Archif

Archive for the ‘Sgwennu’ Category

Dim mwg heb dân

Hydref 23, 2009 Dyfed Rho sylw

Theatr Genedlaethol Cymru_1256305270477MAE yna obaith y caiff “Tân Mewn Drain” ei llwyfannu. Rydwi mewn trafodaethau efo’r Theatr Genedlaethol ar gownt y ddrama, enillodd Y Fedal Ddrama i mi yn Y Bala eleni. Wrth gwrs, mi dwi wrth fy modd ein bod ni’n sgwrsio yn gylch y ddrama. Dwn i’m eto be ddaw, ond mae Cefin Roberts wedi bod yn gefnogol dros ben. Fy nymuniad, yn amlwg, yw gweld y ddrama yn cael ei pherfformio gan actorion proffesiynol ar lwyfan cenedlaethol. Gobeithio, gobeithio, y caf i wireddu’r dymuniad hwnnw. Mi faswn i hefyd yn hoffi gweld “Cors Oer”, enillodd Y Fedal Ddrama yng Nghaerdydd y llynedd, yn cael ei llwyfannu hefyd – ond ella fy mod i’n braidd y farus yn disgwyl gweld y ddwy’n cael eu cynhyrchu.

Categories: Sgwennu

Wythnos i’w chofio

Awst 8, 2009 Dyfed 3 comments
Fy ngwraig, Marnie, efo fi wedi i mi dderbyn Y Fedal Ddrama

Fy ngwraig, Marnie, efo fi wedi i mi dderbyn Y Fedal Ddrama / Llun: bbc.co.uk

MI ddaru mi ennill Y Fedal Ddrama yr wythnos ddwytha yn Eisteddfod Genedlaethol Bala – yr ail waith yn olynol i mi landio’r tlws. Fel y medrwch chi ddychmygu, dwi wrth fy modd. roedd fy ngwraig Marnie yno eto, a’m rhieni, ac hefyd fy mam-yng-nghyfraith, Maureen, yn cael ei blas cynta ar eisteddfod – ac wedi ei synnu gan faint a steil y sioe.

Roedd hi’n wythnos wych i mi. Cefais fy nerbyd i’r Orsedd ar y dydd Llun: gesig wen; andros o anrhydedd. Fy enw yng Ngorsedd ydi Dyfed ap Ioan Eugrad.  Roedd fy nhaid (tad fy mam), John Rowlands, yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, a’i enw barddol oedd Ioan Eugrad. Mi benderfynais ddefnyddio’r enw hwnnw, a’r “ap” hefyd – rydw i o’i linach o, wedi’r cwbwl. Roedd hi’n ddiwrnod gwych, ac roeddwn ni’n falch iawn.

Wedi ennill Y Fedal Ddrama ar y dydd Iau, mi ges i fy nghornelu gan y wasg. roeddan nhw’n awyddus iawn i mi lorio’r Steddfod am beidio perfformio’r ddrama fuddugol. Ond tydw i ddim am wneud hynny. Mae hi i fyny i eraill os ydyn nhw am berfformio’r ddrama ai pheidio. Yn naturiol, rydwi eisiau gweld “Cors Oer”, enillodd yng Nghaerdydd y llynedd, a “Tân Mewn Drain” (nid “Draen”, fel ddywedodd y Western Mail), fy nrama eleni, ar y llwyfan. Ond tydw i ddim am ddweud pwy sydd i fod yn gyfrifol am hynny.

Mae enillydd Y Fedal Ryddiaith a’ Gwobr Daniel Owen yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs, ond mae hynny’n naturiol efo llyfr. Mae hi’n fwy o broses i ddod a drama i’r llwyfan. Rhiad peidio disgwyl iddo ddigwydd ar unwaith. Beth bynnag, gan fy mod i wedi cyfeirio at Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen, dwi wedi dod â cyfrolau buddudol Siân Melangell Dafydd a Fflur Dafydd efo fi i Swydd Caint, ac yn edrych ymlaen i’w darllen yr wythnos yma.

