DYCHWELODD yr ellyllon, eu gwichian annioddefol yn hollti’r tawelwch oedd yn cymylu bywyd Stan Jones.

Ni symudodd yr hen ddyn o’r gadair freichiau lychlyd. Syllodd ar y llun ar y pared: dyna’r unig arwydd o’r hapusrwydd brofodd Stan yn ystod ei fywyd.

Neidiodd ei galon wrth i’r ellyllon bastynu drws ffrynt y fflat. “Cast ynteu ceiniog? Cast ynteu ceiniog?” gwichiodd yr haid.

Wedi drymio a gweiddi’n hir cawsant lond bol. Ond roedd ’na faint fynnir fel Stan fyddai’n barod i ateb eu galwad er mwyn cael llonydd rhag yr herio. Anadlodd Stan yn hir wrth werthfawrogi’r tawelwch. Teimlodd bwysau cynnes yn gwthio’n erbyn ei goes. Plygodd yn ei flaen, ei esgyrn yn swnian wrth iddo symud. Dechreuodd y gath fewian tra’n mwytho’i meistr. Crafodd Stan gefn ei gwddw efo’i fys a dechreuodd yr anifail ganu grwndi.

Ei chath hi oedd Saran. Efallai fod yr anifail, fel yntau, yn teimlo’i cholled heno’n fwy nac ar unrhyw adeg yn ystod y deuddeg mis aeth heibio ers ei marwolaeth.

Ni ddylai Mair fod wedi codi o’r gwely’r noson honno i ddwrdio’r plant ac i’w herlid o’r rhiniog. Roedd hi’n symol. Bu hi yng nghlwm i’r gwely ers misoedd. Roedd Stan, fel heno, wedi aros yn ei gadair a chloi’r str o’i ben.

Roeddan nhw’n dod pob blwyddyn. Ond fel arfer byddai Mair yn llwyddo i ddychryn y diawlad, rheini’n credu mai gwrach oedd hi.

Ond y noson honno, flwyddyn yn ôl, ni fyrlymai’r un nerth drwy’i gwythiennau. Ac ar ôl iddi agor y drws ffrynt yn ei choban a hel y plant am adre, syrthiodd i’r llawr yn cydio’i brest.

Yno, ar stepan y drws, yn ei freichiau, a chymdogion yn cerdded heibio’r ochor arall, y bu farw Mair.

Llithrodd y bywyd ohoni’n ara deg, ei geiriau’n ei gysuro drwy’r boen, yn addo na fyddai byth yn ei adael, y byddai yno’n fythol.

Lle’r oedd hi felly? Yn pydru fel pawb arall.

Rhwbiodd y gath yn ei erbyn eto. Eisiau bwyd oedd mei ledi. Ond crwydrodd meddwl Stan o stumog wag Saran tua’r pared unwaith eto. A syllu ar y llun: dyn ifanc, ei wallt yn ddu ac yn drwchus, gwen ddisglair ar ei wyneb, yn smart yn ei siwt dywyll; merch yn ei harddegau hwyr, gwefreiddiol yn ei gwyn, yn gwenu fel y dyn wrth ei hymyl.

Tynnwyd y pictiwr hanner canrif a mwy yn ôl. Syllodd Stan i fyw llygaid ei wraig oedd wedi ei rhewi mewn du a gwyn yn bedair-ar-bymtheg oed. Ni newidiodd y llygaid rheini mewn hanner-can mlynedd. Roeddan nhw’n fyrlymus, yn fyw, yn ddireidus, yn ffyrnig, yn dyner. Wrth i’r corff wanio, wrth i’r esgyrn freuhau, wrth i’r croen sigo, arhosodd y sbarc yn y llygaid tywyll.

Dyna pam y bu’r sibrwd y tu ôl i lenni caeëdig; dyna pam oedd hen ferched yn hel slecs yn eu boreau coffi; dyna be oedd yn cynnal y sgwrs ar dripiau Ysgol Sul: y llygaid a’r modd y cânt eu defnyddio.

“Mae hi’n un efo’r Diafol,” medda nhw, “yn halogi’r ifanc law yn llaw â’r grymoedd tywyll sy’n ei harglwyddiaethu; yn tywys y diniwed i Uffern.”

Er i’r hen gymuned honno wywo, roedd y clecs yn cael eu cynnal; ond sbeit yn fwy nac ofn oedd yn hysio’r erlidwyr newydd.

