200px-Daniel_Owen

Daniel Owen: Be fyddai awdur Enoc Huws and Gwen Tomos wedi feddwl am Iddew?

Bydd fy nofel am Iesu (neu Yeshua, fel dwi’n ei alw fo, i roi iddo ffurf cywir ei enw) yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn yn 2016.

Mae “Iddew” yn portreadu taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth, ac mi gafodd hi glod gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Roedd hi’n un o ddwy oedd yn ysgarmesu am y wobr. Mi fuo yna “lawer o drafod”, meddai’r beirniad, am “Iddew” gan Kata Markon(fi)  a nofel Abernodwydd, “Veritas”.

Erbyn hyn, mi wyddwn ni mai Mari Lisa enillodd am ei “Da Vinci Code” Cymraeg, ac mae hi’n haeddu cael ei llongyfarch – hon oedd ei nofel hir gyntaf ac mi hitiodd hi’r jacpot!

Beth bynnag, roedd dau o’r beirniad wedi hoffi “Iddew” yn arw gyda un ohonyn nhw – Dewi Prysor – yn ei disgrifio fel “nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy’n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd”. Ewadd, dyna eiriau mae unrhyw nofelydd am eu clywed. Ro’n i ar i fyny.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

Atgofion_Capel_a_Ty_Capel_Ebenezer,_Rhosmeirch_963462

Capel a Tŷ Capel Ebenezer, Rhosmeirch gan Eric Jones/Wikimedia Commons

Gofynnwyd i mi ddechrau’r flwyddyn gyfrannu erthygl i lyfr oedd yn cael ei gyhoeddi am Gapel Ebenezer, Rhosmeirch.  Capel yr Annibynnwyr ydi o, ac yr un hynaf ar Sir Fôn, yn deillio’n ôl ir 17eg Ganrif. Beth bynnag, hwn oedd fy nghapel i pan oeddwn i’n blentyn. A dyma be sgwennis i ac be gafodd ei gyhoeddi…

Cymdeithasol ydi capel. Lle i gymuned gyfarfod. Lle i gyfeillion gyfannu.

Mae’r elfen grefyddol yn bwysig i sawl un, bownd o fod. Ond ein greddfau cymunedol sy’n ein gyrru ni, heb i ni wybod, i fynychu addoldai, does gen i ddim dowt am hynny. Darllen gweddill y cofnod hwn »

800px-Francois_Dubois_001

Lladdfa Dydd Sant Bartholomew yn 1572; Cristnogion yn dwrdio, miloedd yn marw

Mae’r rheini sydd yn fy nilyn i ar Twitter yn gwybod fy mod i’n anffyddiwr di-flewyn-ar-dafod. Mi dwi’n taeru’n aml efo Cristnogion¹, y rhan fwyaf ohonyn nhw o enwadau Ffwndamentalaidd, a llawer greadigwyr – sef eu bod yn credu’n llythrenol  yn Genesis: y bydysawd wedi ei greu mewn chwe niwrnod tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl; esblygiad yn ddim ond y gelwydd Satanaidd.

Darllen gweddill y cofnod hwn »

MAE hi’n dros fis bellach ers i mi gymryd rhan yn Sherman Swingers. Noson ddifyr ond flinedig yng Nghaerdydd. 20 awdur, 20 cyfarwyddwr, 40 actor. Didolwyd ni yn dimau, danfonwyd ni i safle o fewn y Sherman. Fy actor i oedd Siw Hughes; fy nghyfarwyddwr oedd Beca Lewis Jones; fy safle, y gweithdy. Gadawyd fi – a’r 19 awdur arall – yn y Sherman dros nos i gynhyrchu monolog 5 munud (i gychwyn, ond bu’n rhaid hacio i lawr i 3). Perfformiwyd yr 20 monolog ar y Nos Sul. Beth bynnag, dyma fu’n i, ER EI LOSGI, a gyda llaw, cyn i chi ddarllen ymlaen, mae yna ddelweddau styrblyd yma, felly os oes gas ganddoch chi bethau anghynnes, peidiwch â darllen ymlaen.

