MAE HI’N galed ar bapurau newydd. Mae’r wasg yn cael ei gwasgu. Yn ddyddiol mae rhywun yn datgan eu bod nhw’n cael madael ar staff. Neu, yn achos yr FT, maen nhw’n gwahodd eu staff i weithio tri diwrnod yr wythnos. Nid er mwyn lles y staff cofiwch, ond i arbed arian.

Yn fwy lleol – i Gymru – mae Trinity Mirror, perchnogion y Western Mail a’r Daily Post, mewn llanast. Mae gwerth y cwmni wedi syrthio 90 y cant eleni. Dwi wedi gweithio i’r cwmni. Roeddwn i’n olygydd nos ar y Daily Post yng Nghyffordd Llandudno cyn ei heglu hi am Caint. Colli swyddi a thorri costau fuo’r stori rioed, yn fy mhrofiad i. Fawr ddim o fuddsoddiad mewn newyddiaduraeth. Yng ngolgedd orllewin Lloegr, mae Trinity’n bwriadu uno stafelloedd newyddion y Liverpool Daily Post a’r Liverpool Echo. Bydd gohebwyr, o hyn allan, yn “newyddiadurwyr aml-gyfrwng”, yn tynnu lluniau, ffilmio fideo, sgwennu straeon ar gyfer y papurau a’r wefan, a gwneud tê hefyd, bownd o fod.

Ydi uno’r stafelloedd newyddion yn syniad chwyldroadol? Nac ydi, mae gen i ofn. Unwyd stafelloedd newyddion y Liverpool Daily Post a’r Echo rai blynyddoedd yn ôl – yr adeg honno i arbed arian, hefyd. Roedd gohebwyr yn sgwennu straeon 300 o eiriau i’r Echo’n y bore, ac wedyn ail-sgwennu’r un stori, i fesur 700 o eiriau, ar gyfer y Post yn y prynhawn. Roedd hi’n drefn ddryslyd, a doedd yna neb yn ei hoffi – oni bai am y bosys oedd ddim yn gorfod gwario arian ar gyflogi mwy o newyddiadurwyr. Fe roddwyd y gorau i’r syniad rhyw wyth mlynedd yn ôl. Doedd hi ddim yn gynhyrchiol nac yn synnwyrol. Ond mae Trinity am roi tro arall arni. Wel, maen nhw’n ddygn, rhaid dweud hynny.

Mae yna wyth o swyddi’n cael eu colli yng ngogledd Cymru, hefyd, lle roeddwn i’n gweithio. (Cewch y wybodaeth yma, yr un erthygl a honno uchod) Roeddwn i’n un o’r rhai oedd yn gyfrifol am lunio’r Daily Post Cymreig, cynllunio’r papur o’r newydd gyda chymorth y golygydd cynllunio talentog, Brian Howes. Mae hi’n hen dro gweld pethau’n dirywio yno. Yn anffodus, nid er mwyn newyddiaduraeth a gwella’r gwasanaeth mae’r newidiadau yma yn cael eu gwneud, ond er mwyn arbed arian a rhandaliadau Trinity Mirror.

Mae hi yn anodd yn y diwydiant argraffu, does yna ddim dwywaith. Mae’n allweddol bod cyhoeddwyr rhanbarthol yn dilyn esiamplau papurau fel y Guardian a’r Daily Mail, a buddsoddi mewn gwefannau safonol. Fel arfer, mae gwefannau’r papurau rhanbarthol yn ddigon tila. Efallai y dylid dilyn esiampl yr Unol Daleithiau, a cynhyrchu gwefannau’n unig, rhai nad oes iddynt gysylltiad efo papur newydd na sianel deledu o gwbwl – mae hynny’n syniad i’w gysidro’n y Gymraeg, o leia. Mae gwefannau fel townhall.com, yr Huffington Post, Slate, a politico.com, yn bodoli’n ecscliwsif ar y Rhyngrwyd. Ai dyma’r ffordd ymlaen i newyddiaduraeth Gymraeg? Maen rhywbeth i’r Byd gysidro, efallai.

Does yna’m dwywaith, mae gofyn edrych ar ffyrdd newydd i newyddiadura. Nid papurau newydd ydi’r dyfodol. Mae’n rhaid buddsoddi mewn cyfryngau newydd. A “buddsoddi” ydi’r gair. Nid cropio staff a thorri costau ydi’r ateb. Nid uno stafelloedd newyddion. Ylwch yn fan yma be mae Bild, y tabloid Almaeneg yn ei wneud: dwn i’m, fy hun, ond mae o’n syniad diddorol.

Mae’r Wê’n cynnig mwy o gyfleoedd. Mae llawer o gyhoeddwyr papurau newydd, dros y blynyddoedd, wedi ofni’r Rhyngrwyd. Mae hynny wedi cael effaith ddrwg arnyn nhw. Maen nhw’n cael eu brathu, wrth i hysbysebwyr droi cefn ar y papurau a mynd at y Wê. Maen nhw’n trio neidio ar y drol, rwan, ond mae hi’n rhy hwyr i lawer un. Tydi’r dyfodol ddim ar y gorwel, mae o yma’n barod.

Advertisements