Archif

Archive for Mai, 2009

Tua’r dyfodol

Mai 14, 2009 Dyfed Rho sylw

Thinking DigitalCYNHELIR cynhadledd yn Newcastle yr wythnos yma sydd yn trafod, ymysg pethau eraill, dyfodol newyddiaduraeth a phapurau newydd. Mae un siaradwr, Dan Lyons, yn meddwl go iawn nad oes dyfodol o gwbwl i bapurau newydd. Mae Lyons yn trafod papurau newydd Americanaidd yn benodol, ond mae ei sylwadau’n berthnasol i gyhoeddiadau yng Ngwledydd Prydain hefyd. Cofiwch, nid yw’r cyfrwng digidol yn cael fawr o glod. Mae pethau’n symud yn gyflym yn y byd hwnnw, yn tydi. Ac mae erthygl yma yn dweud bod blogio, erbyn hyn, yn hen ffashiwn.

Tail ceffyl

Mai 14, 2009 Dyfed Rho sylw

Search Results - Houses of Parliament_1242259131870RHAG eu cwilydd nhw, y cwbwl lot: yr Aelodau Seneddol yma, dwi’n olygu – efo’u costau. Maen nhw hawilio miloedd o bunnoedd o bwrs y wlad i gynnal eu cestyll a gosod trawstiau Tiwdoraidd ar eu cartrefi – heb anghofio’r tail ceffyl, wrth gwrs: pwy sy’n medru cynrychioli eu hetholwyr, mewn difri calon, heb fod gyda tomen o gachu ceffyl wrth law? Joban amhosib, mi fasa chi’n bownd o gytuno. Cofiwch, dim ond tri esiampl sydd yma. Mi fasa hi wedi bod yn hawdd pigo ar y lleill: mae yna faint fynnir ohynyn nhw efo’u trwynau yn y pot mêl.

Wrth gwrs, tydyn nhw heb dorri’r gyfraith. Tydyn nhw heb fod yn anonest o gwbwl. Roedd ganddyn nhw hawl i’r treuliau sylweddol yma. Ond maen nhw wedi bod yn farus. Ac mae yna ambell un wedi profi nad oes rhaid mynd ar draul y cyhoedd i’r fath raddau. Dyma restr o Aelodau Seneddol sydd yn dangos ei bod hi’n bosib gwasanaethu heb gythru ym mhob ceiniog. Ni ddaru’r rhain hawlio eu lwfans ail gartre, neu dim ond hawlio mymryn ohono.

Cathod yn siarad

Mai 12, 2009 Dyfed 2 comments

DWI’N hoff iawn o gathod. Mae gen i gath: Griff, ac mae hi’n 16 oed (llun ohoni ar gofnod cynharach, yma). Roedd hi’n 10 wythnos oed pan gefais i hi. Y peth cynta ddaru hi oedd chwythu arna fi. Ond rydan ni’n frindiau rwan. Mae Griff wedi teithio ar hyd y lle efo fi: pan dwi wedi symud i swydd newydd, mewn tre newydd, mae’r hen gath wedi dwad efo fi – ac wedi cwyno’r holl ffordd cyn landio’n saff yn ei chartre newydd a cymryd mymryn o ddyddiau i setlo a ffeindio rhywle i gysgu.

Mae Griff yn siaradus iawn. Mae hi’n sgwrsio efo ni drwy’r amser. Rydan ni’n deud “Bore da, Griff” wrthi pan rydan ni’n deffro’n y bore, ac mae hi’n deud rhywbeth wrtha ni. Dwn i’m be: faswn i’n lecio meddwl mai, “Bore da,” mae hithau’n ddeud. Mwy na thebyg, mae hi’n deud: “Lle mae fy mrecwast i’r diawl diog?”

Beth bynnag, mae cathod yn sgwrsio, mae’n debyg – a dyma’r dystiolaeth:

Categories: Stwnsh

Ymosodiad

Mai 11, 2009 Dyfed Rho sylw

IFEX --_1242062247366MAE yna lot o swnian am ddiffyg rhyddid y dyddiau yma: rhyddid barn, rhyddid cwyno; ychwanegwch at hynny gwyno am gardiau ID, am gamerau gor-yrru, am cynghorau’n bysnesu yn ein sbwriel, ac mi gewch chi ddarlun o wladwriaeth “Big Brother”. Wel, tydi hynny ddim cweit yn wir. Mae yna ddadleuon teg iawn yn erbyn rhai or mesurau uchod (y nifer fawr ohonynt wedi eu cyflwyno gan lywodraeth “sosalaidd”, yn rhyfedd iawn), ac mae’n bwysig bod llais y bobl yn cael ei glywed. Ond tydan ni ddim cweit yn byw dan ddwrn haearn ar hyn o bryd. Os ydach chi am wybod am wlad sydd go iawn yn gwadu rhyddid barn, rhyddid cwyno, darllenwch am stori’r newyddiadurwr Yrysbek Omurzakov. Mi gafodd o ei guro yng ngwlad Kyrgyzstan yr wythnos yma. Mae o’n credu i’r ymosodiad ddigwydd oherwydd bod ei bapur newydd yn cyhoeddi erthyglau sy’n feirniadol o’r llwydoraeth. Tasa’r llywodraeth yng Ngwledydd Prydain efo’r un grym, mi fasa hi wedi darfon ar olygyddion papurau Llundain.

Mae hi’n anodd iawn bod yn newyddiadurwr o unrhyw fath mewn rhai gwledydd. Wrth gwrs, math newydd o newyddiaduraeth ydi blogio. Ac yn anffodus, mae unbenaethau’r byd wedi sathru ar y blogwyr, yn ogystal. Yn y fan hon, ar safle’r Pwyllgor i Amddifyn Newyddiadurwyr, mae rhestr o’r 10 gwlad gwaetha i fod yn flogiwr. Yn eu mysg mae Ciwba. Cyfundrefn sy’n cael ei brolio gan lawer un yma yng Ngwledydd Prydain (mwy o frolio yma). Ond mae Ciwba’n frwnt iawn gyda newyddiadurwyr. Does yna ddim rhyddid go iawn yno. Nid os ydach chi’n cwyno ac yn protestio’n erbyn y llywodraeth. Hawdd iawn ydi syllu’n freuddwydiol ar “iwtopia” bell. Mae byw yn yr “iwtopia” honno’n brofiad cwbwl wahanol.

Categories: Barn, Cyfryngau