ER EI LOSGI

(Gwyther, crefftwraig mewn creulondeb, wedi ei gwisgo heb flewyn o’i le. Mae hi’n cymryd ei gwaith o ddifri, ac yn berffeithwraig)
GWYTHER:       Persawr. Persawr, medda fo.
 Trwy ei ddiodde… TRWY EI DDIODDE
. Wedi ei raffu i’r sgaffald
… Persawr… 
Nid rhywbeth mae rhywun yn fy swydd i yn ddisgwyl i glywed
… NA, fel arfer…
(Fel pe bai’n diodde artaith)
NA—NA—NA—
(Saib)
Ond nid: persawr…
Ei lais… er ei…
Crebachlyd. 
Y syched wedi achosi hynny. 
A’r cortyn ro’n i’n dynhau am ei gorn gwddw, dow dow, yn ystod yr holi
(Yn grebachlyd, yn dynwared)
Mi da chi’n gwisgo persawr, medda fo, ac yna:
 Allwn i mo’i arogli o ar y cychwyn wrth i chi glipio’r electrodau i’m blagur bronnau; yn anffodus bryd hynny roedd rhenc fy nghroen yn rhostio a drewi sur fy mhiso yn hollbresennol
(Saib; dryswch ar ei hwyneb)
Ei ddweud mor ddi-lol
… Mi sgytiodd fi. Yn fa’ma
(Cyffwrdd ei stumog)
Lle dwi’n solat.  Prentisiaeth a choleg wedi haearnu’r perfedd.  Arferais yn fuan ag erchylltera…
Y torri a’r llosgi a’r mygu a’r tagu
Y boen sydd yn bwysig. 
O’r boen y daw’r gwir
. O’r boen y daw rhyddid
. O’r boen y daw — mae gen i brentis eleni ac mae o’n un diflas ar y naw.  Diog a chwit-chwat.  Ylwch mewn difri
(Edrych o’i chwmpas)
Mae prentis i fod i gadw’r gweithdy’n lan, llnau’r distryw oddi ar yr offer ac
(Yn syth, heb oedi o’r deialog uchod, mae hi yn gweiddi trwy’r drws)
YLI’R LLANAST MA’R LLO DWYT TI DDIM FFIT TYRD YMA I LYFU’R LLWCH O’R LLAWR LLE’R WYT TI MI’TH FLINGA I DI
(Saib; dod at ei hun)
Natur ffyslyd sydd yn ffitio artaith orau
Os mai fel hyn bydd o ddysgith o byth sut i fod y grefftiwr poen
(Saib)
Elizabeth Arden
(Rhwbio ei garddwrn ar ochor ei gwddw ac yna arogli ei garddwrn)
Persawr brynodd hen gariad i mi gynta chwarter canrif yn ôl a dim ond aelodau’r Blaid oedd yn medru fforddio’r ffashiwn…
Be ddaeth ohono fo, sgwn i? 
Ei ddifa yn Y Didoli Mawr?
 Neu lasa bod ei galon wedi newid cwrs a datgymalu o’n un i
(Codi ei ysgwyddau)
Dim ond… pen bys yn fa’ma
(Cyffwrdd ei gwddw)
Ac yn fa’ma
(Cyffwrdd ochor arall ei gwddw)
Ac e’lla…
(Cyffwrdd ei brest)
Dyna i gyd. Diferyn. Diferyn bach o —
(Saib)
Yma rydan ni’n cerfio’r dyddiau ddaw o gymalau ein gelynion
. Yma rydan ni’n tolcio yfory i’w hesgyrn
. Yma rydan ni’n serio’r byd newydd ar eu cnawd. 
Ond nid y dyfodol yn unig sy’n cael ei asio yma
. Na
. Y gorffennol hefyd
. Naddu ddoe newydd
. Ein hanes gwir
. O’r anafu y daw hynny
(Saib)
Arogli fy ngwddw ddaru o mae’n rhaid wrth i mi blygu a sibrwd yn ei glust mai dyma’r tro DWYTHA y baswn i’n gofyn am leoliad cuddfan ei gyd-fradwyr
(Sibrwd)
Dweud wrtha i lle mae nhw dweud ac mi gei di weld dy ferch fach mae hi’n ymbil am Dadi dweud wrtha i lle mae nhw —
(Saib)
Ac er ei losgi…
(Crebachlyd)
Mi da chi’n gwisgo persawr…
(Saib)
A dyna ni
. Dadmerais, do. 
Am foment
. Dadmerais drosto ei lygaid gwyrddlas ei anadl ar fy moch a’i lais yn treiddio trwydda i yn plethu fy nerfau a gweu tuag at fa’ma
(Cyffwrdd ei stumog.  Ochenaid awchus)
Y fo a fi?
(Chwerthiniad chwerw)
Mewn byd gwahanol, e’lla…
Byd sy’n arogli o ddiodde rhywun arall…
(Arogli ei garddwrn yn ddyfn)

DIWEDD

Lowri Haf Cooke ddisgrifiodd fi, neu efallai fy nrama Llwch O’r Pileri, fel “Saunders Lewis ar speed” yn ei adolygiad o Trwy’r Ddinas Hon ar ei blog. Dwi’n hapus iawn i dderbyn y disgrifiad yna ar ran fy nrama.

