiad.

Wrth gwrs, rhaid cyfeirio at sêr y noson: y talentog Rhodri Siôn, actor arbennig, oedd wedi sgytio pawb gyda’i ddarlleniadau o’r nofel; Dewi Prysor, un o feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen y llynedd roddodd gyflwyniad brwdfrydig a bywiog i’r nofel ac i’r noson; Angharad Price o Brifysgol Bangor, beirniad arall yn y gystadleuaeth honno’r llynedd, a’m holodd yn wych iawn, ac a wnaeth rhywbeth dwi’n awyddus i holwr wneud: fy herio fymryn. Dwi’n hoff o her.

Rhaid dweud gair hefyd am Marred o Wasg y Bwthyn sydd wedi chwysu chwartiau dros y nofel yma, ac a drefnodd noson wych; ac yn ogystal Gareth Evans-Jones, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r wasg. Bu Gareth yn help anhygoel i mi gyda rhai o’r geiriau Hebraeg yn Iddew. Y fo fu’n gyfrifol am ddod o hyd i’r symbolau Hebraeg sydd ar gychwyn pob pennod.

Mae hi’n flynyddoedd ers i mi gyhoeddi nofel yn y Gymraeg, ac mewn gwirionedd rydwi wedi bod allan ohoni o safbwynt Cymru a llenyddiaeth Gymraeg dros y blynyddoedd dwytha. Ond mae’r profiad o fynd trwy’r broses yn y Gymraeg gyda Iddew wedi fy nhanio eto’n sicr. Dwi wedi mwynhau yn arw, ac wedi bod yn falch iawn o’r ymateb. Edrych ymlaen, nawr, i glywed barn y beirniad a’r darllenwyr.

Ac mynd ati, nawr, wrth gwrs, gyda nofel arall. Oes, mae yna sawl prosiect Saesneg ar y gweill, ond heddiw rydwi wedi dechrau potsian efo’r nofel Gymraeg nesa: stori’r Apostol Paul, wrth gwrs.

Advertisements