Charles Darwin

CYHOEDDWYD “On The Origin Of Species” 150 mlynedd yn ôl i heddiw. Mi sgytiodd llyfr Charles Darwin y byd. Roedd ei ddamcaniaeth yn ddaeargryn drwy Gristnogaeth ar y pryd. Roedd pawb, radeg honno, yn credu mai yn oruchnaturiol y creuwyd y byd a popeth byw. Dangosodd Darwin bod yna esboniad arall, esboniad gwell – esboniad oedd yn dibynnu ar dystiolaeth yn hytrach na ffydd.

Mae nifer yn honni mai Theori Esblygiad Darwin yw un o’r darganfyddiad pwysicaf yng ngwyddoniaeth, darganfyddiad sy’n esbonio sut mae bywyd ar y ddaear wedi amrwyiaethu dros filiynau o flynyddoedd. Wrth gwrs, mae nifer fawr o Gristnogion wedi derbyn y theori. Ni ellir unigolyn gyda unrhyw resymeg a dealltwriaeth sylfaenol o wyddoniaeth ei gwrthod, i ddweud y gwir: mae’r dystiolaeth yn ddi-bendraw

Ond mae rhai, rheini i gyd yn grefyddwyr, yn honni mai syniad felltigedig yw Darwiniaeth – ac nid yn unig hynny: mae hi’n gelwydd hefyd meddai creadyddion. Mae’r bobol yma’n dal i gredu i’r bydysawd gael ei greu mewn chwe niwrnod gan Dduw, a hynny rhwng 6,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn wir, mae theori Darwin hyd heddiw yn ddadleuol.

Mae gwyddonwyr, wrth gwrs, yn ei derbyn. Ddowch chi ond ar draws llond llaw o wyddonwyr sydd yn amau’r theori, ac yn dilyn athroniaeth “Intelligent Design”, sydd yn ddim mwy na creadaeth mewn dillad crand. Nid yw’r gwyddonwyr rheini, fel arfer, yn gweithio yn y meusydd penodol fel bioleg, swoleg, geoleg, paleontoleg.

Ond er bod gwyddoniaeth yn derbyn Darwiniaeth, mae’r cyhoedd, mewn ambell i wlad, yn fwy cyndyn. Mae dros 50% o Brydeinwyr yn dweud y dylid dysgu creadaeth ochor yn ochor efo esblygiad mewn gwersi gwyddoniaeth. Dwn i’m pa fath o wersi fyddan nhw: rhai byr, debyg, gan nad oes yna iot o dystiolaeth yn dangos bod Genesis 1 yn llythrennol gywir, fel y taerai’r creadyddion.

Mae rheswm a gwyddoniaeth yn brwydro’n ôl, ond mae hi’n mynd yn anodd ar sawl cownt. Mae llyfray gwych wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar: “The Greatest Show On Earth” gan Richard Dawkins, ac “Why Evolution Is True” gan Jerry Coyne – llyfr yr ydw i’n ddarllen ar hyn o bryd.

Ond pam bod pobl mor gyndyn i dderbyn esboniad Darwin? Does yna neb yn amau Theori Germau, sy’n esbonio sut y mae afiechydon yn lledaenu. does yna neb y amau theori Einstein am y bydysawd. Does yna neb yn gwrthod Theori Disgyrchiant. Pam? Maen nhw’n union fel Theori Esblygiad Darwin: esboniadau o sut mae pethau’n gweithio; esboniadau sydd yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth.

Wrth gwrs, mae Darwiniaeth yn wahanol mewn un ffordd: mae hi’n theori sy’n cyfeirio ata ni, at ein bodolaeth, at ein gwreiddiau – ac mae hi’n esboniad sy’n datgelu nad ydan ni ddim mor bwysig ac yr ydan ni’n hoffi meddwl ein bod ni.

Ond y gwir yw, rydan ni’n brimat, rydan ni’n famal, rydan ni’n fertebriad, rydan ni’n gordogion, rydan ni’n anifeilaid, rydan ni’n ewcarya … yn ewcarya fel pýs, yn anifail fel pry, yn gordogion fel “hagfish”, yn fertebriad fel crocodeil, yn famal fel morfil, yn brimat fel tsimpansî.

Dyna sy’n wefreiddiol i mi. Dyna sy’n fawreddog. Y ffaith ein bod ni’n perthyn i bob dim byw – a bob dim sydd erioed wedi byw – ar y ddaear. Ac yn hytrach na gorfod credu’r peth heb sail, dibynnu ar ffydd, mae ganddo ni brawf i ddangos hyn – mewn ffosiliaid, mewn DNA, mewn bio-daearyddiaeth ac yn y blaen.

Ond efallai mai dyna ydi’r broblem. Tydan ni – neu’r rheini yn ein mysg sy’n gwrthod derbyn bod theori Darwin yn ffaith – ddim yn barod i dderbyn nad ydan ni’n ddim mwy nac anifail – neu hyd yn oed ewcarya.

Advertisements