Tua’r dyfodol
CYNHELIR cynhadledd yn Newcastle yr wythnos yma sydd yn trafod, ymysg pethau eraill, dyfodol newyddiaduraeth a phapurau newydd. Mae un siaradwr, Dan Lyons, yn meddwl go iawn nad oes dyfodol o gwbwl i bapurau newydd. Mae Lyons yn trafod papurau newydd Americanaidd yn benodol, ond mae ei sylwadau’n berthnasol i gyhoeddiadau yng Ngwledydd Prydain hefyd. Cofiwch, nid yw’r cyfrwng digidol yn cael fawr o glod. Mae pethau’n symud yn gyflym yn y byd hwnnw, yn tydi. Ac mae erthygl yma yn dweud bod blogio, erbyn hyn, yn hen ffashiwn.

