Ceg fawr ydi Katie Hopkins. Llun gan Rohit Rao ar Unsplash

Bydd Katie Hopkins yn ymddangos ar Y Byd Yn Ei Le ar S4C yr wythnos nesa. Trafod y Gymraeg, addysg Gymraeg. Trafod ei hymosidad diweddar ar ariannu’r ‘iaith farw’ ‘ma rydan ni’n siarad a sgwennu ynddi’n ddyddiol.

Dwn i’m yn union sut i ddisgrifio Hopkins. Mae rhai’n hoffi defynddio ‘ffasgydd’ ond ‘ffasgydd’ i rhain ydi rhywun sy’n anghytuno efo’u barn nhw. Mae hynny’n wirioneddol sarhaus i’r trueiniaid sydd wedi diodde – ac wrthi’n diodde – dan ffasgiaeth go iawn.

Tarfwraig ella. Ceg fawr heb amheuaeth. Annymunol yn sicr.

Trydarodd Guto Harri cyflwynydd Y Byd Yn Ei Le neges am y sioe ddoe. Taniodd hynny goelcerth fechan ar Twitter. Cafwyd ymateb hallt gan rai Cymry Cymraeg oedd yn gwrthwynebu’r ffaith fod Hopkins yn cael platfform.

Taerais i mai drwy ddadlau a pherswâd mae delio gyda barn groes, drwy herio’r syniadau rydan ni’n anghytuno efo nhw. Ni trwy eu llethu.

Y dull gorau i drechu syniadau dwl ydi gadael iddyn nhw gael eu clywed. Os ydach chi’n eu erlid danddaear, mi ledaenan nhw fatha pla.

Ond tydi nifer o fy nghyd Gymry Cymraeg ddim yn cyd-fynd efo fi – yn enwedig pan fydd rhywun yn meiddio dweud gair cas yn erbyn yr iaith.

Nid yn erbyn unigolion, nid yn erbyn poblogaeth, cofiwch, ond yn erbyn system gyfathrebu.

Mae dweud gair o’ch pen yn erbyn y Gymraeg neu’n erbyn gwariant ar yr iaith, neu addysg Gymraeg, yn gabledd.

Dwi gant y cant dros ariannu’r iaith, dros ei hybu a’i hamddiffyn, dros yr angen i ymestyn addysg Gymraeg. Dwi ar eich ochr chi, hogia!

Ond tydi pawb ddim. A jest am fod gan rai farn wahanol, tydi hynny ddim yn golygu eu bod nhw’n anghywir nac yn ffasgwyr.

Gadewch i mi’ch goleuo chi: tydi’ch barn chi ddim yn sanctaidd. Tydi’ch barn chi ddim yn ffaith absoliwt. Tydi’ch barn chi ddim yn Wirionedd Mawr. Tydi’ch barn chi ddim yn imiwn rhag cael ei herio. Nid rhywogaeth warchodedig ydi’ch barn chi. Rhaid i chi gyfiawnhau’ch barn. A nid trwy lethu gwrth-farn mae gwneud hynny.

Pan ddywedodd yr awdur Julian Ruck y llynedd bod Llywodraeth Cymru’n gwastraffu £150 miliwn ar y Gymraeg, dechreuodd yr ymosodiadau personol arno’n unionsyth.

Roedd awgrym nad oedd ganddo hawl i ddatgan y ffashiwn safbwynt. Mae hynny’n syfrdannol: wrth gwrs fod ganddo fo’r hawl. A’r ffordd i herio’i honiad oedd drwy ddefnyddio ffeithiau nid ffieidd-dra.

Cafodd hyd yn oed S4C eu condemnio am feiddio gadael i Ruck ail-adrodd ei sylwadau a wnaethpwyd yn wreiddiol ar raglen Newsnight.

Mae rhai ar Twitter bellach hefyd wedi mynnu bod S4C yn ymddiheuro am feiddio darlledu’r cyfweliad efo Hopkins.

Mae hyn yn dueddiad pan fo unrhyw un yn mentro dweud gair yn erbyn y Gymraeg neu Chymru.

‘Ymddiheurwch! Ymddiheurwch!’ yw cri’r haid.

Tyfwch fyny, wir dduw. Pa fath o ffolineb ydi hyn? Pe bai’r haid mewn grym efallai ceir blas ar ffasgiaeth go iawn: Dim ond barn sydd wedi ei gymeradwyo gan y commissariat gaiff ei darlledu i’r werin. Bydd unrhyw un sy’n datgan barn wahanol yn ffasgydd, wrth gwrs, a dylid eu tawelu. Mae nifer am i hynny ddigwydd rwan, neu mae’n swnio felly.

Ond wrth lethu a gwadu platfform i syniadau sy’n wrthyn i ni, mae’n system imiwnedd ni’n gwanio. Yna, pan glywn ni jôc am yr iaith neu amdana ni fel pobol, rydan ni’n debygol o wichian a strancio ac, yn anochel, galw am ymddiheuriad ac ar i’r jociwr gael ei arestio neu’i sacio.

Dechreuais weithio yn 1989, 29 mlynedd yn ôl. Dwi wedi treulio 19 o’r blynyddoedd rheini yn Lloegr. Gen i brofiad swmpus felly o Saeson, Saesneg a Lloegr – o’r Gogledd-Ddwyrain i’r De-Ddwyrain.

Dwi erioed – erioed – yn y cyfnod hwnnw wedi diodde hiliaeth na sarhad. Dim byd gwaeth nac ambell i jôc am ddefaid (fyddai’n amlwg yn anfon rhai o fy nghydlwladwyr yn unionsyth at yr heddlu i gwyno’u bod wedi diodde ymosodioad hiliol).

Mae gen i ofn bod rhai Cymry Cymraeg yn diodde o ‘victim mentality’. Nhw ydi’r dioddefwyr ym mhob sefyllfa. Mae’u barn nhw’n bur ac yn berffaith. Ddylia neb gael herio’r farno honno oherwydd mae hi’n ddwyfol. Mae pwy bynnag sy’n gwneud yn ffasgydd.

Dwi’n meddwl bod hi’n amser i ni ddangos dipyn bach o asgwrn cefn. Mae yna leiafrifoedd yn y byd sy’n diodde o ddifri – yr Yazidi, y Rohinga, yr Uyghurs, Cristnogion mewn rhai gwledydd Moslemaidd. Mae rheini wedi bod o dan ddwrn ffasgiaeth go iawn.

Tydi rhyw geg fawr fatha Hopkins wnaeth enw iddi ei hyn drwy ffwcio’i gŵr mewn cae yn 2007 ac ymddangos ar The Apprentice naill ai’n ffasgydd nac yn fygythiad i’r Gymraeg na Chymru. Ac os ydi ei sylwadau hi’n ein brifo ni mae hynny’n dweud fwy amdana ni na hi.

Ond munud rydach chi’n ymateb ar Twitter neu Facebook i’w lol hi, rydach chi’n agor y llifddorau. Ac o hynny ’mlaen, nid chi sy’n cael penderfynu pryd ac ym mhle mae hi’n cael datgan ei lol wedyn, a pwy sy’n eu darlledu.

Os ydach chi ddim am iddi gael sylw, peidiwch a rhoi sylw iddi yn y lle cynta.

Advertisements