Thomas Emson yn brysur

20 Hyd

Clawr "Prey"

AR hyn o bryd, a tan y flwyddyn 2012, dwi’n sgwennu dwy nofel y flwyddyn. Ac ni rhyw fan bethau 50,000 o eiriau yr ydyn nhw, chwaith. Maen nhw rhwng 90,000 a 120,000 o eiriau. Anghenfilod o bethau sydd yn mynd fel y mynnon nhw, er i mi drio fy ngorau glas i’w cadw nhw ar dennyn.

Wrth gwrs, o dan y ffugenw Thomas Emson yr ydw i’n sgwennu’r llyfrau yma. Mae Thomas Emson wedi bodoli ers 2008, pan gyhoeddwyd ei/fy llyfr cynta “Maneater” gan Snowbooks. Yna, cynigiais 8 syniad i Snowbooks, ac dyma nhw’n debyn y cwbwl lot – a dyma fi’n dweud y buaswn i’n sgwennu dau lyfr y flwyddyn. Chwys doman!

Mae hi yn her, does yna’m dwywaith. Mae gen i chwe mis i sgwennu un llyfr. Mae hynny’n golygu mynd fel slecs drwy’r drafft cynta a’i gwbwlhau mewn 10-12 wythnos. Wedyn, treulio 8-10 wythnos (gobeithio) yn siapio ail ddrafft. Yna, rhyw bythefnos ar drydydd drafft. Danfon y nofel i’r cyhoeddwr a mynd ati efo’r un nesa.

Mae Emson yn ddyn prysur. Ac oherwydd ei brysurdeb, tydwi i, Dyfed, ddim yn cael fawr o gyfle (wel: dim cyfle) i sgwennu yn y Gymraeg. A dwi’n methu hynny. Am y tro, rhaid i hynny aros, mae gen i ofn. A cofiwch, dwi’n mwynhau sgwennu nofelau Thomas Emson; dwi’n mwynhau yn ofnadwy. Mae hi’n ddigon o sioe eu gweld ar silffoedd Waterstones neu ar Amazon, neu mewn unrhyw siop lyfrau; mae hi’n wych cael gwahoddiad i siarad efo criw o bobol (dwi’n Folkestone ac yn dudley’r mis nesa), a cael cyfarfod darllenwyr. Mae hi’n ddifyr bod mewn cysylltiad efo sgwennwyr eraill o bob cwr o’r byd (rydwi’n cyfrannu i flog darkcentralstation sy’n cynnwys awduron o Ogledd Iwerddon ac yr Unol Daleithiau).

Ond dwi yn edrych ymlaen i sgwennu rhyddiaith yn y Gymraeg eto rhyw ben. Pan fydd Thomas Emson yn gorffwys, efalla…

Tagiau: , , , , ,

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.