Cyfweliad efo “Sylw”

Gorffennaf 17, 2009 Dyfed 1 comment

SylwMAE yna gylchgrawn newydd wedi cael ei gyhoeddi’r wythnos yma gan Y Lolfa. “Sylw” ydi enw’r cylchgrawn, ac mae’n hi’n dda iawn gweld rhywun yn mentro yn y byd cyhoeddi papurau newydd/cylchgronau a hithau mor dynn ar nifer o gyhoeddwyr yn y maes.

Beth bynnag, mae yna gyfweliad efo fi yn y cylchgrawn. Cyfweliad am Y Fedal Ddrama ydi o. Fi enillodd y llynedd. Mae’r cylchgrawn, a’r newyddiadurwr gynhaliodd y cyfweliad efo fi, Gareth Jones, yn mynd am wddw’r Theatr Genedlaethol dwi’n meddwl (dwi heb weld y cylchgrawn, na darllen yr erthygl).

Rhag ofn bod rhywun gyda diddordeb, dyma’r cwestiynau gefais i gan Gareth, a’r atebion a roddais iddo fo. Dros ebost gynhaliwyd y cyfweliad, gyda llaw. Dwi’m ond am i chi gael gweld cyd-destun y cwestiynnau, dyna i gyd.

I wneud pethau’n glir, dwi yn siomedig, wrth gwrs, nad oes yna neb, ar hyn o bryd, yn awyddus perfformio “Cors Oer”, fy nrama enillodd y wobr yng Nghaerdydd. Ond dwi’m yn bersonol yn beirniadu neb am hyn. Mae gan y Theatr Genedlaethol, a’r Eisteddfod, debyg, resymau dilys dros fod yn amheus o fentro llwyfannu dramau newydd – a dramau buddugol. Ond, fel dwi’n dweud yn fy ateb, isod, dwi yn credu y dylid cysidro llwyfannu golygfeydd, o leia, o’r ddrama fuddugol y flwyddyn ganlynol.

1. Beth sydd wedi digwydd i’ch drama Cors Oer ers ichi ennill y llynedd?

Mi holodd pobl yn ei chylch hi ac mi wnes i ei danfon hi at y rheini oedd wedi holi – ond tydw i heb glywed gan ambell un. Cefais gyfarfod gyda Sherman Cymru, ac roeddan nhw’n gefnogol iawn. Hefyd, mae’r cynhyrchydd/cyfarwyddwr Eurwyn Williams wedi bod yn gefnogol, gan gynnig y ddrama i’r BBC.

2. Oes bwriad i’w llwyfannu ac os oes, gan bwy?

Dim bwriad, cyn belled a dwi’n gwybod. Mae hynny’n anfffodus. Mi fasa rhywun yn meddwl y byddai’r ddrama sy’n ennill y Fedal Drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei llwyfannu. Mae’r nofel fuddugol yn cael ei chyhoeddi, ac enillydd y Fedal Ryddiaeth. Dwn i’m pam na fedrir llwyfannu’r ddrama fuddugol, neu olygfeydd ohoni, efallai. Tydi drama ddim yn ddrama tan mae hi wedi cael ei llwyfannu.

3. A yw’r Theatr Genedlaethol neu unrhyw gwmni arall wedi cysylltu â chi yngly^n â’r ddrama?

Na, tydwi heb glywed gan y Theatr Genedlaethol er bod cynrychiolydd wedi cael copi. Fel y dywedais, mae Sherman Cymru wedi bod yn gefnogol ac wedi dangos diddordeb yn fy ngwaith.

4. A yw’r Eisteddfod wedi cysylltu â chi yngly^n â’r ddrama?

Nid ynglyn a’r ddrama, nac ydyn.

