Archif

Archive for the ‘Llyfrau’ Category

Wythnos i’w chofio

Awst 8, 2009 Dyfed 3 comments
Fy ngwraig, Marnie, efo fi wedi i mi dderbyn Y Fedal Ddrama

Fy ngwraig, Marnie, efo fi wedi i mi dderbyn Y Fedal Ddrama / Llun: bbc.co.uk

MI ddaru mi ennill Y Fedal Ddrama yr wythnos ddwytha yn Eisteddfod Genedlaethol Bala – yr ail waith yn olynol i mi landio’r tlws. Fel y medrwch chi ddychmygu, dwi wrth fy modd. roedd fy ngwraig Marnie yno eto, a’m rhieni, ac hefyd fy mam-yng-nghyfraith, Maureen, yn cael ei blas cynta ar eisteddfod – ac wedi ei synnu gan faint a steil y sioe.

Roedd hi’n wythnos wych i mi. Cefais fy nerbyd i’r Orsedd ar y dydd Llun: gesig wen; andros o anrhydedd. Fy enw yng Ngorsedd ydi Dyfed ap Ioan Eugrad.  Roedd fy nhaid (tad fy mam), John Rowlands, yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, a’i enw barddol oedd Ioan Eugrad. Mi benderfynais ddefnyddio’r enw hwnnw, a’r “ap” hefyd – rydw i o’i linach o, wedi’r cwbwl. Roedd hi’n ddiwrnod gwych, ac roeddwn ni’n falch iawn.

Wedi ennill Y Fedal Ddrama ar y dydd Iau, mi ges i fy nghornelu gan y wasg. roeddan nhw’n awyddus iawn i mi lorio’r Steddfod am beidio perfformio’r ddrama fuddugol. Ond tydw i ddim am wneud hynny. Mae hi i fyny i eraill os ydyn nhw am berfformio’r ddrama ai pheidio. Yn naturiol, rydwi eisiau gweld “Cors Oer”, enillodd yng Nghaerdydd y llynedd, a “Tân Mewn Drain” (nid “Draen”, fel ddywedodd y Western Mail), fy nrama eleni, ar y llwyfan. Ond tydw i ddim am ddweud pwy sydd i fod yn gyfrifol am hynny.

Mae enillydd Y Fedal Ryddiaith a’ Gwobr Daniel Owen yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs, ond mae hynny’n naturiol efo llyfr. Mae hi’n fwy o broses i ddod a drama i’r llwyfan. Rhiad peidio disgwyl iddo ddigwydd ar unwaith. Beth bynnag, gan fy mod i wedi cyfeirio at Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen, dwi wedi dod â cyfrolau buddudol Siân Melangell Dafydd a Fflur Dafydd efo fi i Swydd Caint, ac yn edrych ymlaen i’w darllen yr wythnos yma.

Blwyddyn arall

Ionawr 4, 2009 Dyfed Rho sylw

TYDW I ddim yn un da am flogio ar y gorau, ond mae pethau’n dirywio’n bellach dros gyfnod y Dolig a’r flwyddyn newydd. Roeddwn i yng Nghymru efo’r teulu dros y flwyddyn newydd. Roedd hi’n braf bod draw, gweld pawb. Tydi mam a dad ddim ar-lein – a peth hyfryd ydi hynny, i ddweud y gwir. Felly does yna ddim modd mynd i gornel a dechrau potsio ar gyfrifadur

Beth bynnag, dwi’n Swydd Caint eto, ac yn barod i ddechrau gweithio. Sgwennu fydda i dros yr wythnosau nesa. Dwi’n ffodus nad ydwi’n gorfod mynd i swyddfa’n rhy aml – deirgwaith yr wythnos i dalu’r rhent, dyna’r cwbwl. Dwi adra weddill yr amser, ac mae hynny’n braf.

Blwyddyn fawr i ni yma: mae llyfr cynta fy ngwraig, Marnie, yn cael ei gyhoeddi fis Mawrth. Dyma’i gwefan hi yma, a hanes y llyfr, ond stori ydi hi am filwr a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn Affganistan. Mae hi’n stori anhygoel, a dwi’n falch iawn o Marnie, wrth fy modd ei bod hi am gael llwyddiant, dwi’n sicr, efo’r llyfr. Mae’r llyfr hefyd yn dangos dewrder milwyr, gallu meddygon, a phenderfyniad unigolion.

Gwyddoniaeth yn rhoi lol yn ei le

Rhagfyr 19, 2008 Dyfed Rho sylw

bad-science1DOEDDWN i’n fawr o Einstein yn yr ysgol. Ddaru mi rioed glicio efo gwyddoniaeth. Roeddwn i wedi laru yn y gwersi. Dwi’m yn cofio bod efo diddordeb yn y pwnc o gwbwl – a’r unig beth diddorol dwi’n gofio ydi gweld un o fy mêts yn tanio darn o fagnesiwm a’i daflu ar draws y ddesg mewn gwers gemeg. Roedd o fel tân gwyllt – yn fflachio’n wyn, yn hisian. Oherwydd fy niffyg diddordeb – a fy niffyg deallusrwydd – methu cemeg a ffiseg ddaru fi.

