mairajoseff

Stori wneud ydi Stori’r Geni

Cefais sgwrs ddifyr efo Dei Tomos ar ei raglen Nos Sul. Os na gawsoch chi gyfle i wrando, dyma’r recordiad. Fi ydi’r peth cynta ar y sioe, felly nid oes rhaid i chi aros yn rhy hir.

Mae Dei yn ddarlledydd deallus a doeth. Mae o gyda gwir ddiddordeb yn y bobl mae’n sgwrsio gyda nhw. Yn amlwg mae o wedi ymchwilio’n fanwl cyn cychwyn unrhyw sgwrs – a dyna ydi hi: sgwrs; mae hi’n teimlo’n naturiol ac nid fel cael eich holi gan rhywun sydd yn darllen cwestiwn ar ôl cwestiwn oddi ar eu darn papur heb adael i’r trafod lifo, ac heb ddeall yr ateb.

Trafod fy nofel “Iddew” oeddan ni, ac roedd gan Dei ddiddordeb amlwg yng nghefndir y nofel. Wrth drafod Iesu Grist, un elfen o’r stori draddodiadol sy’n codi ei phen yw’r naratif geni. Rydan ni i gyd, fel plant, wedi cymryd rhan mewn pasiant ar gyfnod y Dolig, wedi’n gwisgo fel Joseff, neu angel, neu fugail, neu Fair, lliain llestri am ei pen. Mae Stori’r Geni’n cael ei chyflwyno fel pe bai hi’n un naratif Beiblaidd. Nid yw hi, wrth gwrs: stori wneud ydi hi; wedi cael ei asio o ddwy naratif: Matthew a Luc.

Mae yna elfennau ohoni sydd ddim hyd yn oed yn y Beibl o gwbl, ac fe gododd un ddelwedd Nadoligaidd bwysig ei phen yn ystod fy sgwrs efo Dei Tomos.

Mi gyfeiriodd Dei at yr ych a’r asyn, sydd yn bron pob darlun o Stori’r Geni, sy’n rhan allweddol o’r naratif. Y gwir amdani, nid oes hanes o naill ai’r ych na’r asyn yn yr Efengylau; nid yw’r un o’r anifeiliaid yma’n ymddangos yn naratif Matthew na naratif Luc.

O lle do’n nhw felly? Wel, mae cyfeiriad yn Eseia 1:3, ‘Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog’, ac nid yw’n anghyffredin i awduron yr Efengylau gloddio’r proffwydi wrth geisio cyfiawnhau beth bynnag maent yn geisio gyfiawnhau am Iesu. Fe gloddiodd Matthew stori gyfan Moses wrth geisio cyflwyno Iesu fel y Moses Newydd. Ond nid yw naill na’r ych na’r asyn yn ymddangos yn yr Efengylau.

Maen nhw’n ymddangos am y tro cyntaf mewn efengyl o’r enw “Pseudo-Matthew” ysgrifenwyd yn gynnar yn y 7fed Ganrif O.C. ― 600 mlynedd ar ôl y geni honedig ym Methlehem, Jwdea.

Efengyl Geni yw “Pseudo-Matthew” sydd wedi defnyddio efengylau geni Tomos a Iago fel ffynhonellau, Nid yw, wrth gwrs, yn rhan o’r canon ac ni fuo fyth yn rhan ohono. Ond nid yw hynny wedi atal Cristnogion rhag hawlio elfennau o’r efengyl i greu Stori’r Geni.

Waeth  i ni fod yn onest a derbyn mai chwedlau a straeon yw’r mwyafrif helaeth o gynnwys yr Efengylau. Mae hi’n amhosib bron dadlau mai dogfennau hanesyddol ydyn nhw. Ni ellid cyfiawnhau credu’n llythrennol, yn enwedig naratif y geni. Nid oes tystiolaeth i gefnogi’r digwyddiadau. Dim ond Matthew, er enghraifft, sy’n adrodd stori Herod yn gorchymyn bod pob bachgen o dan ddwyflwydd oed yn cael eu lladd. Digwyddiad mor ysgytwol, a does yna neb arall yn y byd ar y pryd yn cysidro’i gofnodi ― dim hyd yn oed Luc yn ei naratif geni o! Wrth gwrs, mae’r stori yma wedi ei chloddio o stori Moses, sy’n chwedl ynddi ei hun. Felly rhaid cydnabod mai straeon gwneud ydi’r rhain, ac nid yw hyd yn oed Luc a Matthew yn cysoni.

Beth bynnag, dwi ddim yn credu y bydd hyn yn rhoi terfyn ar berfformiadau o Stori’r Geni’n mewn capeli ac ysgolion. Ac ni ddylai ffeithiau wahardd chwedl, cyn belled a’n bod ni’n cydnabod mai chwedl ydi hi. Felly bydd angen y lliain llestri am dro byd eto.

Advertisements