5. Beth yw’ch barn chi am y gystadleuaeth Drama Hir yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Rydwi’n gefnogol iawn o’r gystadleuaeth. Rhaid rhoi clod i’r Eisteddfod am iddynt ddod ar seremoni i’r prif lwyfan y llynedd. Roedd hi’n anrhydedd i mi gael bod y dramodydd cyntaf i dderbyn y Fedal Drama ar brif llwyfan yr Eisteddfod. Wrth gwrs, mi faswn i’n hoffi gweld enillydd y Ddrama Hir, y Ddrama Fer, a’r Fedal Ddrama’n cael eu perfformio mewn Eisteddfod olynnol.

Categories: Barn, Cyfryngau, Sgwennu

Blwyddyn arall

Ionawr 4, 2009 Dyfed Rho sylw

TYDW I ddim yn un da am flogio ar y gorau, ond mae pethau’n dirywio’n bellach dros gyfnod y Dolig a’r flwyddyn newydd. Roeddwn i yng Nghymru efo’r teulu dros y flwyddyn newydd. Roedd hi’n braf bod draw, gweld pawb. Tydi mam a dad ddim ar-lein – a peth hyfryd ydi hynny, i ddweud y gwir. Felly does yna ddim modd mynd i gornel a dechrau potsio ar gyfrifadur

Beth bynnag, dwi’n Swydd Caint eto, ac yn barod i ddechrau gweithio. Sgwennu fydda i dros yr wythnosau nesa. Dwi’n ffodus nad ydwi’n gorfod mynd i swyddfa’n rhy aml – deirgwaith yr wythnos i dalu’r rhent, dyna’r cwbwl. Dwi adra weddill yr amser, ac mae hynny’n braf.

Blwyddyn fawr i ni yma: mae llyfr cynta fy ngwraig, Marnie, yn cael ei gyhoeddi fis Mawrth. Dyma’i gwefan hi yma, a hanes y llyfr, ond stori ydi hi am filwr a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn Affganistan. Mae hi’n stori anhygoel, a dwi’n falch iawn o Marnie, wrth fy modd ei bod hi am gael llwyddiant, dwi’n sicr, efo’r llyfr. Mae’r llyfr hefyd yn dangos dewrder milwyr, gallu meddygon, a phenderfyniad unigolion.

Cadw’n brysur

Rhagfyr 14, 2008 Dyfed 3 comments
Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

DWI’N trio sgwennu’n “llawn amser” y dyddiau yma. Dwi’n shifftio ar y Daily Mail yn Llundain dri diwrnod yr wythnos i dalu’r rhent a bwydo’r gath o’r enw Griff sydd yn y llun yma. Ond eistedd wrth y ddesg yma, lle mae Griff yn eistedd, fydda i gan fwyaf.

Dwi wrthi’n sgwennu llyfr “Stori Sydyn” i’r Lolfa ar hyn o bryd. Addasiad ydi o o fy llyfr Dynion Dieflig. Bydd hwn yn cynnwys dau achos llofruddiaeth. Dwn i’m yn union pryd y bydd o’n cael ei gyhoeddi, ond dwi’n bwriadu cwbwlhau’r gwaith cyn y Dolig.

Rydwi hefyd yn trio fy ngorau glas i sgwennu drama. Roeddwn i’n ffodus ddigon i ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Mi roddodd hynny andros o hwb i mi, a dwi wedi cael blas ar ddramodi. Dwi wrth fy modd yn creu deialog, a’r cymeriadau sy’n yngan y ddeialog. Ond yn fwy na dim, dwi’n hoff o ddweud stori.

Dwi’n cadw’n brysur, felly. Dwi’n trio sgwennu pob dydd. Wrthi’n ddygn, a dwi ddim yn cwyno – sgwennu sydd yn mynd a fy mryd i, a dwi’n ffodus iawn cael y cyfle. Wrth gwrs, mae’n rhaid perswadio Griff i symud o’r gadair cyn y medra i fynd ati efo’r gwaith.