Y Llyfrau
DYNION DIEFLIG (Y Lolfa, 2008) Hanesion rhai o droseddau mwyaf dychrynllyd Cymru. Mae’n cynnwys achos Peter Moore, y perchennog sinema o Sir Ddinbych laddodd bedwar dyn yn y 1990au. Hefyd, mae pennod am achos Emyr Owen, y gweinidog gafodd ei garcharu yn yr 1980au am ymyrryd efo cyrff meirw.
Barn yr adolygwyr . . . “Mae Dyfed Edwards yn rhoi darlun cyflawn, heb ein diflasu gyda gormod o fanylion a dadansoddi. Nid yw’r darllenydd byth yn cael ei lethu gan ormod o wybodaeth gefndir . . . does dim dwywaith fod yr awdur yn llwyddo i gyflwyno’r hanesion yma mewn modd effeithiol dros ben. “Siân Evans (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
PETER MOORE: YGWAETHAF O’R GWAETHAF (Y Lolfa, 2009) Llyfr yng nghyfres “Stori Sydyn” sydd yn olrhain hanes achos Peter Moore ac achos Lynette White, y butain o Gaerdydd gafodd ei llofruddio gan gleient. Arweiniodd yr achos at gamwedd cyfiawnder erchyll, lle’r carcharwyd tri dyn ar gam am ei lladd.
Barn yr adolygwyr . . . “Fel sy’n nodweddiadol o’r gyfres Stori Sydyn, mae arddull y gyfrol yn hynod syml a darllenadwy. Ac er gwaethaf natur arswydus y ddwy stori, llwyddodd yr awdur i gadw’i emosiynau iddo’i hun. Mae’r cyfan yn ffeithiol a diragfarn ac mae hynny, mi gredaf, yn ychwanegu at yr arswyd.” Lyn Ebenezer (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
Y MOCH A STRAEON ERAILL (Carreg Gwalch, 2007) Un ar ddeg stori i oeri’r gwaed ac i rwygo’r nerfau . . .
Barn yr adolygwyr . . . “Mae arddull (Dyfed Edwards) yn gynnil a diwastraff. Bwrw ymlaen gyda’r stori, dyna’r nod – magu amheuon a phlannu hadau ym meddwl y darllenydd, a’i gamarwain weithiau hefyd. Mae’n feistr ar y technegau hyn.” Dafydd Andrews (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
“Dychryn a gwae – bendigedig . . . Byddwn yn annog pawb i ddarllen y gyfrol hon . . .” Llinos Dafydd, bbc.co.uk
HEN FRIWIAU (Carreg Gwalch, 2002) Mae hen stori mewn papur newydd yn yr archifdy’n bachu’r gohebydd Aleksa Jones. Ond wrth iddi dyrchio, mae hi’n datgelu byd o gyfrinachau a sgandal, mae hi’n codi nyth cacwn ac yn agor hen friwiau – a tydi hynny ddim yn plesio pawb . . .
Barn yr adolygwyr . . . “Mae gan yr awdur dalent werthfawr, dychymyg hudolus a sbarc yn ei ysgrifennu.” Carys Mair Davies, bbc.co.uk
“Ei gryfder yw ei feistrolaeth ar y digwyddiadau a’r ffeithiau. Mae’n datgelu manylion yn grefftus – darn o’r jig-so yn fan hyn, y darlun yn ehangu i’r cyfeiriad arall – yn raddol, yn gynnil, yn gyffrous.” Dafydd Andrews (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
LLWYBRAU TYWYLL (Y Lolfa, 1999) Ar hyd llwybrau tywyll tref gyffredin mae yna lofrudd yn llercian, a phlismyn yw ei darged.
Agoriad y nofel . . . “Pe bai o heb ffraeo hefo hi, byddai Robert heb gamu o’r glaw a ddrylliai’r strydoedd i’r swyddfa bost fechan. Pe bai o wedi gwrando ar ei wraig a honno’n dweud: ‘Mi ddaw’r hogan ati ei hun, ‘dach chi’ch dau cyn waethed â’ch gilydd,’ ni fyddai wedi mentro i’r pentre y diwrnod hwnnw. Pe bai o heb deimlo’r euogrwydd fel plwm yn ei stumog, mae’n debyg y byddai’r cwnstabl wyth a deugain oed wedi cyrraedd ei hanner cant a phump, wedi ymddeol yr adeg honno, ac erbyn heddiw’n tendio’r ardd yng nghefn ei dŷ pâr. Pe bai . . . Ond ddaru o ddim . . . “
Y SYRCAS (Y Lolfa, 1998) Mae haul gorffennaf yn gwenu ar dref Geregryn. Ond o dan yr wyneb mae diflastod, ac ar y cyrion mae dychryn. Ac fel y daw Nathan Stevens a Kim Davies i ddeall, gwir bwrpas y sioe liwgar yw dinistrio, nid diddanu. Nid doniolwch on galar y mae’r syrcas hon yn ei chynnig . . .
Barn yr adolygwyr . . . “Fe ddaw, yn sicr, o law Dyfed Edwards, glasur o waith arswyd. A hynny yn y dyfodol agos. Prynwch Y Syrcas. Darllenwch hi. Ond ddim gyda’r nos. Cofiwch, fel y dywedodd rhyw awdur arswyd arall rywbryd, mae gan y tywyllwch ddannedd. “ Lyn Ebenezer (Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)
CNAWD (Y Lolfa, 1997) Dyma gyfrol o straeon iasoer sy’n gwau bywyd bob dydd ag elfennau o isfyd arswydus. Mae’r straeon yn cynnwys un am drigolion hynafol pentre gwledig sy’n troi trip yfed criw o fechgyn yn uffern ar y ddaear, a tyfiant mewn ffrij sy’n bwydo ar bethau byw . . . dim ond dau o’r hanesion sy’n bownd o fferu’r gwaed.
Agoriad y stori “Arch Noa” . . . “Gwyddai Noa Bailey-Hughes ei fod o’n mynd i farw unwaith eto – ond roedd hyn yn saith gwaith gwaeth na’r tro cyntaf . . .
Agoriad y stori “Bwrw Dy Hun I Lawr” . . . “Rex Edwards oedd y newyddiadurwr gorau yn holl hanes y proffesiwn parchus hwnnw.”
DANT AT WAED (Y Lolfa, 1996) Dan gysgod yr oriau du, mae’n amser bwydo a does ond un ffordd i’r llwyth fodloni ei chwant am waed . . . ond daw Tanith a’i chriw yn ysglyfaeth yn eu tro, hefyd – i’r ellylles sy’n tra-arglwyddiaethu drostynt, a’r heliwr dialgar, Mort.
Agoriad y nofel . . . “Eisteddai’r dyn yn y gell oer, ddiflas, a’i ben yn pwyso yng nghryd ei ddyrnau. Wrthi’n meddwl yr oedd o; chwilio am reswm y tu ôl i’r hyn fu’n digwydd dros y dyddiau diwethaf, dyddiau’n fu’n baradwys ar y naill law ond yn uffern ar y llall. A fan hyn oedd gwaelodion y Tân oesol; man cysgu Jiwdas Iscariot, yn ôl Dante. Ond fyddai hyd yn oed bradwr Crist ddim am fod yng nghwmni’r dyn diawledig yma . . . “
I brynu’r llyfrau, cliciwch ar y delweddau.