Archif

Archive for the ‘Cyfryngau’ Category

Newyddion trist

Tachwedd 12, 2009 Dyfed Rho sylw

BBC Arlein - Newyddion - Colli'r cawr Orig Williams_1258041540903MAE Cymru wedi colli cawr. Mae’r reslar, y colofnydd, y peldroediwr, a’r cymeriad gwych Orig Williams wedi marw’n 78 oed.

Roeddwn i’n nabod Orig rhyw fymryn. Mi roedd o’n sgwennu colofn i’r Daily Post, a pan oeddwn i’n olygydd nos yno, tan 2005, roeddwn i’n delio gyda’r golofn pob wythnos ac yn cael sgwrs efo Orig. Roedd o’n ddi-flewyn ar dafod, roedd yn onest , ac roedd ganddo brofiad helaeth o’r byd a’i thrigolion.

Mi deithiodd i wledydd lu fel reslar, ac roedd ganddo straeon difyr am bob gwlad – ac am y cymeriadau yr oedd yn eu cyfarfod. Mae reslo wedi newid llawer iawn ers dyddiau Orig, ers dyddiau reslo ar S4C.

Rydan ni’n cofio Orig ar y teledu yng Nghymru fel El Bandito, wrth gwrs. Roedd El Bandito’n ddyn drwg yn y cylch i gychwyn, pan oedd yn reslo led led y byd. Ond pan ddaeth reslo i S4C, daeth yn arwr i ni’r Cymry.

Beth bynnag oedd El Bandito’r cymeriad, roedd Orig Williams y dyn yn fonheddwr. Mae Cymru wedi colli cymeriad lliwgar a gwladgarwr brwdfrydig.

Rydwi, fel llawer un arall bownd o fod, am ymestyn fy nghydymdeimladau at ei deulu.

Rhy bell

Tachwedd 11, 2009 Dyfed Rho sylw

The Sun - The Best for News, Sport, Showbiz, Celebrities & TV - The Sun- The Sun_1257938675136MI AETH “The Sun” yn rhy bell wrth ddefnyddio mam milwr gafodd ei ladd yn Affganistan er mwyn bwydo eu fendeta nhw yn erbyn Gordon Brown.  Cychywn yn stori oedd yr honiad bod y Prif Weinidog wedi camsillafu enw Jamie Janes yn anghywir yn ei lythyr gwreiddiol i Jacqui Janes. Dwn i’m os ydi hynny’n wir yn y lle cynta: mae sgwennu’r Prif Weinidog fel traed brain. Ac mewn galwad i Mrs Janes i ymddiheuro ac i gydymeidmlo, fe wadodd Mr Brown ei fod wedi sillafu’r enw yn anghywir.

Ond ta waeth. Y drwg yn y caws yw’r ffaith bod y “Sun” wedi recordio’r sgwrs hwnnw, ac wedi ei wneud yn gyhoeddus. Yn y sgwrs, mae Mrs Janes – sydd yn ddim yn morthwlo y mae’r papur yn ei ddefnyddio i golbio’r Prif Weinidog – yn cwyno nad oedd gan ei mhab, na’i gyd-filwyr offer digonol. Roedd hi’n gefnogol i’r rhyfel, ond roedd hi am i’r milwyr gael eu harfogi a’u hamddiffyn yn iawn, er mwyn iddynt fedru cwbwlhau eu cyfrifoldebau peryglus yn ddiogel.

Beth bynnag mae rhywun yn feddwl o’r rhyfel, o Gordon Brown, hyd yn oed, mae’r “Sun” wedi mynd yn rhy bell – a dyna ydi’r farn gyffredinnol. Mae rhai yn cydymdeimlo gyda’r Prif Weinidog. Mae’r papur wedi bod yn sinigol dros ben. Tydi hynny ddim yn newydd, wrth gwrs: mae papurau sinigol bob dydd. Ond y tro hwn, mae darllenwyr wedi cael llond bol ac wedi datgan hynny.

Hen beth slei iawn oedd recordio’r sgwrs rhwng Mrs Janes a Mr Brown. Nid er mwyn Mrs Janes roeddan nhw wedi gwneud hynny; nid er mwyn ei mhab dewr; ac nid er mwyn y milwyr sydd yn wynebu peryglon dychrynllyd yn Affganistan. Y rheswn tu cefn i’r weithred oedd “rhyfel” y “Sun” yn erbyn Brown.

25 o syniadau

Awst 28, 2009 Dyfed Rho sylw

EconsultancyMAE newyddiaduraeth dan y lach: swyddi’n cael eu colli, papurau’n stryffalgio, (ac yma hefyd, ac yma, ac yma) a’r rhyngrwyd yn eu bygwth, gyda llwyddiant gwefannau’r papurau cenedlaethol yn bownd o frathu’r papurau rhanbarthol/lleol. Ac mae bygythiadau o lefydd eraill, hefyd.

