Isle_of_Angleseymap_1946MAE Cyngor Môn byth a beunydd mewn direidi. Dwn i’m be sydd haru nhw, i ddweud y gwir. Dwi’n ynyswr fy hun. Ac fedra i ddim dychmygu be sydd ym mhennau rhai o’r cynghorwyr rheini, na fedraf.

Maen nhw wedi cael eu dwrdio eto, y tro hwn gan Brian Gibbons, y Gweinidog Llywodraeth Leol. Mae Mr Gibbons wedi rhybuddio rhai o’r cynghorwyr y galla nhw golli eu cyfrifoldebau os na fyddan nhw’n bihafio.

Wir Dduw, maen nhw fatha plant. Ond wyddoch chi be? Maen nhw wedi bod felly erioed, wir ichi.

Roeddwn i’n ohebydd ar yr Holyhead and Anglesey Mail ar ddechrau 90au. Mi fyddwn i’n mynychu cyfarfodydd cynllunio’r cyngor. Dyna i chi syrcas. Mi roedd gan gynghorau – ac mae ganddyn nhw o hyd, mae’n debyg – beth oeddan nhw’n alw’n “gynllun lleol”. Roedd y cynllun hwn wedi ei gytuno gan y cynghorwyr, a’i fwriad oedd gosod rheolau ynglŷn â pa fath o aneddau oedd yn cael eu hadeiladu, ac yn lle. Roedd y rheolau reit dynn, a digon teg: doedd yna neb am i rhywun rhywun godi tai ym mhob twll a chornel o’r ynys.

Yn anffodus, doedd y cynllun yn golygu fawr ddim i’r annwyl bwyllgor cynllunio. Roedd y swyddogion cynllunio druan yn syrffedu gweld y cynllun – oedd wedi ei gytuno gan y cynghorwyr yma – yn cael ei anwybyddu’n gyson.

Dyma i chi esiampl o sut oedd pwyllgor cynllunio Môn yn benderfynu oes oeddan nhw am ganiatáu cais cynllunio ai peidio – a mae hon yn stori wir:

Roedd unigolyn wedi rhoi cais i mewn i godi tŷ ar dir perthynas. Roedd y swyddogion cynllunio wedi awgrymu y dylid gwrthod y cais. Doedd o ddim yn cyd-fynd efo’r cynllun lleol (ydach chi’n cofio’r cynllun lleol?). Os dwi’n cofio’n iawn – mae bron i 20 mlynedd wedi mynd heibio, cofiwch – roedd yr adeilad mewn cae, ac reit ar ochor y ffordd – lle anhwylus ar y naw.

Beth bynnag, dyma’r swyddogion cynllunio druan yn dweud pam na ddylid rhoi’r “go-ahead” i godi’r tŷ. Roedd yna dôn siomedig yn lleisiau’r swyddogion pob tro, fel tasa nhw’n gwybod y byddai’r awgrymiadau rhesymol yma’n cael eu gwrthod gan yr aelodau.

A hei gancar, dyma’r aelod lleol yn codi ei lais. Un hen oedd o. Wedi bod yn aelod am flynyddoedd. Dyn digon hawddgar, dymunol, cwrtais. Ta waeth. Dyma’i ddadl o dros ganiatáu’r cais, ac mynd yn erbyn y swyddogion cynllunio:

Roedd yr ymgeisydd yn berson meddygol, yn berson lleol, ac wedi bod yn gymorth i’r aelod gyda’i drafferthion . . .

Wir i chi. Dyna i chi ddadl. Mi holltodd hi fel llafn drwy ddadleuon cynllunio’r swyddogion. A dyma rhyw hymian yn mynd drwy weddill y pwyllgor, a dyma’r breichiau i gyd yn codi i ganiatáu’r cais, a dyma pennau’r swyddogion yn syrthio drachefn . . .

Dwn i’m os ydi pethau wedi newid. Tydyn nhw ddim o be mae rhywun yn ei ddarllen. Ond dyna sut y byddai pwyllgor cynllunio’r sir (bwrdeisdref oedd hi’r adeg honno, wrth gwrs) yn delio efo ceisiadau cynllunio.

Advertisements