Dwi’n dallt be sydd gan Lowri: mae’r ffordd dwi’n sgwennu yn cymryd anodd i fynd i’r afael âg o, weithiau. Dwi’n cogio bod yn rhyw hanner bardd (neu ella chwarter un) wrth sgwennu drama. Wel, dyna sut y dyla drama fod. Sgen i ddim diddordeb yn y naturiolaidd. Mae hynny yn ddiflas i mi. I be dwi isio clywed pobol yn siarad fel maen nhw’n siarad ar y “stryd”?

“Roedd na rywbeth go amwys am bob un o’r cymeriadau, wnaeth atgyfnerthu’r olygfa olaf un i mi”, meddai Lowri. Dwi’n gobeithio. Tydw i ddim isio llunio cymeriadau “da” a “drwg”; mae hynny’n ddiflas i mi hefyd. Un peth dwi’n benderfynol o beidio wneud mewn drama ydi moesoli: dweud bod gweithred yn dda neu’n ddrwg. Fel hyn dwi’n gweithio: dwi’n gosod cymeriadau mewn sefyllfaoedd gormesol a gweld sut mae nhw’n ymateb. Dwi’m yn beirniadu o gwbl.

Hefyd dywedodd Lowri: “Daw’r ddrama rymus hon â’r noson i gloi gyda bang go iawn, a fersiwn wyrdroedig o Hen Wlad Fy Nhadau.” Oedd , mi oedd hi’n andros o ergyd, ac roedd nifer o’r gynulleidfa’n disgwyl amdani o’r cychwyn cynta ar ôl iddyn nhw ddarllen y rhybudd am “ergyd swnllyd” y tu allan Theatr 2.

“I fod yn hollol blaen,” meddai Lowri, “doedd gan Llwch o’r Pileri ddim byd i’w ddweud am Gaerdydd, ond digon i awgrymu hoffter yr awdur o’r ddrama Brad (1958) gan Saunders Lewis.”

Digon gwir: dim i’w ddweud am Caerdydd. Ond nid dyna oedd y comisiwn. Fel rhan o brosiect Canfod yn 2009, tywyswyd ni o gwmpas y Brifddinas, a’r bwriad oedd ein bod ni’n chwilio am ysbrydoliaeth am ddrama. Cefais i ysbrydoliaeth yn y Deml Heddwch. Dwi ddim yn meddwl y buaswn i wedi medru, wedyn, cael fy nghlymu i reol bod yn rhaid sgwennu am Gaerdydd. I fod yn onest, dwi ddim isio sgwennu am ddinasoedd; dwi isio sgwennu am bobl. Yn sicr dwi ddim isio “dweud” dim byd am ddinas na dim byd arall. Nid lle’r dramodydd i’w “dweud”, dwi ddim yn credu; lle dramodydd yw dyfeisio. Yn ogystal, damweiniol hollol yw’r gymhariaeth rhwng Llwch O’r Pileri a Brad, fedrai’ch sicrhau chi: dwi erioed wedi darllen drama Saunders Lewis, na’i gweld. Dwi’n meddwl i mi astudio Gymerwch Chi Sigaret? yn y coleg efo Brenda Wyn Jones o Fethesda, awdur llond trol o lyfrau plant. Ynteu Esther, dwch? Dwi ddim yn cofio’n iawn.

Cafodd Paul Griffiths ei ddychryn gan rai o ddelweddau fy nrama. Gwych. Dwi am i’r gynulleidfa gael ymateb visceral. Dyna ydi’r syniad. Roedd o hefyd yn ansicr o’r cyd-destun. Efallai nad oedd yr uchel-seinydd yn glir, ond efallai, heyfd, na ddylai fod. Be sydd o’i le efo sgytio cynulledifa, efo creu ansicrwydd ynddynt? Dwi ddim yn siwr bod theatr yn gyffrous os ydi’r gynulleidfa’n cael pob dim ar blât. Dwi’m isio mynd i’r theatr a gwybod a deall be dwi’n mynd i weld a’i glywed. Heriwch fi. Er hyn, dwi’n deall pwynt Paul, ac yn falch ein bod wedi cael sgwrs ar ôl y perfformiad, ac hefyd ar Twitter y diwrnod canlynol.