Mae newyddiadurwyr yn gyndyn iawn o newid. Dwi’n dyst i hyn; dwi’n esiampl o hyn. Dwi’n cofio dyddiau pan yr oeddan ni’n ben galed iawn pan ddeuai yna unrhyw syniad newydd i’r stafell newyddion. Rydan ni’n anhapus gweld meddylfryd gwahanol yn mentro i’n byd bach. Wedi’r cwbwl, mae pethau wedi gweithio’n o lew ers blynyddoedd, pam newid? Wel, mae’n rhaid newid, yn does – newid neu farw.

Beth bynnag, dyma i chi rhywbeth positif: 25 syniad da iawn i newyddiadurwyr. Does yna ddim byd chwyldroadol yma, dim ond synnnwyr cyffredin.

Cyfweliad efo “Sylw”

Gorffennaf 17, 2009 Dyfed 1 comment

SylwMAE yna gylchgrawn newydd wedi cael ei gyhoeddi’r wythnos yma gan Y Lolfa. “Sylw” ydi enw’r cylchgrawn, ac mae’n hi’n dda iawn gweld rhywun yn mentro yn y byd cyhoeddi papurau newydd/cylchgronau a hithau mor dynn ar nifer o gyhoeddwyr yn y maes.

Beth bynnag, mae yna gyfweliad efo fi yn y cylchgrawn. Cyfweliad am Y Fedal Ddrama ydi o. Fi enillodd y llynedd. Mae’r cylchgrawn, a’r newyddiadurwr gynhaliodd y cyfweliad efo fi, Gareth Jones, yn mynd am wddw’r Theatr Genedlaethol dwi’n meddwl (dwi heb weld y cylchgrawn, na darllen yr erthygl).

Rhag ofn bod rhywun gyda diddordeb, dyma’r cwestiynau gefais i gan Gareth, a’r atebion a roddais iddo fo. Dros ebost gynhaliwyd y cyfweliad, gyda llaw. Dwi’m ond am i chi gael gweld cyd-destun y cwestiynnau, dyna i gyd.

I wneud pethau’n glir, dwi yn siomedig, wrth gwrs, nad oes yna neb, ar hyn o bryd, yn awyddus perfformio “Cors Oer”, fy nrama enillodd y wobr yng Nghaerdydd. Ond dwi’m yn bersonol yn beirniadu neb am hyn. Mae gan y Theatr Genedlaethol, a’r Eisteddfod, debyg, resymau dilys dros fod yn amheus o fentro llwyfannu dramau newydd – a dramau buddugol. Ond, fel dwi’n dweud yn fy ateb, isod, dwi yn credu y dylid cysidro llwyfannu golygfeydd, o leia, o’r ddrama fuddugol y flwyddyn ganlynol.

1. Beth sydd wedi digwydd i’ch drama Cors Oer ers ichi ennill y llynedd?

Mi holodd pobl yn ei chylch hi ac mi wnes i ei danfon hi at y rheini oedd wedi holi – ond tydw i heb glywed gan ambell un. Cefais gyfarfod gyda Sherman Cymru, ac roeddan nhw’n gefnogol iawn. Hefyd, mae’r cynhyrchydd/cyfarwyddwr Eurwyn Williams wedi bod yn gefnogol, gan gynnig y ddrama i’r BBC.

2. Oes bwriad i’w llwyfannu ac os oes, gan bwy?

Dim bwriad, cyn belled a dwi’n gwybod. Mae hynny’n anfffodus. Mi fasa rhywun yn meddwl y byddai’r ddrama sy’n ennill y Fedal Drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei llwyfannu. Mae’r nofel fuddugol yn cael ei chyhoeddi, ac enillydd y Fedal Ryddiaeth. Dwn i’m pam na fedrir llwyfannu’r ddrama fuddugol, neu olygfeydd ohoni, efallai. Tydi drama ddim yn ddrama tan mae hi wedi cael ei llwyfannu.

3. A yw’r Theatr Genedlaethol neu unrhyw gwmni arall wedi cysylltu â chi yngly^n â’r ddrama?

Na, tydwi heb glywed gan y Theatr Genedlaethol er bod cynrychiolydd wedi cael copi. Fel y dywedais, mae Sherman Cymru wedi bod yn gefnogol ac wedi dangos diddordeb yn fy ngwaith.

4. A yw’r Eisteddfod wedi cysylltu â chi yngly^n â’r ddrama?

Nid ynglyn a’r ddrama, nac ydyn.

