MAE Cymru am gael cyfle i setlo cownt yng Ngwpan Rygbi’r Byd 2011. Rydan ni yn yr un grŵp a Fiji, a’n trechodd 38-34 yng Ngwpan Rygbi’r Byd y llynedd. Roedd hi’n andros o gêm, honno, yr un orau yn y gystadleuaeth meddai rhai. Ond be ydi’r pwynt dathlu gêm dda pan mae’r tîm yn colli? Mi fasa’n well gen i tasa Cymru wedi chwarae’n ddiflas fel y gwnaeth Lloegr drwy gydol y gystadlaeuaeth. O leia mi lwyddon nhw i gyrraedd y rownd derfynol. Roedd Cymru wedi hen fynd adra, a Gareth Jenkins, yr hyfforddwr, wedi colli ei swydd.
Mae pethau wedi newid, diolch i’r drefn. Mae Cymru’n chwarae rygbi aeddfed, rygbi call y dyddiau yma. Ond mae o’n andros o grŵp anodd yn 2011: yn ogystal a Fiji, rydan ni’n wynebu pencamwpyr y byd, De Affrica, ac hefyd, yn debyg iawn o ddod ar draws Samoa – roddodd stîd i ni yn 1991 ac yn 1999. Mae yna dros ddwy flynedd tan y byddwn ni’n teithio i Seland Newydd i wynebu’r her yma. Faint fynnir o amser i gryfhau eto, faint fynnir o amser i adeiladu ar y sylfaeni solat y mae Warren Gatland a’i hyfforddwyr wedi eu gosod.
Wyddoch chi beth oedd yn drist am y canlyniad yn erbyn Fiji? Oedd, roedd colli’n ddigon drwg. Ond y peth mwya siomedig oedd mai dyna’r tro dwytha i Ray Gravell weld Cymru’n chwarae gêm rhyngwladol. Bu farw fymryn wythnosau’n ddiweddarach.
Efalla, pan fydd y Dreigiau’n wynebu Fiji yn Seland Newydd yn 2011, y dylian nhw ennill nid yn unig er mwyn rygbi Cymru, ond hefyd fel rhyw goffadwriaeth hwyr i Grav.