Lluniau gwych, a’r gath yn dangos pwy ydi’r bós
DYMA lun gwych gan y ffotograffydd Igor Shpilenok a enillodd un o’r categorïau mewn cystadleuaeth tynnu lluniau bywyd gwyllt yn ddiweddar:
Mae’r llun, sy’n dwyn y teitl “Parch”, yn dangos cath Shpilenok, Ryska, yn herio llwynog. Mae hanes y llun yma. Wrth gwrs, mi dwi’n hoff o’r llun am fy mod i’n lecio cathod, ac maen nhw’n greaduriaid powld iawn – peidiwch a’u pechu nhw; mae ganddyn nhw ddannedd a chrafangau sydd wedi esblygu i wneud difrod. Ond maen nhw’n werth y byd pan y byddan nhw’n canu grwndi ac yn erfyn eu mwytho.
Enillydd y gystadleuaeth oedd y llun isod, gan Jose Luis Rodriguez:
Mae yna luniau gwych o fyd natur wedi ennill gwobrau yn y gystadleuaeth, ac maen nhw’n dangos pa mor ffyrnig a phrydferth ydi bywyd gwyllt.
