Archif

Archive for the ‘Lol yn ei le’ Category

Mae llwyddiant y sêr, yn y sêr

Hydref 30, 2009 Dyfed Rho sylw

File-Zodiac woodcut.png - Wikipedia, the free encyclopedia_1256865884140WELSOCH chi’r stori sy’n honni bod y rhai sy’n cael eu geni o dan arwydd Y Saethwr yn y Sidydd yn ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus ac yn enwog na’r rhai gafodd eu geni o dan yr arwyddion eraill.

Lle mae’r prawf? Wel, beth am Britney Spears, Christina Aguilera, a Scarlett Johansson. Hefyd, Donny Osmond, Jenny Agutter, a Jermaine Jackson, brawd Michael.

Wrth gwrs, mae’r stori’n honni bod “ymchwil yn dangos” mai hyn yw’r achos. Mae’r geiriau yma’n fêl i newyddiadurwyr. Maen nhw’n rhoi sylwedd i’r stori. Wedi’r cwbwl, dyma i chi ymchwilwyr gwyddonol yn cyflwyno tystiolaeth.

Wel, dim cweit . . .

Mae’r stori am lwyddiant Y Saethwyr yn dweud mai dim ond 100 o enwogion oedd yr ymchwilwyr wedi eu astudio. Fawr o sampl. A dim ond mymryn llai nac un allan o bob pump oedd wedi eu geni o dan arwydd Y Saethwr.

Ond yn fwy arwyddocaol, roedd yr ymchwil wedi ei gwblhau gan y sefydliad gwyddonol uchel-ei-barch hwnnw, y “Cartoon Network”. Wel, dyna chi: prawf digonol, bownd o fod!

Mae straeon fel hyn (straeon: “mae ymchwil yn dangos”) yn abwyd i bapurau newydd a chylchgronnau. Ddiwrnod wedi cyhoeddi’r stori yma, fe gyhoeddwyd erthygl nodwedd ar yr un pwnc.

Unwaith eto, defnyddiwyd y ffaith bod “ymchwil yn dangos”, ac “ymchwilwyr wedi darganfod” i roi bôn braich i’r stori, i’w pharchuso.

Ond dyw’r ffaith mai sianel deledu i blant gyhoeddodd yr “ymchwil” ddim yn cael ei grybwyll o gwbwl yn yr ail stori.

Felly, beth sydd wedi digwydd ydi bod yn datganiad hwn – mae’r rhai sy’n cael eu geni o dan arwydd Y Saethwr yn fwy tebygol o lwyddo – wedi dod yn ffaith, yn dystiolaeth, yn ganlyniad “ymchwil”.

Mymryn o hwyl, medda chi? Wel, ella. Ond yn anffodus, mae yna neges go ddifrifol yma. Mae’n dangos sut mae tystiolaeth yn cael ei gamdrin. Bydd yr “ymchwil” yma o hyn allan yn cael ei fesur ochor yn ochor ag ymchwil go iawn. Ac os ydi ymchwil sy’n profi, er enghraifft, bod rhyw feddyginiaeth yn gwella salwch yn cael ei dderbyn, pam ddim ymchwil sy’n dangos bod Y Sidydd yn gallu mesur llwyddiant?

Dwn i’m pam dwi’n cwyno, cofiwch. Dwi wedi fy ngeni o dan arwydd Y Saethwr. Taswn i’n aros rhyw fymryn, ewadd, ella y bydda innau’n ymuno efo Bruce Lee, Noel Coward, Ronnie O’Sullivan, a gweddill Y Saethwyr, yn ffurfafen y llwyddiannus. Wedi’r cwbwl, mae o yn y sêr, yn tydi . . .

Methu’r bws

Ionawr 17, 2009 Dyfed Rho sylw

YDI hi’n deg bod Cristion sy’n gyrru bws yn cael gwrthod gweithio ar gownt y ffaith bod hysbyseb anffyddiol ar ei gerbyd? Dwi ddim yn meddwl. Byddai anffyddiwr yn gorfod gyrru ei fws pe bai yna hysbyseb crefyddol – boed hwnnw’n Gristnogol, yn Fwslemaidd, yn Hindwaidd – ar y cerbyd.

Dyma fymryn o gefndir yr hysbysebion anffyddiol. Mewn gwirionedd, be sydd o’i le ynddyn nhw? Tydyn nhw ddim yn ymosod ar Gristnogaeth. Tydyn nhw ddim yn ymosod ar ddim, mewn gwirionedd. Mae nhw’n bositif dros ben: Mwynhewch eich hun, yw’r neges

Does gan ddyneiddiaeth, na’r mwyafrif o anffyddwyr, fawr o ddannedd (Richard Dawkins, Sam Harris, Christopher Hitchens yw’r eithriadau, debyg). Mae dyneiddiaeth yn syniadaeth heddychlon. Rhywbeth na ellid ei ddweud am nifer fawr iawn o grefyddwyr (ond nid pob un, wrth gwrs).