Mae pobl yn chwilio am ystyr mewn drama. Fel mamaliaid rydan ni’n chwilio am batrymau. Dyna yw ein natur. Ond dwi’n gwrthod cynnig hyn. Chewch chi’m ysytr gen i. Chwiliwch am un os liciwch chi, ond tydwi ddim am ddweud, o hyn allan, be dwi’n “ddweud” mewn drama oherwydd tydwi ddim yn dweud dim byd. Dylai’r gynulleidfa ddod o hyd i’r “dweud”, fel ddaru nifer ar ôl Llwch O’r Pileri; unigolion yn gweld rhywbeth gwahanol ynddi hi, a rhai, bownd o fod, yn gweld diawl o ddim byd. Mae hynny’n fwy cyffrous na bod y dramodydd yn “dweud” wrthyn nhw be i weld. Os dwi isio pregeth, mi â i’r capel (wel, dim mewn gwirionedd y dyddiau yma, ond wyddoch chi be dwi’n feddwl).
Beth bynnag, dwi isio diolch i Lowri a Paul am adolygu’r dramâu. Mae hi’n bwysig iawn cael beirniad, ac yn bwysig cael traethu efo nhw ar bwnc sy’n agos at ein calonnau. Diolch mawr i’r ddau, a daliwch i’n herio ni’r sgwennwyr, plîs.

Trwy'rDdinasHonEr bod pythefnos a mwy ers i Trwy’r Ddinas Hon ddod i ben, roeddwn i eisiau sôn rhyw fymryn am y profiad o weithio efo Sherman Cymru.
Tair drama wedi eu cysylltu gan y syniad/y thema/yr awgrym “Caerdydd” oedd Trwy’r Ddinas Hon – Sharon Morgan, Marged Parry a fi oedd y dramodwyr. Cafwyd tair drama gwbl wahanol, ond eto roedd yna debygrwydd, weithiau, rhyngddynt, ac nid yn unig yn y cysylltiad dinesig. Roedd hynny’n iasol ac yn effeithiol.
Roedd tri actor – Hanna Jarman, Siw Hughes a Tomos Eames – yn perfformio’r tair drama: Tom ac Hanna mewn dwy yr un; Siw yn y dair. Roedd hi’n andros o gamp iddyn nhw ddysgu tair drama mewn myryn llai na mis. Roeddwn i llawn parchedig ofn tuag at y tri.
Mae pethau’n dechrau efo sgript. Mae pethau’n darfod efo actorion ar y llwyfan. Ond rhwng y dechrau a’r darfod mae yna andros o waith ac andros o dalent. Dechrau efo Mared Swain, ein cyfarwyddwr. Dyma’r tro cyna i mi weithio efo Mared. Hefyd, Cai Dyfan, y cynllynydd, ddyfeisiodd set syfrdannol oedd yn gwasanaethu’r dair drama. Dwn i’m sut y medrodd gyfleu Caerdydd y dyfodol – yn nrama Marged – Caerdydd y gorffennol – yn fy nrama i – a rhyw Gaerdydd dychmygol/bresenol – yn nrama Sharon. Hefyd, Ace McCarron, y goleuwr. Roeddwn i wrth fy modd clywed gan Ace ei fod wedi gweithio’n gyson gyda The Wrestling School, cwmni drama Howard Barker. Rydwi’n hoff iawn o waith Barker – yn wahanol i fwyafrif y gymuned theatrig ym Mhrydain. Mae Barker wedi disgrifio ei theatr for “Theatre of Catastrophe”, ac er nad ydw i’n Gatastroffydd i’r carn, rydwi’n sicr yn cyd-fynd gyda llawer o’i safiadau, gan gynnwys: dim neges, dim ystyr, dim pregeth, dim eidioleg mewn drama; greddf, creadigrwydd a dyfeisgarwch yw’r theatr i mi, beth bynnag.
I ddychwelyd at y criw: Dyfan Jones, y cynllunydd sain; Carolina Vasquez, y cynllunydd fideo; Glesni Price-Jones, y rheolwr llawr; Gethin Evans, y cyfarwyddwr cynorthwyol; a pawb arall o’r Sherman oedd yn rhan o’r cynhyrchiad. Hebddyn nhw, ni fyddai Trwy’r Ddinas Hon wedi digwydd.
Fy mhwynt, yma, drwy gychwyn gyda’r sgript a darfod gyda’r perfformiad, yw dangos mai proses gydweithrediadol yw’r theatr.
Beth bynnag, dwi am sôn mwy an Trwy’r Ddinas Hon ymhellach ymlaen, yn enwedig yr ymateb i fy nrama i Llwch O’r Pileri,

DYMA ffilm anhygoel sydd yn dangos pa mor ddi-ddim yr ydan ni yn y bydysawd. Dwi’n credu bod y chwe munud a hanner yma yn emosiynol dros ben.

