200px-Daniel_Owen

Daniel Owen: Be fyddai awdur Enoc Huws and Gwen Tomos wedi feddwl am Iddew?

Bydd fy nofel am Iesu (neu Yeshua, fel dwi’n ei alw fo, i roi iddo ffurf cywir ei enw) yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn yn 2016.

Mae “Iddew” yn portreadu taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth, ac mi gafodd hi glod gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Roedd hi’n un o ddwy oedd yn ysgarmesu am y wobr. Mi fuo yna “lawer o drafod”, meddai’r beirniad, am “Iddew” gan Kata Markon(fi)  a nofel Abernodwydd, “Veritas”.

Erbyn hyn, mi wyddwn ni mai Mari Lisa enillodd am ei “Da Vinci Code” Cymraeg, ac mae hi’n haeddu cael ei llongyfarch – hon oedd ei nofel hir gyntaf ac mi hitiodd hi’r jacpot!

Beth bynnag, roedd dau o’r beirniad wedi hoffi “Iddew” yn arw gyda un ohonyn nhw – Dewi Prysor – yn ei disgrifio fel “nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy’n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd”. Ewadd, dyna eiriau mae unrhyw nofelydd am eu clywed. Ro’n i ar i fyny.

Gofynnodd un neu ddau ar Twitter a ballu wedyn pwy oedd Kata Markon. Mae hynny’n amlwg, bellach. Ond beth am esbonio beth ydi Kata Markon. Ystyr yr ymadrodd yw “Yn ôl Marc,” a daw o’r iaith Groeg Coine (“Koine Greek“), iaith yr Efengylau.

Wrth gwrs, does yna’r un ysgolhaig o bwys yn datgan mai “Marc” sgrifennodd yr Efengyl, nid mwy na’u bod nhw’n datgan mai Ioan, Matthew a Luc sgrifennodd y lleill. Dienw oedd yr Efengylau. Anhysbys ydynt hyd at heddiw.

Nid oedd y Tadau Eglwysig cynnar, y rhai oedd yn ysgrifennu ar ddechrau ac yng nghanol yr ail ganrif O.C., yn ymwybodol o fodolaeth yr Efengylau, mae’n debyg.

Ysgrifennai Justin Martyr yng nghanol yr ail ganrif. Pregethai am dduwioldeb y Crist. Byddai dyfynnu o’r Efengylau efallai wedi bod yn ddefnyddiol iddo fo. Ond nid oes un llinnell o naill ai Matthew, Marc, Luc na Ioan yn ei waith. Yn hytrach mae’n dyfynnu’r Hen Destament 300 gwaith, ac apocrypha’r Testament Newydd ar draws 100 o weithiau. Dim smic o’r Efengylau.

Roedd Papais yn ysgrifennu tua’r un amser a Justin, ac er iddo wneud cyfeiriadau at waith Matthew a Marc, nid oes awgrym eu bod yn Efengylau gyda enwau’r “awduron” arnyn nhw.

Mae’n debyg mai tuag at ddiwedd yr ail ganrif O.C. y casglwyd a golygwyd yr Efengylau, efallai gan Dadau Eglwysig fel  Theophilus ac Irenaeus. Yr adeg honno y gwelwyd y geiriau “Kata Markon” am y tro cyntaf, mae’n debyg, ond wrth gwrs y copi cynharaf o Marc sydd ganddom yw hwnnw sydd mewn maniwsgript o’r new Papeirws 45 (neu P.Chester Beatty I) wedi ei ddyddio i’r drydedd ganrif (200-250OC). Mae’n cynnwys ffragmentau o’r bedair Efengyl, ac Actau’r Apostolion.

[Mae honiadau bod copi yn deillio o’r ganrif gyntaf wedi ei ddarganfod mewn “mummy” yn yr Aifft, ond nid yw hynny wedi ei gadarnhau eto.]

Ansicr ac amwys, felly, yw hanes yr Efengylau, ac mae unrhyw Gristion pybyr sy’n eu derbyn yn llythrennol yn gwneud cam â hanes, y testunau, a’u cred eu hunain, yn fy marn i.

Beth bynnag, mynd ati wnes i i sgrifennu nofel am Iesu/Yeshua. Ond nofel am y dyn oedd hon i fod, nid y duw. Yn amlwg, fel anffyddiwr, dwi ddim yn credu mewn duwiau, a dwi ddim yn credu bod Iesu’n dduw. Yn wir, dwi ddim yn meddwl, chwaith, bod pob un o’r Efengylau’n credu bod Iesu’n dduw, yn enwedig Marc, yr Efengyl cyntaf, a’r un y treuliais i fwyafrif o amser yn ei darllen. Mae strwythur “Iddew” yn dilyn, fwy na heb, strwythur Marc (“Kata Markon,” felly).