Roedd amrannau Stan yn drwm. Dechreuodd bendwmpian. Roedd blinder yn pwnio. Rhyw hedd yn ei gofleidio. Llithrodd i dir neb.

Drwy furiau trwchus cwsg roedd o’n ymwybodol o synau, ond yn rhy flinedig i agor ei lygaid a gweld. Llanwyd ei feddyliau â chwyrnu isel, fel drws mawr yn cael ei agor.

Wrth iddo anadlu daeth aroglau gwahanol i rai llaith y fflat i’w ffroenau: awyr iach, blodau, perlysiau, i gyd yn goglais ei synnwyr. Teimlodd awel yn sleifio i fyny coes ei drowsus, yn cosi ei drwyn, yn mwytho’i freichiau. Yn y tywyllwch tu cefn i’w amrannau roedd lliwiau’n ymddangos: yn goch, yn las, yn wyrdd, yn felyn, i gyd yn plethu i’w gilydd.

A drwy’r lliwiau, drwy’r aroglau, daeth llais.

Llais oedd yn gyfarwydd iddo bron drwy gydol ei fywyd; llais llyfn fel melfed; llais brwnt yn ei alw’n bob enw dan haul; llais tawel yn maddau’i holl feiau; llais nwydus yn addo’r byd ac yn cyflawni’r addewidion.

Mair.

A thrwy’r lliwiau, ei llais yn galw’i enw, y daeth hi. Yng ngwyn ei ffrog briodas, ei gwallt du’n chwipio tu cefn iddi fel hwyliau rhyw gwch tywyll ar fôr ei freuddwydion.

Teimlai Stan ei hun yn deffro. Ond doedd o ddim am ddeffro. Doedd ganddo’r un awydd dychwelyd i’r byd lle’r oedd ei fflat unig fel beddrod, lle’r oedd y strydoedd yn ffyrnig, lle’r oedd pobol yn greulon ac yn ddi-gariad.

Roedd ei amrannau’n agor. Brwydrodd yr ystum. Ond ni fedrai orchfygu ei lygaid oedd am weld y boen oedd yn ei fyd.

I ddechrau, credai mai delweddau o’i freuddwyd oedd wedi aros yn ei ddychymyg. Ond wrth iddo arfer eto â’r goleuni medrai weld fod y freuddwyd honno – os mai breuddwyd oedd hi – wedi dianc o’i isymwybod.

Safai Mair o’i flaen, y ffrog briodas wen yn glir fel eira newydd, y gwallt du’n sgleinio, a’r llygaid rheini’n dawnsio ac yn temtio.

Tu ôl iddi, lle bu unwaith pared o blaster maluriedig, roedd coedwig o’r gwyrdd puraf o dan awyr las berffaith, a mwydodd arogleuon y byd hwnnw ei ffroenau.

“Tyrd efo fi, Stan,” medda Mair, ei llais nid o’r corff o’i flaen ond o’r byd tu hwnt i’r wal. “Tyrd efo fi.”

Cyrhaeddodd ei wraig farw law tuag ato.

“Tyrd efo fi, Stan. Dwi i ’di ddad o bell. Tyrd efo fi,” medda Mair eto, gwen yn llachar ar ei hwyneb.

Cyrhaeddodd law tuag at ei llaw.

Sut deimlad a fyddai i’r cnawd marw?

Plethodd ei fysedd yn rhwydd i rai Mair.

Cynnes, tyner.

Cododd o’r gadair freichiau heb gwyn gan yr esgyrn, heb str gan y cyhyrau.

Trodd Mair a thywys ei gŵr gweddw i’r byd o’r lle doth hi.

Wrth ddilyn ei wraig ar hyd llwybr o ddail crin oedd yn crenshian o dan ei draed, syllodd Stan i fyny tua’r coed uchel o’u cwmpas. Roeddan nhw’n anferthol, yn fath anghyfarwydd i Stan, yn ymestyn i liw glas croesawus y ffurfafen. Yn yr awyr oedd yn denu’r coed roedd adar o bob lliw a llun yn hedfan ac yn canu, eu synau’n beraidd fel swn seirenau, yn flysiog ac yn synhwyrol.

Crwydrodd ei lygaid tua’r gorwel, ei olwg yn gwibio dros gaeau gwyrdd ac arnynt bytiau o liw.