Am fwy o fanylion, sut y cafodd y fideo ei chynhyrchu, ac yn y blaen, ewch yma.

Dyn yn ymarfer Tai Chi

Dyn yn ymarfer y grefft o Tai Chi

PAN benderfynodd Y Parch David Rhodes, ficer Eglwys yr Holl Saint, Totley, ger Sheffield, wahardd pensiynwyr rhag ymarefer Tai Chi yn neuadd ei eglwys, doedd o ‘mond yn dilyn y Beibl. Mae’r Hollalluog yn reit glir ar gownt ddilynwyr “crefyddau” eraill: “LLADDWCH NHW!” (Exodus 22:20). Yn wir, mae’r Duw’n blwmp ac yn blaen ar y mater yma: os oes yna UN person mewn tref yn addoli “duw” arall, mae Duw yn gorchymyn bod yr dref i gyd yn cael ei dinistrio (Deut. 13: 12-18).

Druan ar Totley.

Mae Cristnogion rhesymol (a dwi’n siwr bod Mr. Rhodes yn un o’r rheini) yn bownd o ddweud nad ydi Duw mor ffyrnig y dyddiau yma. Ond mae hi’n bryder i mi ei fod wedi bod gyda’r ffashiwn dymer yn y gorffennol: mi lasa’n hawdd wylltio yn yr un modd eto. Ond ar y llaw arall, mae’r Beibl yn glir nad ydi Duw yn newid ei feddwl (Malachi 3:6): gwyliwch eich hunain, bensiynwyr, Tai Chi!

Mae hyn yn ddryslyd, wrth gwrs. Ydi Duw wedi newid, a bellach ddim yn debygol o falurio dinasoedd a lladd poblogaethau sy’n meiddio mynd yn groes iddo? Neu, fel y dywed Malachi, ydi Duw’r un peth, ac mae hi wedi darfod ar Totley? Anodd gwybod. Un peth sy’n sicr, mi roedd Duw ar un adeg yn Dduw ffyrnig a chreulon dros ben. Gobeithio ei fod wedi newid, ynte!

Mae’r eglwys wedi dennu llawer iawn o sylw at ei hun drwy wahardd criw Tai Chi Totley. Biti garw na benderfynodd Mr. Rhodes gefnogi ymdrechion y pensiynwyr i gadw’n heini. Mae Tai Chi, wedi’r cwbwl, yn ffordd wych i gadw’n ystwyth, ac yn ddigon ysgafn i’r henoed.

Ond ffitrwydd gwahanol oedd yn pryderu Mr. Rhodes a’r eglwys: ffitrwydd ysbrydol. Ond dwn i’m pa mor iach, mewn gwirionedd, ydi’r ffashiwn ffitrwydd efo Duw brwnt yn cynnal y dosbarthiadau.

Clawr y llyfr nodiadau, sy'n cynnwys y ddrama "Cors Oer"

MI ddaru fi eistedd yn dawel pnawn ddoe (Sul) a gwrando ar gynhyrchiad y BBC o fy nrama “Cors Oer”. Ac mi ges i fy mhlesio. Cynhyrchiad gwych. Cast gwych. Os liciwch chi wrando, ewch yma. Dyma’r tro cynta i un o fy nramau fod ar y radio, ac roedd o’n brofiad cyffrous iawn. Diolch i bawb oedd efo cysylltiad gyda’r cynhyrchiad.

BYDD addasiad o fy nrama “Cors Oer,” a enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008, yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru, Dydd Sul (Mawrth 14) am 2 p.m. Dwi’n naturiol wrth fy modd. Mae hi wedi cymryd amser i “Cors Oer” ddod o hyd i gartre. Ond o’r diwedd, mae hi wedi cael hafan. Nid ar y llwyfan, efallai, fel yr ysgrifennwyd hi, ond bydd hi’n hynod ddifyr clywed sut y mae hi’n swnio ar y radio. Mae’r cast yn cynnwys John Ogwen.

"Nofel ysgubol ac eithriadol iawn... gwaith o athrlylith" - Dewi Prysor

Clawr Dynion Dieflig

"Hynod ddarllenadwy" - gwales.com

Prynwch Y Moch A Straeon Eraill drwy glicio yma

"Dychryn a gwae – bendigedig" - Llinos Dafydd

Trydar/Twitter

RSS Newyddion Cymraeg o’r BBC

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Gwynedd

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Môn a Bangor

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Conwy

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Ddinbych

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Sir Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

RSS Newyddion Wrecsam a’r Fflint

  • Digwyddodd gwall; mae'r llif wedi peidio. Ceisia eto.

Categorϊau