WEDI’R siop siafins yn erbyn Ffiji ar Dachwedd 19, ac yn sgîl sioe dda Samoa yn erbyn Lloegr a’r Alban, mae Cymru’n wynebu andros o job i gyrraedd rowndiau go-gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesa.
Mae Cymru yng Ngrwp D gyda De Affrica, Ffiji, Samoa, a Namibia. Dwi’n credu mai’r unig ffordd o sicrhau ein bod ni’n ail yn y grwp, ac felly’n mynd i’r wyth ola, yw drwy fod yn bragmatig – mae gofyn i ni dderbyn mai yn erbyn Samoa a Ffiji bydd ein gemau anodda, ac felly mae’n angenrheidiol ennill y ddwy.
Mae buddugoliaeth yn erbyn Namibia’n weddol sicr, felly mi fedar Warren Gatland roi XV gwanach ar y cae yn erbyn yr amaturiaid o ddeheubarth Affrica – ac yn fy marn i, dyna be ddylai’r Kiwi wneud yn erbyn cymdogdion Namibia, hefyd.
Ia, dwi’n credu y dylai Gatland ddewis XV gwan yn erbyn De Affrica. Mae Cymru’n debyg iawn o golli’r gêm. Beth yw’r pwynt rhoi XV cryfa Cymru ar y cae, ac wedyn disgwyl iddynt chwarae Ffiji a Samoa hefyd? Gwell derbyn y gwirionedd: mae De Affrica am ein trechu. Yna, bydd ein chwaraewyr gorau (ac mae’r hydref wedi dangos y diffyg dyfnder sydd yng Nghymru) yn ffit ac yn iach i wynebu Ffiji a Samoa, ac felly rhoi gwell cyfle i’w trechu.
Dadleuol, wn i. Ond os bydd chwaraewyr gorau Gatland yn wynebu tair gêm galed, maen nhw’n bownd o ddiodde.
Y peth pwysig yw bod Cymru’n cyrraedd rownd yr wyth ola, a gellid gwneud hynny drwy ddod yn ail yn y grwp.
Does dim o’i le mewn chwarae fel hyn, bod yn bragmatig.
Sylwch ar bel-droediwyr Gorllewin yr Almaen yng Nghwpan y Byd 1954. Roeddan nhw mewn grwp gyda’r ffefrynau, y cewri, Hwngari. Enillodd Hwngari’r gêm 8-3 wrth i’r Almaenwyr roi XI gwan ar y cae. Ond mi aethon nhw drwodd i’r rowndiau pellach. A gan bod eu chwaraewyr gorau’n ffit ac yn iach, llwyddodd yr Almaenwyr i gyrraedd y rownd derfynol – i wynebu Hwngari eto.
Roedd yr Hwngariaid wedi blino, ond roedd yr Almaenwyr wedi chwarae llai o gemau, ac wedi cael llwybr haws i’r ffeinal. A nhw enillodd, 3-2.
Tagiau: 8-3, Cwpan y Byd 1954, Cwpan y Byd 2011, Cymru, De Affrica, Fiji, Gorllewin yr Almaen, Hwngari, IRB, rugby, rygbi, Samoa, Warren Gatland