Ar un cae roedd carped o goch. Yn sydyn, cododd y coch hwnnw o’r gwyrdd. Ochneidiodd Stan wrth i’r glöyn byw ymysgwyd i’r nefoedd yn un haid. Gwyliodd wrth i’r cwmwl coch ddatgymalu, miloedd o blu yn mynd eu ffordd eu hunain yn y glas.

Bob hyn a hyn, yn torri ar wyrdd y dirwedd, roedd drychau perffaith wedi eu glynu i’r tir. Ac ar ymylon rhai o’r llynnoedd rhain roedd adar lliwgar, adar oedd yn ddiarth i Stan ac i’r byd llwyd lle’r oedd o’n byw. Cododd un o’r adar i’r awyr, ei adenydd mawr yn brwsio’r aer yn dyner wrth iddo hedfan tua’r gorwel.

Cyrhaeddodd llygaid Stan Jones yr un gorwel. Gwelodd y mynyddoedd. Pwniant awyr las, cadwyn o greigiau a ledaenai o’r dwyrain i’r gorllewin.

Daeth Stan a Mair drwy’r coridor o goed ac i giât bren. Edrychodd Mair arno a gwenu,u cyn gollwng ei law a dringo i’r cae’r ochor arall. Trodd i’w wynebu.

“Tyrd,” medda hi gan ystumio iddo’i dilyn.

Dringodd yntau.

Gwyliodd wrth iddi redeg tuag at y llyn oedd yn glasu gwyrdd y cae. Rhedodd – do, mi redodd o! – ar ei hôl.

Roedd hi’n eistedd ar un o ddwy graig fechan ar ymyl y llyn pan gyrhaeddodd Stan hi. Eisteddodd ar y llall a gafael yn llaw ei wraig.

Cyffyrddodd Mair yn ei foch. “Dwi ’di dod o bell,” medda hi eilwaith. “Sut fedrwn i d’adael di a chdithau’n brifo gymaint, fy nghariad annwyl i?” Rhwbiodd ei llaw ar ei glun. “Fel hun wyt ti’n fy nghofio i, ac fel hyn –”

Safodd Mair a’i dynnu tua’r dŵr. Edrychodd Stan i’r llonyddwch. A dal ei wynt.

“ – ac fel hyn dwinna’n dy gofio di.”

Yn y dŵr clir roedd cwpwl cyfarwydd. Un ohonynt, Mair Jones, yn bedair-ar-bymtheg oed ar ddiwrnod ei phriodas. Edrychodd arni. Ac yna ar ei hadlewyrchiad. Ac yna tua’r adlewyrchiad arall: y dyn ifanc a’i wallt du trwchus yn chwifio’n y gwynt, ei siwt ddu’n glasurol ac yn amserol yn ei thro.

Cododd Stan ei law chwith a’i dal o flaen ei wyneb. Roedd hi’n hen, yn grebachlyd, wedi ei mapio gan lonydd amser. Cipedrychodd ar y dyn yn y llyn. Roedd o’n dynwared yr ystum. Yr unig beth oedd yn gyfarwydd i’r ddwy law oedd y fodrwy briodas.

Yn y drych, gwelodd Stan fod llaw Mair yn lapio’n dyner am wddw’r adlewyrchiad. Trodd Stan i’w hwynebu wrth i’r fraich dynhau amdano. A roeddan nhw’n cusanu fel y cofiodd ei chusanu amser maith yn ôl.

Ac o hynny, cyrff yn gwasgu at ei gilydd; dwylo’n crwydro cyrff; cyrff yn plethu; cyrff yn uno; cnawd mewn cnawd; chwys a griddfan, a chyrraedd ffin a chroesi ffin; a syrthio i’r ddau begwn lle mae cyrff yn colli rheolaeth – dim ond mewn dau le, ar ddwy groesffordd: rhyw a marwolaeth.

Ar garped o wyrdd, roedd y ddwy lôn rheini yn mwydo i’w gilydd.

Ond ar y gorwel, pylodd y golau.

I ddechrau, mymryn o ddu yn y glas uwch begwn y mynydd ucha.

“Rhaid i mi fynd,” medda Mair, ofn yn ysgwyd ei llais.

Roedd Stan am wybod pam? Be oedd ar ddod? Pwy oedd yn ei bygwth?