5. Beth yw’ch barn chi am y gystadleuaeth Drama Hir yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Rydwi’n gefnogol iawn o’r gystadleuaeth. Rhaid rhoi clod i’r Eisteddfod am iddynt ddod ar seremoni i’r prif lwyfan y llynedd. Roedd hi’n anrhydedd i mi gael bod y dramodydd cyntaf i dderbyn y Fedal Drama ar brif llwyfan yr Eisteddfod. Wrth gwrs, mi faswn i’n hoffi gweld enillydd y Ddrama Hir, y Ddrama Fer, a’r Fedal Ddrama’n cael eu perfformio mewn Eisteddfod olynnol.

Categories: Barn, Cyfryngau, Sgwennu

Tua’r dyfodol

Mai 14, 2009 Dyfed Rho sylw

Thinking DigitalCYNHELIR cynhadledd yn Newcastle yr wythnos yma sydd yn trafod, ymysg pethau eraill, dyfodol newyddiaduraeth a phapurau newydd. Mae un siaradwr, Dan Lyons, yn meddwl go iawn nad oes dyfodol o gwbwl i bapurau newydd. Mae Lyons yn trafod papurau newydd Americanaidd yn benodol, ond mae ei sylwadau’n berthnasol i gyhoeddiadau yng Ngwledydd Prydain hefyd. Cofiwch, nid yw’r cyfrwng digidol yn cael fawr o glod. Mae pethau’n symud yn gyflym yn y byd hwnnw, yn tydi. Ac mae erthygl yma yn dweud bod blogio, erbyn hyn, yn hen ffashiwn.

Ymosodiad

Mai 11, 2009 Dyfed Rho sylw

IFEX --_1242062247366MAE yna lot o swnian am ddiffyg rhyddid y dyddiau yma: rhyddid barn, rhyddid cwyno; ychwanegwch at hynny gwyno am gardiau ID, am gamerau gor-yrru, am cynghorau’n bysnesu yn ein sbwriel, ac mi gewch chi ddarlun o wladwriaeth “Big Brother”. Wel, tydi hynny ddim cweit yn wir. Mae yna ddadleuon teg iawn yn erbyn rhai or mesurau uchod (y nifer fawr ohonynt wedi eu cyflwyno gan lywodraeth “sosalaidd”, yn rhyfedd iawn), ac mae’n bwysig bod llais y bobl yn cael ei glywed. Ond tydan ni ddim cweit yn byw dan ddwrn haearn ar hyn o bryd. Os ydach chi am wybod am wlad sydd go iawn yn gwadu rhyddid barn, rhyddid cwyno, darllenwch am stori’r newyddiadurwr Yrysbek Omurzakov. Mi gafodd o ei guro yng ngwlad Kyrgyzstan yr wythnos yma. Mae o’n credu i’r ymosodiad ddigwydd oherwydd bod ei bapur newydd yn cyhoeddi erthyglau sy’n feirniadol o’r llwydoraeth. Tasa’r llywodraeth yng Ngwledydd Prydain efo’r un grym, mi fasa hi wedi darfon ar olygyddion papurau Llundain.

Mae hi’n anodd iawn bod yn newyddiadurwr o unrhyw fath mewn rhai gwledydd. Wrth gwrs, math newydd o newyddiaduraeth ydi blogio. Ac yn anffodus, mae unbenaethau’r byd wedi sathru ar y blogwyr, yn ogystal. Yn y fan hon, ar safle’r Pwyllgor i Amddifyn Newyddiadurwyr, mae rhestr o’r 10 gwlad gwaetha i fod yn flogiwr. Yn eu mysg mae Ciwba. Cyfundrefn sy’n cael ei brolio gan lawer un yma yng Ngwledydd Prydain (mwy o frolio yma). Ond mae Ciwba’n frwnt iawn gyda newyddiadurwyr. Does yna ddim rhyddid go iawn yno. Nid os ydach chi’n cwyno ac yn protestio’n erbyn y llywodraeth. Hawdd iawn ydi syllu’n freuddwydiol ar “iwtopia” bell. Mae byw yn yr “iwtopia” honno’n brofiad cwbwl wahanol.

Categories: Barn, Cyfryngau

Dechrau’r diwedd

Ebrill 3, 2009 Dyfed Rho sylw

MAE HI ar ben i’r papurau newydd lleol a rhanbarthol, mae gen i ofn. Mae hwn yn ddatganiad pesimistaidd ar y naw i rhywun sydd wedi treulio’r mwyafrif o’i yrfa newyddiadurol ar y papurau yma – rhai wythnosol a dyddiol drwy gydol gwledydd Prydain. Dyma erthygl wych gan Stephen Moss yn y Guardian sydd yn dangos pa mor dywyll y mae hi.