A ddylwn ni barchu cred grefyddol yn fwy nac unrhyw gred arall? Cred mewn UFOs. Cred mewn seryddiaeth. Cred bod y rhif 13 yn anlwcus. Na, medd llawer un. Wrth gwrs, dylid parchu unigolion. Ond efallai y dylid cwestiynnu’r hun maen nhw’n gredu. Mae ymosod ar gred rhywun (boed honno’n gred grefyddol ai peidio) yn wahanol iawn i ymosodiad ad hominem, yn erbyn yr unigolyn.

Mewn gwirionedd, dwi’n teimlo y dylai’r gyrrwr bws yma ddychwelyd at ei waith. Mae ei reswm, i mi, dros beidio dreifio’i gerbyd yn afresymol. Mae ganddo hawl i’w grefydd – mae ganddo hawl credu beth bynnag mae o’n ddymuno ei gredu, hyd yn oed bod y byd yn fflat a bod y lleuad yn gaws - ond ni ddylai hynny effeithio ar bobol eraill, fel ei gyd-weithwyr a’r teithwyr.

Dwi’n disgwyl y bydd rhywun yn ymosod ar y gred hon. . .

Lol yn ei le #2

Ionawr 5, 2009 Dyfed Rho sylw

DYMA erthygl sy’n tystio eto bod pobol yn gwario pres ar lol. Pam ein bod ni’n barod i gredu rwtsh fel cynlluniau “detox”, dwch? Dim ond esgus i gwmniau ac unigolion wneud arian ydi o. Does yna ddim sail wyddonol i’r nonsens yma. Mae Ben Goldacre, awdur “Bad Science” (gweler isod, “Gwyddoniaeth yn rhoi lol yn ei le”), yn dyrnu’r detoxwyr yn y fan hyn hefyd.

Gwyddoniaeth yn rhoi lol yn ei le

Rhagfyr 19, 2008 Dyfed Rho sylw

bad-science1DOEDDWN i’n fawr o Einstein yn yr ysgol. Ddaru mi rioed glicio efo gwyddoniaeth. Roeddwn i wedi laru yn y gwersi. Dwi’m yn cofio bod efo diddordeb yn y pwnc o gwbwl – a’r unig beth diddorol dwi’n gofio ydi gweld un o fy mêts yn tanio darn o fagnesiwm a’i daflu ar draws y ddesg mewn gwers gemeg. Roedd o fel tân gwyllt – yn fflachio’n wyn, yn hisian. Oherwydd fy niffyg diddordeb – a fy niffyg deallusrwydd – methu cemeg a ffiseg ddaru fi.

Ond, rwan, a hitha’n rhyw hwyr bownd o fod i gael Lefel O, mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Dwi wedi sylweddoli mai dyna’r unig beth sy’n mynd i’n achub ni rhag lol, dwi’n meddwl – ac mae’r llyfr yma, “Bad Science”, yn rhoi lol yn ei le.

Mae’r llyfr wedi cael ei sgwennu gan Ben Goldacre, sy’n feddyg. Mae ganddo golofn yn y Guardian, ac hefyd gwefan ddifyr iawn. Mae o’n ramdamio maethegwyr, amheuwyr MMR, sgandal straeon MRSA mewn ysbytai, a faint fynnir o stwnsh arall mae pobl yn gredu heb ddim sail. Mae’r wasg o dan y lach: mae’n condemnio’r ffordd y maen nhw’n camddeall ymchwil gwyddonol, ac yn derbyn canlyniadau ymchwil annibynadwy er mwyn cael pennawd flasus.

Dwi’n meddwl bod hwn yn lyfr pwysig. Mae o’n mynnu mai synnwyr cyffredin a ddylid ennill y dydd. Wrth gwrs, tydi synnwyr cyffredin ddim yn ddeniadol pob tro. Dyna pan mae rhai maethegwyr fel Gillian McKeith (sy’n cael ei llarpio gan Goldacre) wedi gwneud eu ffortiwn. Fel y dywed Goldacre, mae’r ffaith syml bod bwyta’n llysiau’n dda i ni yn llipa; does na’m pennawd frathiog yn y ffaith honno. Ond mae ambell i faethegwr yn gorliwio’r ffaith yma, yn gwisgo’r cwbwl mewn plu ac aur, ac yn gwneud rigmarôl mawr. Ac maen nhw’n defnyddio “gwyddoniaeth” fregus iawn wrth geisio profi bod bwyta – dwn i’m – gwellt, efalla, yn mynd i’n helpu ni fyw am flynyddoedd maith.

Beth bynnag, dwi’n argymell pawb i ddarllen y llyfr yma. Hen dro nad oedd o ar gael tra roeddwn i’n laru yng ngwersi cemeg, dosbarth pedwar.