“Nid fan hyn ’di’n lle i, cariad. Nid fan hyn ’dw i fod,” medda hi fel tasa hi wedi synhwyro’i bryder.

Gafaelodd Stan yn ei breichiau, am ei chadw yma yn y nefoedd newydd ’ma, yn ei freuddwydion.

“Na,” medda’i wraig gan drïo torri’n rhydd o’i afael.

Syllodd Mair tua’r gorwel. Roedd y mymryn du’n fwy, cwmwl o dywyllwch yn hollti i’r goleuni.

Dechreuodd y gwynt godi. Bu bron i Stan gael ei chwipio i’r llawr. O’i gwmpas roedd dail yn sgrialu, yn dawnsio dawns wyllt ar y gwynt, ac yn chwyrlio tua’r du bygythiol hwnnw oedd wedi newid pob dim.

Tyrd efo fi! Aros efo fi! oedd y geiriau yn ei feddwl, fynta’n gwrthod gollwng ei wraig farw.

Roedd y gwynt yn cryfhau, gwallt Mair, a’r ffrog briodas, yn chwipio’n ffyrnig. Roedd ei wraig yn crïo.

Clywodd Stan sgrechian yr adar wrth iddynt gael eu cythru gan y grym a ddeuai o’r fagddu, eu llusgo o’r baradwys i’r pydew.

I’r dwyrain, rhwygwyd haid o löyn byw melyn oddi ar gae gwyrdd, a throellodd y creaduriaid tua’r twll tywyll, fel llwch yn cael ei sugno i lanhawr grymus.

Edrychodd Stan o’i gwmpas, ei galon yn carlamu, ei afael ar ei wraig yn gwanio. O’r tu cefn iddo gwibiodd y coed enfawr, wedi eu rhwygo o’u gwreiddiau gan rhyw Oliath, ac yn saethu fel rocedau natur tua’r düwch ar y gorwel.

Roedd yr holl fyd yn cael ei lyncu.

Dechreuodd sgrechian wrth i Fair, hefyd, gael ei rhwygo o’i afael, ei llaw yn llithro o’i law.

Syrthiodd ar ei liniau, y baradwys yn rhuthro heibio i’w glustiau ond i ddiflannu i bwll diddiwedd. Cododd y dyfroedd clir o’r ddaear fel tyrrau gwydr. Maluriwyd y tir gwyrdd a’i hyrddio’n dalpiau drwy’r awyr.

Collodd ei afael ar Fair.

Am eiliad, crogai hi yn yr awyr, edrychiad o ymbil ar ei hwyneb, ei breichiau wedi eu lledu fel tasa hi am ei gofleidio, y cwmwl du oedd yn ei mynnu’n lleugylch iddi.

Ac yna ffrwydrodd Mair yn fil o betalau du, y petalau’n sgrialu ar y gwynt grymus, gwaedd Stan yn eu herlid.

Claddodd ei wyneb ym medd ei ddwylo wrth i’r storm ruo o’i gwmpas, ei fyddaru  … ei wadu: doedd ’na ddim lle iddo fo yn ei chrombil.

Ac yn ddirybudd, o galon y swn afreolus – tawelwch. Llethol. Yn torri fel llafn. Datguddiodd ei lygaid a syllu o gwmpas y fflat. Ogleuodd y lleithder. Yn y pellter clywodd herio’r plant: “Cast ynteu ceiniog? Cast ynteu ceiniog?”

Ar y pared o’i flaen, fynta’n eistedd fel cadach yn y gadair freichiau ddarniog, roedd llun priodas: Stan a Mair Jones; cwpwl ifanc; cwpwl hapus; dau yn un ar ddiwrnod perffaith.

Daeth iselder drosto fel ton, ei olwg yn gwyro o’r llun tuag at Saran oedd yn rowlio ar y carped islaw’r llun priodas. Roedd hi wedi cael gafael ar fymryn o rywbeth ac yn diddanu ei hun, yn troelli’r peth yn ei phawennau.

“Saran,” medda fo. “Tyrd yma.” Roedd o’n ysu mwytho’r gôt a fwythwyd gant-a-mil gwaith gan Mair.

Ond ni chymerai’r anifail sylw o swnian ei meistr.

Roedd hi’n chwarae’n hapus, yn jyglo’r betal ddu rhwng ei phawennau.

Diwedd