Ond, rwan, a hitha’n rhyw hwyr bownd o fod i gael Lefel O, mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Dwi wedi sylweddoli mai dyna’r unig beth sy’n mynd i’n achub ni rhag lol, dwi’n meddwl – ac mae’r llyfr yma, “Bad Science”, yn rhoi lol yn ei le.

Mae’r llyfr wedi cael ei sgwennu gan Ben Goldacre, sy’n feddyg. Mae ganddo golofn yn y Guardian, ac hefyd gwefan ddifyr iawn. Mae o’n ramdamio maethegwyr, amheuwyr MMR, sgandal straeon MRSA mewn ysbytai, a faint fynnir o stwnsh arall mae pobl yn gredu heb ddim sail. Mae’r wasg o dan y lach: mae’n condemnio’r ffordd y maen nhw’n camddeall ymchwil gwyddonol, ac yn derbyn canlyniadau ymchwil annibynadwy er mwyn cael pennawd flasus.

Dwi’n meddwl bod hwn yn lyfr pwysig. Mae o’n mynnu mai synnwyr cyffredin a ddylid ennill y dydd. Wrth gwrs, tydi synnwyr cyffredin ddim yn ddeniadol pob tro. Dyna pan mae rhai maethegwyr fel Gillian McKeith (sy’n cael ei llarpio gan Goldacre) wedi gwneud eu ffortiwn. Fel y dywed Goldacre, mae’r ffaith syml bod bwyta’n llysiau’n dda i ni yn llipa; does na’m pennawd frathiog yn y ffaith honno. Ond mae ambell i faethegwr yn gorliwio’r ffaith yma, yn gwisgo’r cwbwl mewn plu ac aur, ac yn gwneud rigmarôl mawr. Ac maen nhw’n defnyddio “gwyddoniaeth” fregus iawn wrth geisio profi bod bwyta – dwn i’m – gwellt, efalla, yn mynd i’n helpu ni fyw am flynyddoedd maith.

Beth bynnag, dwi’n argymell pawb i ddarllen y llyfr yma. Hen dro nad oedd o ar gael tra roeddwn i’n laru yng ngwersi cemeg, dosbarth pedwar.

Cadw’n brysur

Rhagfyr 14, 2008 Dyfed 2 comments
Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

DWI’N trio sgwennu’n “llawn amser” y dyddiau yma. Dwi’n shifftio ar y Daily Mail yn Llundain dri diwrnod yr wythnos i dalu’r rhent a bwydo’r gath o’r enw Griff sydd yn y llun yma. Ond eistedd wrth y ddesg yma, lle mae Griff yn eistedd, fydda i gan fwyaf.

Dwi wrthi’n sgwennu llyfr “Stori Sydyn” i’r Lolfa ar hyn o bryd. Addasiad ydi o o fy llyfr Dynion Dieflig. Bydd hwn yn cynnwys dau achos llofruddiaeth. Dwn i’m yn union pryd y bydd o’n cael ei gyhoeddi, ond dwi’n bwriadu cwbwlhau’r gwaith cyn y Dolig.

Rydwi hefyd yn trio fy ngorau glas i sgwennu drama. Roeddwn i’n ffodus ddigon i ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Mi roddodd hynny andros o hwb i mi, a dwi wedi cael blas ar ddramodi. Dwi wrth fy modd yn creu deialog, a’r cymeriadau sy’n yngan y ddeialog. Ond yn fwy na dim, dwi’n hoff o ddweud stori.

Dwi’n cadw’n brysur, felly. Dwi’n trio sgwennu pob dydd. Wrthi’n ddygn, a dwi ddim yn cwyno – sgwennu sydd yn mynd a fy mryd i, a dwi’n ffodus iawn cael y cyfle. Wrth gwrs, mae’n rhaid perswadio Griff i symud o’r gadair cyn y medra i fynd ati efo’r gwaith.

Llyfr at achos da

Rhagfyr 2, 2008 Dyfed Rho sylw

dynion-dieflig1DYMA fy llyfr diweddara, Dynion Dieflig, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa. Mae’r gyfrol yn adrodd hanes pump o droseddau. Mae pedair ohonynt yn llofruddiaethau, a’r pumed yn un o’r straeon mwya sgytiol yn hanes cyfraith a threfn yng Nghymru a Lloegr erioed. Yr achos hwnnw oedd un Emyr Owen, gweinidog yr efengyl gyfaddefodd i dorri darnau oddi ar gyrff meirw. Dwi’n yn tynnu’ch sylw chi at y llyfr gan obeithio gwerthu copïau. Nid er fy mwyn i, ond er mwyn yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr. Mae pob ceiniog o’m breindal yn mynd at yr achos da hwnnw. Cliciwch ar ddelwedd y clawr i brynu’r llyfr.