Meic Stevens yn dweud rhywbeth hiliol, bownd o fod,
yn Eisteddfod Wrecsam, 2011. Llun: Llywelyn2000

“Be ’di hwnna Charlie Chan / Ayatollas ym mhob man / Cyfathrach rywiol yn Iran / Dyna’r ffordd i fyw,” canodd Meic Stevens yn y gân Dyna’r Ffordd I Fyw oddi ar ei record hir Nos Du, Nos Da yn 1982.

Doedd Twitter ddim yn bod ’radeg honno. Ond hyd yn oed tasa fo’n blatfform poblogaidd i ffasgwyr, ffwndamentalwyr a ffyliaid, byddai’r garfan Gymraeg o’r Haid ddim wedi disgyn arno fel y gwnaethant yn dilyn y sylwadau wnaeth y canwr ar gownt Foslemiad ar fws ysgol ei wyres yng Nghaerdydd. Byddai neb wedi ei gyhuddo o fod yn “hiliol” tuag at Foslemiaid am gyfeirio at “Ayatollas ym mhob man” nac am wneud sylw am “Charlie Chan”, sydd yn ystrydeb hiliol os fuodd ’na un erioed.

Rydwi’n credu Stevens pan mae’n dweud nad yw’n hiliol. Gwneud sylw wnaeth ar y newid yn ei gymuned. “I’m not bloody racist,” dywedodd yn y Daily Post. “I’m just saying what I see with my eyes.”

Mae’r sain o’i gyngerdd wedi ei ryddhau bellach, ac mae’r hunan-gyfiawn yn tynnu’n grïau ei eiriau, “off-the-cuff”; yn dadansoddi ei lith.

Mae Cymru wedi bod yn gwneud sylwadau felly ers blynydoedd – a wedi cael cefnogaeth gan eu cyd-Gymry wrth wneud.

Dychwelwn at ganeuon yr 1980au:

“Mae’r bobl ’ma’n dŵad o bob rhan o Loegr,” canodd Y Ficar yn eu cân Byw Mewn Cwt Yng Ngwaelod Yr Ardd.

Canodd Chwarter I Un yn eu cân Pry Yn Y Pren: “Diwedd ein cymdeithas, / Diwedd, diwedd pob da; / Miloedd gormod o Saeson, / Miloedd o dai ha’.”

Dychmygwch y dilorni tasa Stevens wedi dweud “Miloedd gormod o Foslemiaid.”

Wrth gwrs, y ddadl fyddai mai ymateb (yn ormodiethol, a gyda bravado ieuenctid) i ddigwyddiadau’r cyfnod oedd y bandiau yma (Hei, roeddwn i yno fy hun: fi sgwennodd ’Di Cymru Ddim Ar Werth).

Ond mi daerwn i mai gwneud yr un peth oedd Stevens: gweld newid yn ei gymdeithas; ymateb iddo (er na gyfeiriodd o at hil neb yn benodol; er fod ei ymosodwyr yn cyd-asio Islam a hil – yn gwbwl, gwbwl ffals).

Newid tebyg mae cymunedau dosbarth gweithiol Gogledd a De-Ddwyrain Lloegr wedi eu profi. Maen nhw’n ymateb – fel y gwnaeth Stevens – efallai’n or-emosiynol – fel y gwnaeth Stevens – ac, fel Stevens, yn cael eu pardduo fel hilwyr.

Yn anffodus, trwy anwybyddu pryderon cymunedau fel rhein, a’u galw’n hiliol a thwp, rydan ni’n creu bwlch. Ac yn y bylchau rheini mae’ch Tommy Robinsons chi’n magu. Mewn bwlch o’r fath cafodd Brexit fodd i fyw.

Ond dyna fo: rheini sy’n cymryd arnynt mai nhw ydi’r werin ydi’r crach go iawn y dyddiau yma; nhw’n sy’n rheoli’r naratif. Ac yn anffodus, y naratif y dyddiau yma yw bod gwneud sylw negatif tuag at Islam, neu Foslemiaid, yn hiliol.

Mae hyn, wrth gwrs, yn hurt: nid hil yw Islam (sawl gwaith…?). Mae “Sais” yn hil, gyda llaw, ond mi gaiff hynny ’i sgubo ’dan y carped, mae’n debyg. Mae “Iddew” hefyd yn hil. Ond nid yw gwrth-semitiaeth eu cymrodorion ar y chwith yn haeddu’r llîd a wynebodd Stevens oddi wrth yr Haid.

Wrth gwrs, does dim dwywaith bod Asiaid yn wynebu sarhad a hiliaeth. Mae’r ffeithiau’n glir ar hynny. A tueddiaid yr hiliwyr twp yw defnyddio “Mwslim” fel gair difrïol i ymosod ar bawb o’r un lliw croen.

Ond ni ddylai hyn achosi i ni anwybyddu ffeithiau eraill. Mae Mosleimiaid gwyn. Mae Mosleimiaid du. Mae Moslemiaid Twrkic fel yr Uyghurs, sy’n cael eu camdrin yn ddychrynllyd gan Tseina (dim smic gan yr Haid am hynny; sylwadau Taid 77 oed yn waeth o beth coblyn).

Mae hi’n allweddol bwysig ein bod ni’n gwahaniaethu rhwng sylwadau am y grefydd, a beirniadaeth ohoni, a’r hiliaeth tuag at unigolion.

Yn anffodus, nid yw hynny’n digwydd.

Sylwch ar ymdrech y chwith i ddilorni’r Blaid Dorïaidd gyda’r un hiliaeth sy’n staen ar y Blaid Lafur ar hyn o bryd, drwy ddefnyddio Islamoffobia.

Rwan, dwi ddim yn amau bod yna aelodau hiliol o’r Blaid Dorïaidd. Ond os edrychwch ar rai o’r pethau maent wedi ei ddweud, nid ydynt yn hiliol.

Er enghraiff, galwodd un cynghorydd Islam yn “gwlt gwaed”. Wel, ymosodiad ar gyfres o syniadau yw hynny; beirniadaeth o’r grefydd. Dim gwaeth na taswn i’n dilorni Cristnogaeth fel “cwlt gwaed”. (Ac i ddweud y gwir mae gan y crefyddau mawr haen o hyn ynddynt).

Felly mae’n allweddol gwahaniaethu, oherwydd mae cyfraith gabledd answyddogol yn cael ei chyflwyno’n llechwraidd – a dim ond un ffydd sydd yn cael ei hamddiffyn. Rhaid peidio gadael i’r paranoia ynglŷn â pechu fynd yn rhy bell, neu mi fydd pawb yn diodde.

Mae trin Meic Stevens fel parïa’n warthus. Roedd tôn rhai o’r ymosodiau arno’n sinistr dros ben. Cafodd ei gymharu efo Hitler, mewn difri calon. Cafodd ei fygwth, fwy neu lai, i ail-feddwl. Awgrymwyd y dylai “fyfyrio” ar ei sylwadau. Hynny yw, cael ei “ail-addysgu” yn y steil Sofietiadd; cydymffurfio, os liciwch chi, gyda’r naratif.

Ond a oedd sylw Meic Stevens yn waeth na’r cwpled yma o’r gân ffyrnig Mr Smith gan Yr Anhrefn?

“Beth am yrru’r Sais yn ôl / Gyda chic go dda i fyny ei ben ôl.”

Jest dychmygwch tasa ni’n rhoi’r gair “Mwslim” yn lle’r gair “Sais” yn fan hyn …

Advertisements