Newid mae pethau, wrth gwrs, nid marw, ond os na fedar papurau addasu i’r newid, maen nhw’n bownd o farw. Mae yna fwy o swyddi’n bownd o gael eu colli tra bod golygyddion yn trio eu gorau glas i gyfleu neges gobeithiol wrth i stafelloedd newyddion wagio o’u cwmpas ac wrth i nifer tudalennau eu papurau newydd fynd yn llai ac yn llai.

Beth yw’r ateb? Oes yna ateb? Mae yna ymdrechion, mentrau. Ond mae’n rhaid i’r cyhoeddwyr wneud rhywbeth, neu mi fydd hi’n ddiwedd byd go iawn. Mae pobl yn cael eu newyddion a’u gwybodaeth am ddim y dyddiau yma – ar y rhyngrwyd, y teledu, hyd yn oed. Felly pam y dylent dalu am bapur newydd? Mae papurau Llundain yn medru cynnal eu hunain mewn byd o’r fath (er bod rhai o’r rheini’n stryffaglio hefyd).

Ond nid y papurau lleol a rhanbarthol.

Mae’n debyg mai’r unig ffordd y gallent oroesi’r catastroffi diweddara yma ydi addasu mewn modd eithafol: ac mae hynny’n golygu cau’r papurau.

Dylent wedyn gynnig y newyddion lleol ar-lein, ac am dal. Mae’r mymryn o ddarllenwyr triw sydd gan y papurau lleol, y papurau wythnosol yn enwedig, yn talu am bapur newydd, yn tydyn. Pam ddim gwneud iddyn nhw dalu am y gwasanaeth ar-lein? Bydd rhai’n cael eu colli, bownd o fod, ond mae darllenwyr yn cael eu colli pob dydd, beth bynnag. Felly y mae hi yn y busnes papurau newydd.

Mae hysbysebwyr yn troi eu cefnau ar y papurau traddodiadol ac yn hysbysebu ar-lein.  Mae hyn yn ergyd farwol i bapurau, ac yn effeithio ar bawb, hyd yn oed y bwystfilod mawr. Felly be i wneud? Dilyn yr arian, debyg; mynd ar gynffon yr hysbysebwyr. Mynd ar-lein.

Mae chwyldro’n cymryd lle yn y diwydiant papurau newydd, ac os nad ydi’r papurau’n barod i neidio ar y drol, mi fyddan nhw’n cael eu gadael ar ôl yn y llwch.

Y wasg yn cael ei gwasgu

Ionawr 23, 2009 Dyfed Rho sylw

DYMA erthygl ddiddorol yn y Press Gazette, cylchgrawn i newyddiadurwyr. Sylwadau pwysig gan Martin Shipton, gohebydd amlwg gyda’r Western Mail. Sylw diddorol iawn, hefyd gan Andy Williams o Brifysgol Caerdydd, sy’n beirniadu model busnes Trinity Mirror. Hen dro bod hyn yn digwydd i bapurau newydd Cymru. Mae newyddiadurwyr yn amlwg yn pryderu.

Categories: Cyfryngau

Newyddion drwg

Ionawr 5, 2009 Dyfed 1 comment

DYMA erthygl gan Roy Greenslade, y sylwebydd, sy’n proffwydo dyfodol tywyll i bapurau newydd.

Categories: Cyfryngau

Haleliwia!

Rhagfyr 18, 2008 Dyfed 2 comments

TYDI’R X-Factor ddim at chwaeth pawb. Ond rhaid i mi gyfadde, dwi’n mwynhau’r syrcas pob blwyddyn. Mae’n well gen i’r rowndiau cynnar, pan mae’r anobeithiol wrthi’n ddygn yn annog Simon Cowell a’r beirniad eraill i roi cyfle iddyn nhw – un cyfle, dim ond un cyfle!

Mae’r enillwyr – fel Alexandra Burke eleni – yn medru canu, heb os, ond dros dro ydi llawer o’r bobl yma. Mae’n debyg y caiff hi lwyddiant, cofiwch. Mae Mr. Cowell yn bownd o neud ffortiwn arall o’i gyrfa hi.

Ond os nad ydach chi’n hoff o’r X-Factor, mae’n rhaid i chi fod yn falch o un peth eleni – na, nid y ffaith bod y gyfres wedi dod i ben, ond y ffaith bod Leonard Cohen am neud andros o lot bres o’r rhaglen.

Cân yr enillydd eleni ydi “Hallelujah”, campwaith Mr. Cohen. Mae sawl fersiwn wedi cael eu rhyddhau dros y blynyddoedd, gan gynnwys un gan Jeff Buckley – ac mae’n debyg bod honno’n herio fersiwn Alexandra Burke am safle’r Rhif 1 yn y siart.

Mae hi’n gân wych, wefreiddiol, a dwi’n falch iawn bod Leonard Choen am gael cyfoeth sylweddol o’r llwyddiant, gan ei fod wedi cael trafferthion yn ddiweddar.