Y teipiadur, yn edrych yn o dda ar ôl 5m gair

MAE awdur yn ofalus iawn o’i offer. Mae rhai awduron yn sgrifennu gyda phensil a phapur, eraill gyda inc mewn llyfrau nodiadau crand. Mae eraill – y rhan fwya’r dyddiau yma, debyg – yn sgrifennu ar gyfrifiadur. Rydwi’n defnyddio laptop 10 oed sydd yn pwyso bron gymaint a bricsen. Ond dyna’r teclyn dwi’n hoffi. Sgwn i sut mae’r awdur Cormac McCarthy’n teimlo felly wrth iddo fo werthu ei deipiadur?

Mae’r Americanwr wedi cynhyrchu ei waith i gyd ar yr hen Olivetti. Ar y peiriant hwn y sgwennwyd campweithiau fel “The Road” a “No Country For Old Men”. Ond mae’r teipiadur wedi dod at ddiwedd ei oes.  Ond yn hytrach na thaflu’r hen declyn, mae McCarthy werthu’r Olivetti mewn ocsiwn. Yn y cyfamser, mae o wedi cael teipiadur newydd. Wel, un ail law brynwyd am $11.