DEFFROWYD Carys gan fellten o fraw yn tanio’n ei brest. Neidiodd ar ei heistedd yn y gwely. Ni wyddai lle’r oedd hi am eiliad, nos yn ei dallu.

Galwodd arno: “Bryn? Bryn, lle’r wyt ti?”

Ddwy awr yn gynharach, roedd Bryn yn ceisio hollti’r drws yn y seler ar agor gyda throsol.

Roedd Bryn wedi tynnu’r arwydd dim mynediad: eiddo preifat oddi ar fynedfa’r seler, ac wedi pigo’r clo gyda thyrnsgriw.

Dilynodd Carys ef i lawr y grisiau i’r seler gan edrych o’i chwmpas: tamprwydd yn diferu o’r pared; gwe pry cop yn llenni trwchus o’r nenfwd; arogl llychlyd, hynafol.

Crynai Carys wrth sefyll wrth droed y grisiau. Dywedodd, “Mae’r lle ’ma’n anghynnes.”

Astudiai Bryn ddrws oedd ym mhen pella’r seler. Roedd sment yn y bwlch rhwng y drws a’r ffrâm. Roedd glud wedi ei chwistrellu i’r clo. Doedd dawn Bryn i bigo clo’n da i ddim.

Gweithiai Bryn a Carys i gwmni teledu oedd yn cynhyrchu rhaglen o’r enw Hela Bwganod. Sioe lle treuliai griw teledu noson mewn “tŷ ysbrydion”. Yn anffodus, roedd gwylwyr yn gyfarwydd â’r lleoliadau – tafarndai, cestyll, carchardai; ni fedrai’r rhaglen gynnig dim byd newydd.

Ac yna daeth Bryn ar draws Carnau’r Diafol. Tŷ yng nghrombil Y Mynyddoedd Duon, yn Sir Fynwy. Dim hanes o’r lle yn llenyddiaeth yr “helwyr bwganod”, dim ond ambell i gyfeiriad mewn llyfrau lleol oedd heb werthu mwy na hanner dwsin o gopïau.

“Maen nhw’n dweud nad oes ’na neb wedi byw mwy nac wythnos yno,” meddai Bryn wrth Carys yn ystod ei ymchwiliad, “ac mae sôn fod rhai wedi diflannu tra’n treulio’r noson yno. Maen nhw’n dweud bod Satan yn byw yno. Ond pam Carnau’r Diafol, sgwn i?”

Cafwyd trafferth yn dod o hyd i berchennog Carnau’r Diafol. Yn wir, hen sgerbwd o ofalwr o’r enw Jôs fuo’n bargeinio gyda Bryn. “Enaid preifat ydi’r perchennog,” oedd sylw Jôs, “ond mae o’n hoffi meddwl bod bywyd yn yr hen le o dro i’w gilydd, ac am bris teg mi gewch chi aros noson.”

A dyna i chi bris teg!

“Swllt neu ddwy, efallai?” meddai’r hen Jôs.

“Can punt,” meddai Bryn.

“Bargen,” oedd ymateb y sgerbwd.

Rhegodd Bryn ar ôl talu: “Taswn i wedi bod o gwmpas fy mhethau mi faswn i wedi cael aros yno am y nesa peth i ddim.”

Punt neu gan punt, pa wahaniaeth? Roedd Carys wedi cael llond bol. Edifarhaodd iddi ddod i’r ffasiwn le gyda’i bos. “Tyrd a dy wraig y tro nesa,” meddai wrtho tra’i fod o’n ceisio trosolio’r drws oddi ar y ffrâm.

Ac yna roedd cydyn o fwg melyn wedi rhubanu o dan y drws.

Crychodd Carys ei thalcen a dweud, “Bryn . . . ”

Trodd arni, ei wyneb yn ffyrnig. “Mi ddo i a fy ngwraig y tro nesa, mae hi’n llai o swnan na chdi. Cer i dy wely.”

Rhwygodd ei ymosodiad sylw Carys oddi ar y mwg. Trodd a rhuthro o’r seler gyda briw ar ei chalon.

Ni welodd y mwg melyn yn lapio o amgylch coesau Bryn . . .

Neidiodd Carys o’r gwely rŵan, braw yn oer yn ei brest.

Galwodd ar Bryn. Ni ddaeth ateb. Roedd y tawelwch yn drymaidd.

Cydiodd Carys yn y fflachlamp oedd ar fwrdd wrth ochr y gwely. Cripiodd o’r stafell a mynd am y gegin lle’r oedd y fynedfa i’r seler. Holltodd pelydr ei fflachlamp y düwch. Melltithiodd Carys y diffyg trydan yn yr adfail.

“Bryn . . . Bryn . . . paid â chyboli, rŵan . . . ”

Daeth at yr agoriad i’r seler. Sgleiniodd y fflachlamp ar yr arwydd oedd Bryn wedi ei dynnu oddi ar y drws.

Diferodd y nerth o’i choesau, ond mentrodd roi un troed o flaen y llall a chamu i lawr grisiau’r seler.

Galwodd ar Bryn ac yna gwingo rhag y drewi oedd yn drwchus yn ei ffroenau: drewi sur. Bu bron iddi chwydu.

Chwipiodd olau’r fflachlamp ar draws y seler.

Stopiodd yn stond a dal ei gwynt.

Gorweddai’r trosol ar y llawr, troedfedd oddi wrth y drws y fuo Bryn yn ceisio’i agor gyda’r teclyn . . .

Y drws oedd nawr . . .

Camodd Carys yn ei hôl, rhyw duchan tila’n dod o’i chorn gwddw.
. . . ar agor!
 
Chwyrliai mwg melyn o gwmpas yr agoriad.
Syrthiodd Carys ar ei eistedd ar risiau’r seler. Disgleiriodd y pelydr at y drws. Ond doedd y fflachlamp yn dda i ddim. Roedd y golau fel petai’n swatio’n ofnus rhag y fagddu oedd y tu hwnt i’r agoriad.

“Bryn . . . Bryn . . . ” meddai, prin yn gallu siarad. Crynodd Carys, ei hesgyrn yn rhewi. Roedd dagrau’n tollti dros ei bochau. Dechreuodd Carnau’r Diafol ysgwyd, llwch yn glawio oddi ar pared y seler, sylfaeni’r adfail yn griddfan.

Roedd corn gwddw Carys wedi cloi: ni fentrai swn nac anadl ar hyd y lôn goch.

Atseiniodd chwerthiniad erchyll o’r fagddu.

Y peth diwethaf y cysidrodd ymennydd Carys cyn iddo luwchio’n frychau o wallgofrwydd oedd y cwestiwn a holodd Bryn:

“Pam Carnau’r Diafol, sgwn i?”

A daeth yr ateb ar swn daranau o’r tywyllwch.

Arhosodd Carys fel delw wrth i rywbeth dychrynllyd ruo o’r pydew i’w hawlio.

Y DIWEDD