Hafan > Barn, Llyfrau, Sgwennu > Wythnos i’w chofio

Wythnos i’w chofio

Fy ngwraig, Marnie, efo fi wedi i mi dderbyn Y Fedal Ddrama

Fy ngwraig, Marnie, efo fi wedi i mi dderbyn Y Fedal Ddrama / Llun: bbc.co.uk

MI ddaru mi ennill Y Fedal Ddrama yr wythnos ddwytha yn Eisteddfod Genedlaethol Bala – yr ail waith yn olynol i mi landio’r tlws. Fel y medrwch chi ddychmygu, dwi wrth fy modd. roedd fy ngwraig Marnie yno eto, a’m rhieni, ac hefyd fy mam-yng-nghyfraith, Maureen, yn cael ei blas cynta ar eisteddfod – ac wedi ei synnu gan faint a steil y sioe.

Roedd hi’n wythnos wych i mi. Cefais fy nerbyd i’r Orsedd ar y dydd Llun: gesig wen; andros o anrhydedd. Fy enw yng Ngorsedd ydi Dyfed ap Ioan Eugrad.  Roedd fy nhaid (tad fy mam), John Rowlands, yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, a’i enw barddol oedd Ioan Eugrad. Mi benderfynais ddefnyddio’r enw hwnnw, a’r “ap” hefyd – rydw i o’i linach o, wedi’r cwbwl. Roedd hi’n ddiwrnod gwych, ac roeddwn ni’n falch iawn.

Wedi ennill Y Fedal Ddrama ar y dydd Iau, mi ges i fy nghornelu gan y wasg. roeddan nhw’n awyddus iawn i mi lorio’r Steddfod am beidio perfformio’r ddrama fuddugol. Ond tydw i ddim am wneud hynny. Mae hi i fyny i eraill os ydyn nhw am berfformio’r ddrama ai pheidio. Yn naturiol, rydwi eisiau gweld “Cors Oer”, enillodd yng Nghaerdydd y llynedd, a “Tân Mewn Drain” (nid “Draen”, fel ddywedodd y Western Mail), fy nrama eleni, ar y llwyfan. Ond tydw i ddim am ddweud pwy sydd i fod yn gyfrifol am hynny.

Mae enillydd Y Fedal Ryddiaith a’ Gwobr Daniel Owen yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs, ond mae hynny’n naturiol efo llyfr. Mae hi’n fwy o broses i ddod a drama i’r llwyfan. Rhiad peidio disgwyl iddo ddigwydd ar unwaith. Beth bynnag, gan fy mod i wedi cyfeirio at Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen, dwi wedi dod â cyfrolau buddudol Siân Melangell Dafydd a Fflur Dafydd efo fi i Swydd Caint, ac yn edrych ymlaen i’w darllen yr wythnos yma.

  1. Awst 8, 2009 at 7:40 yh | #1

    Llongyfarchiadau i ti! Tipyn o gamp, ennill yr eilwaith.

  2. Dyfed
    Awst 9, 2009 at 7:59 yh | #2

    Diolch yn fawr iawn, Dafydd; roedd hi’n wythnos werth chweil, rhaid dweud. Dwi’n ddiolchgar dros ben i pawb ddaru fy stopio i ar y Maes. hefyd, i fy llongyfarch i.

  3. Rhys
    Awst 12, 2009 at 3:59 yh | #3

    Llongyfarchiadau am yr ail dro!

  1. No trackbacks yet.