Defnyddiais sawl cyfieithiad o Marc, gan gynnwys fersiwn lafar, syniad-am-syniad, Arfon Jones o beibl.net. Mae Arfon yn haeddu clod am ei gamp, ac mae beibl.net yn cynnig fersiynau hawdd i’w darllen o nifer fawr o lyfrau’r Beibl.

Felly, mynd ati, ar ôl llunio strwythyr a chynllun, i sgrifennu “Iddew” oedd y gamp nesa. Roeddwn i’n sicr o un peth – un o’r ychydig bethau y gallwn ni fod yn sicr ohono am yr Iesu Hanesyddol – roedd o’n Iddew, yn un triw, yn un duwiol, yn un ufudd. Nid ei fwriad oedd creu crefydd newydd; eu fwriad oedd annog yr Iddewon i gadw’u Cyfraith yn well nac yr oeddan nhw, yn ei dyb o.

Wedi darllen am Iddewiaieth, daethais i’r casgliad ei bod hi’n ffydd ddefodol dros ben – darllenwch Lefiticws; y rhestrau o gyfreithiau a rheolau; llith di-ddiwedd. Roeddwn i eisiau cyfleu hynny, rhywsut, yn arddull y nofel, a dyna pam bod y steil, gyfeiriwyd ati ym meirniadaeth y Daniel Owen, yn cynnwys llawer o ail-adrodd – ac rydwi’n ddigyfaddawd ar gownt hyn; tydwi ddim yn ymddiheuro: dyma yw natur “Iddew”.

Wrth gwrs roedd y cerddor Robat Arwyn – yr un beirniad nad oedd yn hoffi “Iddew” – wedi syrffedu ar y steil, er ei fod yn rhoi clod i “weledigaeth” y nofel. Ond dyna fo: pawb at y peth y bo.

Dyma i chi gip:

Y machlud, ac mae hi’n Yom Shabbat.

Dydd o orffwys. Dydd o ddefodau. Camu o’r nawr, o’r byd. Camu i’r freuddwyd o’r Paradwys â greuwyd gan yr Adonai. Camu i’r perffeithrwydd. Cael blas arno fo. Dyma ydi Yom Shabbat. Dyma sydd wedi ei ddeddfu.

Yom Shabbat ydi –

Diwedd gwaith. Diwedd amddifadedd. Diwedd pryderon. Diwedd diflastod. Diwedd llafur a diwedd chwys.

A dyna chi. Mi gymerodd fis i fi sgrifennu’r drafft cynta. Dwi’n ddrafftiwr cynta barus a ffyrnig, yn mynd fel dwn i’m be. Os stopiwch chi yn ystod y drafft cynta, mae yna beryg na fydd y nofel yn cael ei gorffen, yn fy marn i. Mae’r twtio’n digwydd yn y drafftiau sy’n dilyn. I’r diawl a bod yn dwt yn y drafft cynta! Darfod ydi pwrpas y drafft cynta.

Bellach, dros 18 mis ers i mi orffen drafft 1, rydwi’n dechrau paratoi ar gyfer cyhoeddi “Iddew”, fy ffuglen gynta yn y Gymraeg ers mwy na degawd. Dwi’n edrych ymlaen, wrth gwrs, ac mae brwdfrydedd Gwasg y Bwthyn tuag at y prosiect yn anhygoel.

Bydd hi’n nofel ddadleuol, heb os – o safbwynt arddull a chynnwys. Mae crefydd yng Nghymru yn neis-neis; yn rhyddfrydol ac yn gynhwysol. Mae’r ddelwedd o Iesu’n un o broto-sosialydd; rhyw hipi gwefreiddiol.

Ond wrth gwrs dyna’r drafferth efo’r Crist ‘ma: mae gan pob credinwr ei fersiwn ei hun; dalfan ar gyfer byd-olwg unigolion ac enwadau ydi Iesu – nid yw Crist cefnogwr Plaid Cymru yr un a’r Crist addolid gan “redneck” o Alabama sy’n melltithio gwrywgydwr a bygwth gwragedd sy’n cael erthyliad. Ond o’r un ffynhonnell y daw y ddau Iesu: o’r Efengylau.

Pa Grist sy’n gywir? Wel, dyna’r broblem: pwy a ŵyr? Yr un o’r ddau, debyg. Ond dwi’n gwneud fy ngorau glas, yn “Iddew”, i ddelio gyda’r mymryn ffeithiau rydan ni’n gallu eu cadarnhau. Er hynny, ffuglen ydi “Iddew”. Ond ar ddiwedd y dydd, ffuglen yw’r gelwydd sy’n dweud y gwir yn fwy gwir. Ac efallai y bydd y nofel yn gwneud i bobl feddwl am Iesu, boed nhw’n ei addoli ai peidio. Ga’n ni weld.

Advertisements