bad-science1DOEDDWN i’n fawr o Einstein yn yr ysgol. Ddaru mi rioed glicio efo gwyddoniaeth. Roeddwn i wedi laru yn y gwersi. Dwi’m yn cofio bod efo diddordeb yn y pwnc o gwbwl – a’r unig beth diddorol dwi’n gofio ydi gweld un o fy mêts yn tanio darn o fagnesiwm a’i daflu ar draws y ddesg mewn gwers gemeg. Roedd o fel tân gwyllt – yn fflachio’n wyn, yn hisian. Oherwydd fy niffyg diddordeb – a fy niffyg deallusrwydd – methu cemeg a ffiseg ddaru fi.

Ond, rwan, a hitha’n rhyw hwyr bownd o fod i gael Lefel O, mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Dwi wedi sylweddoli mai dyna’r unig beth sy’n mynd i’n achub ni rhag lol, dwi’n meddwl – ac mae’r llyfr yma, “Bad Science”, yn rhoi lol yn ei le.

Mae’r llyfr wedi cael ei sgwennu gan Ben Goldacre, sy’n feddyg. Mae ganddo golofn yn y Guardian, ac hefyd gwefan ddifyr iawn. Mae o’n ramdamio maethegwyr, amheuwyr MMR, sgandal straeon MRSA mewn ysbytai, a faint fynnir o stwnsh arall mae pobl yn gredu heb ddim sail. Mae’r wasg o dan y lach: mae’n condemnio’r ffordd y maen nhw’n camddeall ymchwil gwyddonol, ac yn derbyn canlyniadau ymchwil annibynadwy er mwyn cael pennawd flasus.

Dwi’n meddwl bod hwn yn lyfr pwysig. Mae o’n mynnu mai synnwyr cyffredin a ddylid ennill y dydd. Wrth gwrs, tydi synnwyr cyffredin ddim yn ddeniadol pob tro. Dyna pan mae rhai maethegwyr fel Gillian McKeith (sy’n cael ei llarpio gan Goldacre) wedi gwneud eu ffortiwn. Fel y dywed Goldacre, mae’r ffaith syml bod bwyta’n llysiau’n dda i ni yn llipa; does na’m pennawd frathiog yn y ffaith honno. Ond mae ambell i faethegwr yn gorliwio’r ffaith yma, yn gwisgo’r cwbwl mewn plu ac aur, ac yn gwneud rigmarôl mawr. Ac maen nhw’n defnyddio “gwyddoniaeth” fregus iawn wrth geisio profi bod bwyta – dwn i’m – gwellt, efalla, yn mynd i’n helpu ni fyw am flynyddoedd maith.

Beth bynnag, dwi’n argymell pawb i ddarllen y llyfr yma. Hen dro nad oedd o ar gael tra roeddwn i’n laru yng ngwersi cemeg, dosbarth pedwar.

Advertisements